Jump to content
Matthew Griffiths
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal preswyl i blant
Canlyniad
Ni ddarganfuwyd unrhyw nam cyfredol, Rhybudd 3 flynedd gan y panel
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Priory Group
Math o wrandawiad
Addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Matthew Griffiths, gweithiwr gofal preswyl plant cofrestredig:

• Wedi methu â diogelu YP1 pan ddaeth yn ymwybodol bod ei bartner wedi bod yn methu â chynnal ffin broffesiynol briodol a'i fod wedi bod mewn perthynas amhriodol â YP1. Fe wnaeth Mr Griffiths hefyd ddatganiadau ffug i’r heddlu a’i gyflogwr pan oedden nhw’n ymchwilio’r honiadau.

Canfu’r Panel nad oedd addasrwydd i ymarfer Matthew Griffiths wedi’i amharu ar hyn o bryd a gosododd Rybudd am dair blynedd.

Mae gan Matthew Griffiths yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Honnir bod Matthew Griffiths (RP1) wedi methu â diogelu YP1 pan ddaeth yn ymwybodol bod ei bartner (Jade Fitzpatrick) wedi bod yn methu â chynnal ffin broffesiynol briodol a/neu yn ymwneud â pherthynas amhriodol â YP1. Honnir hefyd iddo wneud datganiadau ffug i'r heddlu a'i gyflogwr pan oedden nhw'n ymchwilio i'r honiadau i Ms Fitzpatrick.