Jump to content
John Stuart Jones
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Cyngor Bwrdeistref Sir Wrexham
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi dod o hyd i bryderon diogelu difrifol ac euogfarnau o gyhuddiadau lluosog o gyflawni troseddau rhywiol yn ymwneud â phlant, wedi’u profi yn erbyn John Stuart Jones, gweithiwr gofal cartref.

Canfu'r Panel fod addasrwydd presennol Mr. Jones i ymarfer wedi'i amharu a'i fod wedi gosod Gorchymyn Dileu sy'n golygu na all weithio mwyach mewn rôl gofal rheoledig yng Nghymru a bydd ei enw'n cael ei dynnu oddi ar y gofrestr a'i roi ar y rhestr o bobl a ddilëwyd.

Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Cafwyd Mr Jones yn euog o droseddau lluosog o ymwneud â gweithgaredd rhywiol gyda phlant.