Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 30 Mehefin 2021 wedi canfod bod y cyhuddiadau a ganlyn wedi'u profi yn erbyn Carlyanne Wilson, Gweithiwr Gofal Cartrefi cofrestredig.
Ar 20 Tachwedd 2020 yn Llys Ynadon Casnewydd Gwent plediodd Ms Wilson yn euog a dedfrydwyd amdani:
• dwyn arian parod gwerth £250 gan ddefnyddiwr bregus gwasanaethau gofal a chymorth;
• twyll yn yr ystyr ei bod wedi defnyddio cerdyn banc yn perthyn i ddefnyddiwr bregus gwasanaethau gofal a chymorth, gan fwriadu manteisio trwy brynu eitemau iddi hi ei hun;
• ar gyfer mynd i mewn i eiddo defnyddiwr gofal a chymorth bregus heb ganiatad tra roedd yr unigolyn yn yr ysbyty.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol i ymarfer Ms Wilson a gosod gorchymyn symud sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Mae gan Ms Wilson yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru