Jump to content
Paula Ann Mooney
Rôl cofrestredig
Rheolwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Yn flaenorol yn gartref gofal yng Nghonwy 
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor - proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Diddymu trwy Gytundeb

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

Datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt

1. Cofrestrodd Ms Paula Mooney ("y Person Cofrestredig") gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ("GCC") fel Rheolwr Cartref Gofal Oedolion ar 15 Mai 2020.

2. O 26 Mai 2020, roedd y Person Cofrestredig wedi’i gyflogi fel Rheolwr Cofrestredig Cartref Gofal Fairhaven ("y Cartref") gan Fairhaven Care Home Limited ("Fairhaven").

3. Fairhaven yw darparwr cofrestredig y Cartref. Ar yr adeg berthnasol, roedd wedi cofrestru i ddarparu gofal personol i hyd at 33 o oedolion, 65 oed a throsodd.

4. Roedd cyfrifoldebau’r Person Cofrestredig fel y Rheolwr Cofrestredig yn cynnwys sicrhau bod y Cartref yn cael ei redeg yn ddiogel o ddydd i ddydd a bod gwasanaethau gofal o ansawdd uchel yn cael eu darparu i gynnal hawliau’r trigolion.

Atgyfeiriad i GCC

5. Ar 24 Mehefin 2021, derbyniodd GCC atgyfeiriad gan Fairhaven.

6. Roedd yr atgyfeiriad yn cadarnhau bod y Person Cofrestredig wedi ymddiswyddo o’i swydd ar 2 Ebrill 2021. Dau ddiwrnod cyn hyn, roedd y Person Cofrestredig wedi’i wahardd ar ôl cael ei hysbysu ei fod yn destun ymchwiliad diogelu gan Gyngor Conwy.

7. Roedd hyn yn dilyn atgyfeiriad diogelu a wnaed ar 19 Mawrth 2021 ynghylch un o drigolion y Cartref a oedd wedi’i dderbyn i’r ysbyty.

8. Arweiniodd natur ac amgylchiadau yr achos at ymchwiliadau gan yr heddlu a’r gwasanaeth cymdeithasol mewn perthynas ag esgeulustod honedig ac arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ("AGC") ar 29 Mawrth 2021 ("yr Arolygiad”).

9. O ganlyniad i’r Arolygiad, nodwyd pryderon pellach a chyflwynwyd atgyfeiriadau diogelu mewn perthynas â holl drigolion y Cartref.

10. Wedi hyn, bu ymddygiad y Person Cofrestredig yn destun tri chyfarfod pryderon proffesiynol cyn gwrandawiad pryderon proffesiynol terfynol ar 6 Rhagfyr 2021.

11. Ar ddiwedd y broses pryderon proffesiynol, cafodd yr honiad o esgeulustod ei brofi a chafodd y Person Cofrestredig ei atgyfeirio i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

12. Yr honiad yw, bod y Person Cofrestredig, fel Rheolwr Cofrestredig y Cartref, wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau mewn sawl agwedd fel y nodir ac y manylir yn y dogfennau canlynol yn arbennig:

a. Adroddiad AGC dyddiedig 26 Mai 2021 yn dilyn yr Arolygiad, a nododd ddiffyg cydymffurfiaeth mewn pum maes mewn perthynas â’r Cartref ac a arweiniodd at gyflwyno pum Hysbysiad Gweithredu Blaenoriaeth.

b. Cofnod Atgyfeiriad Panel Sicrhau Gwelliant a Gorfodi AGC ynghylch cyfarfod panel a gynhaliwyd ar 29 a 30 Mawrth 2021.

c. Adroddiad Gweithredu Blaenoriaeth AGC a gynhyrchwyd yn dilyn yr Arolygiad.

d. Cofnodion Cyfarfodydd Strategaeth a drefnwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 dyddiedig:

i. 1 Ebrill 2021;
ii. 27 Mai 2021;
iii. 26 Gorffennaf 2021;
iv. 6 Rhagfyr 2021.

13. Mae’r honiadau penodol a wnaed yn erbyn y Person Cofrestredig yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, ei fethiant i:
a. Sicrhau bod gwiriadau priodol yn cael eu cynnal ar staff cyn iddynt ddechrau gweithio yn y Cartref.

b. Sicrhau amgylchedd boddhaol yn y Cartref.

c. Sicrhau bod yr holl drigolion yn derbyn gofal sylfaenol, yn cynnwys gofal hylendid personol.

d. Cofnodi, adrodd a/neu uwchgyfeirio digwyddiadau a phryderon diogelu.

e. Cynnal systemau diogelu effeithiol yn y Cartref.

f. Sicrhau bod anghenion gofal trigolion, yn cynnwys eu meddyginiaeth, yn cael eu rheoli a’u cofnodi’n briodol.

g. Rhoi cyfrif digonol am drigolion a oedd â chleisiau anesboniadwy.

h. Mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan gydweithwyr iechyd am gyflwr croen gwael rhai trigolion.

i. Sicrhau bod cynlluniau gofal codi a chario digonol ar waith ynghyd â chyfarpar codi a chario sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n briodol.

j. Sicrhau trefniadau trosglwyddo priodol rhwng staff a bod newidiadau mewn anghenion yn cael eu rhannu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol.

14. Mae’r Person Cofrestredig yn mynnu bod nifer o ffactorau lliniarol wedi cyfrannu at y methiannau hyn, yn enwedig amgylchiadau’r Cartref pan gymerodd yr awenau fel rheolwr.

15. N/A

16. Mae gwybodaeth a ddarparwyd i AGC wedi datgelu bod y Person Cofrestredig yn arfer bod yn Rheolwr Cofrestredig Cartref Gofal Birch Tree Manor ar y Wirral, a oedd ei hun yn destun dros 26 o bryderon diogelu ac ymyrraeth gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr.

Cais
17. Mae’r Person Cofrestredig bellach wedi gwneud cais i ddileu ei gofrestriad drwy gytundeb.

18. Paratowyd y Datganiad o Ffeithiau y Cytunir Arnynt ar gyfer y cais hwnnw.

19. Mae’r Person Cofrestredig yn derbyn ei fod, fel y Rheolwr Cofrestredig, yn bennaf gyfrifol am bob un o’r methiannau a amlinellwyd ym mharagraff 10 uchod a bod ei weithredoedd wedi disgyn o dan y safon ymddygiad a ddisgwylir.

20. Mae’r Person Cofrestredig hefyd yn derbyn:

a. Na chyflawnodd ei gyfrifoldebau’n llawn fel Rheolwr Cofrestredig y Cartref.

b. Ei fod wedi methu â sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod y Cartref yn cael ei redeg yn ddiogel.

c. Bod ei weithredoedd wedi cyfrannu’n uniongyrchol at osod trigolion y Cartref mewn perygl o esgeulustod a niwed diangen.

Casgliad
21. Mae’r Person Cofrestredig yn cadarnhau ei fod yn cytuno â’r ffeithiau a nodwyd yn y datganiad hwn.

22. Mae’r Person Cofrestredig yn cadarnhau nad yw’n fwriad ganddo weithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd lle byddai gofyn iddo gofrestru gyda GCC ac mae’n dymuno i’w enw gael ei ddileu o gofrestr GCC drwy gytundeb o dan Reol 9 o’r Rheolau Ymchwiliad [2020].

23. Os bydd y Person Cofrestredig yn gwneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, yn groes i’w bwriad datganedig, mae’r Person Cofrestredig yn cydnabod y gall GCC ystyried cynnwys y datganiad hwn wrth ystyried cais o’r fath.