Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod y gollfarn am Drais Rhywiol, yn groes i adran 1 (1) o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, a brofwyd yn erbyn Jake Evans Hodgson, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer presennol Jake Evans Hodgson a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Jake Evans Hodgson yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.
Mae gan Jake Evans Hodgson yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y penderfyniad ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru