Jump to content
Lyne Parry
Rôl cofrestredig
Gweithiwr Gofal Cartref
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Yn flaenorol Perthyn
Math o wrandawiad
Removal by Agreeement

Crynodeb o'r penderfyniad

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

Cyflwyniad

1. Cofrestrodd Lyne Parry gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) fel Gweithiwr Gofal Cartref ar 5 Tachwedd 2019.

2. Cyflogwyd Ms Parry gan Perthyn Belonging (Perthyn) ar adeg yr honiad.

3. Ar 20 Hydref 2021, derbyniodd GCC atgyfeiriad gan Perthyn yn datgan bod panel disgyblu wedi canfod bod gweithredoedd Ms Parry yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, a byddai wedi ei diswyddo pe na fuasai eisoes wedi ymddiswyddo.

4. Yn ddiweddarach fe wnaeth gwybodaeth bellach a ddarparwyd gan Perthyn gadarnhau bod nifer o honiadau'n ymwneud â defnyddiwr gofal a chymorth wedi cael eu hystyried yn y gwrandawiad disgyblu.

Honiadau

Eich bod chi, tra'ch bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref
Tra'n cael eich cyflogi gan Perthyn Belonging:
(1) Ar sawl achlysur, wedi symud bwyd i ffwrdd oddi wrth Ddefnyddiwr Gofal a Chefnogaeth 1 (DGAC 1).

(2) Roedd eich ymddygiad a nodir ym mhwynt 1, yn golygu nad oeddech yn cadw at:
a. Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar y Person DGAC 1;
b. Cynllun Gofal DGAC 1;
c. Asesiad Trosolwg DGAC 1.

5. Yn ystod ymchwiliad Perthyn, dywedodd dau dyst eu bod wedi gweld Ms Parry yn symud bwyd DGAC 1 i ffwrdd. Dywedodd tyst arall fod Ms Parry wedi dweud wrthyn nhw am symud bwyd DGAC 1 i ffwrdd pan oedden nhw'n bwyta'n rhy gyflym.

6. Roedd Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar y Person, Cynllun Gofal, ac Asesiad Trosolwg DGAC 1 i gyd yn nodi'r ffordd orau i gefnogi DGAC 1, ac nid ydynt yn cynnwys symud eu bwyd i ffwrdd.

7. Derbyniodd Ms Parry yn ystod cyfarfod ymchwiliad gyda Perthyn ei bod wedi gwneud hyn er mwyn ceisio arafu bwyta DGAC 1 a lleihau eu risg o dagu. Derbyniodd Ms Parry hefyd nad oedd hyn wedi ei gynnwys yng nghynllun gofal DGAC 1.
(3) Wedi codi eich llais i DGAC 1 a/neu siarad â DGAC 1 mewn mater difrïol, droeon.

(4) Roedd eich ymddygiad a nodir ym mhwynt 3, yn golygu nad oeddech yn cadw at:
a. Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar y Person DGAC 1;
b. Cynllun Gofal DGAC 1;
c. Asesiad Trosolwg DGAC 1;
d. Proffil Cyfathrebu DGAC 1

8. Mae un tyst yn disgrifio Ms Parry yn gweiddi ar DGAC 1, gan ddweud wrthyn nhw am fynd yn ôl i'r gwely. Dywedodd tyst arall fod Ms Parry wedi dweud wrthyn nhw am ddweud wrth DGAC 1 i, "Eisteddwch yn ôl lawr nawr", cyn gynted ag y gwnaeth DGAC 1 godi i fynd i'r gegin. Mae tyst pellach yn disgrifio Ms Parry fel codi ei llais at DGAC 1.

9. Roedd Adolygiad sy’n Canolbwyntio ar y Person, Cynllun Gofal, Asesiad Trosolwg, a Phroffil Cyfathrebu DGAC 1 i gyd yn nodi'r ffordd orau o gefnogi DGAC 1, ac nid ydynt yn cynnwys defnyddio llais wedi'i godi nac siarad mewn modd difrïol.

10. Derbyniodd Ms Parry ei bod yn dweud wrth DGAC 1 i fynd yn ôl i'r gwely weithiau. Roedd hi hefyd yn derbyn y gallai ei llais fynd ar brydiau, "ychydig yn uwch", pan fydd angen iddi fod ychydig yn fwy cadarn, i DGAC 1 ddeall.


(5) Ysgogi ymateb negyddol gan DGAC 1 yn fwriadol.

11. Mae tystion yn honni eich bod wedi symud gwrthrych o fewn cartref DGAC 1, gan wybod bod gan DGAC 1 anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac y byddai yn ymateb os yw pethau allan o'u lle.

12. Roedd Ms Parry yn derbyn iddi symud mat bwrdd yng nghartref DGAC 1 pan sylweddolodd nad oedd DGAC 1 yn ymateb i rywbeth oedd allan o'i le, fel arddangosiad i’w chydweithwyr. Dywedodd Ms Parry ei bod hi wedi sythu’r mat bwrdd wedyn.

13. Derbyniodd Ms Parry ei bod yn debygol bod yr arddangosiad hwn wedi achosi loes i DGAC 1, a dywedodd mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol, y byddai hi ond yn dweud wrth gydweithwyr heb wneud arddangosiad.

Casgliad


14.Mae Ms Parry yn cadarnhau ei chytundeb i'r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.

15.Mae Ms Parry yn cadarnhau nad ei bwriad hi yw gweithio mewn unrhyw swydd a fyddai'n gofyn iddi gael ei chofrestru gan GCC yn y dyfodol, a'i bod yn dymuno i'w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC trwy gytundeb o dan Reol 9 o Reolau Ymchwilio 2020. Mae'r datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wedi eu paratoi at y diben hwnnw.

16.Os, yn groes i'w bwriad a fynegwyd, dylai Ms Parry wneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, mae'n cydnabod y bydd GCC yn ystyried cynnwys y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wrth ystyried cais o'r fath.