Ar y dudalen hon, mae ein curadur gwadd wedi tynnu sylw at rywfaint o ymchwil ac adnoddau i’ch helpu i lywio ‘gallu i gydsynio’ ac i gefnogi cynnwys pobl â gwneud penderfyniadau cymaint â phosibl.
Beth yw ymchwil a'r gallu i gydsynio
Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn rhoi’r driniaeth a’r gofal gorau i bobl. Dylai pawb gael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol er eu budd eu hunain ac er budd pobl eraill.
Cyn cymryd rhan mewn ymchwil, dylai unigolyn gael gwybodaeth am yr astudiaeth er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch p’un ai i gymryd rhan ai peidio. Fodd bynnag, efallai na fydd rhywun â gallu amharedig i wneud penderfyniadau yn gallu cydsynio i gymryd rhan. Gallai hyn fod oherwydd anaf, anabledd dysgu, problem iechyd meddwl, neu gyflwr fel dementia. Mae’n bwysig nad yw pobl â gallu amharedig yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan mewn ymchwil.
Yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol, mae darpariaethau ar gyfer ymchwil sy’n cynnwys oedolion sydd heb y galluedd i gydsynio, ond gall fod yn eithaf cymhleth. Mae’n bwysig bod gofalwyr ac ymchwilwyr yn deall y trefniadau hyn er mwyn gwneud ymchwil yn gynhwysol i bawb.
Newydd i'r pwnc hwn
Gwneud penderfyniadau a galluedd meddyliol
Galluedd meddyliol yw’r gallu i wneud penderfyniadau drosoch eich hun, a dywedir bod ‘diffyg galluedd’ gan bobl sy’n methu gwneud hyn. Amcangyfrifir bod amhariad sylweddol ar alluedd dros 2 filiwn o bobl yn y DU i wneud penderfyniad. Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ymdrin â phenderfyniadau pwysig ynghylch materion ariannol ac iechyd a gofal cymdeithasol pobl yng Nghymru a Lloegr. Mae 5 egwyddor yn sail i hyn, gan gynnwys rhagdybio bod gan unigolyn y galluedd i wneud ei benderfyniadau ei hun, oni chaiff ei brofi’n wahanol.
Mae’r fideo byr hwn gan y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol yn disgrifio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r 5 egwyddor sydd wrth ei gwraidd.
Mae’n bwysig bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chyfleu’r penderfyniadau hynny, a rhaid rhoi pob help ymarferol iddynt cyn bod unrhyw un yn eu trin yn bobl sy’n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’r fideo hwn yn disgrifio sut mae’r egwyddor hon yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael ac yn deall gwybodaeth, ynghyd â’u cynorthwyo nhw i wneud penderfyniad.
Mae nifer o adnoddau ar gael i helpu gyda chyfathrebu cynhwysol.
Asesu’r gallu i gydsynio i ymchwil
Mae asesiad ynghylch p’un a oes gan rywun y galluedd i gydsynio i ymchwil yn dilyn yr un broses ag ar gyfer pob penderfyniad arall sy’n dod o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Cyfrifoldeb yr ymchwilydd, gan ymgynghori’n briodol ag eraill, yw penderfynu ynghylch p’un a oes gan rywun y gallu i gydsynio. Dylid asesu galluedd ar yr adeg pan fydd angen penderfyniad, oherwydd gall newid gydag amser. Hefyd, gallai person feddu ar y galluedd i wneud rhai penderfyniadau ac nid eraill, gan fod rhai penderfyniadau’n gofyn bod yr unigolyn yn deall gwybodaeth fwy cymhleth, neu bwyso a mesur mwy o opsiynau nag eraill. Os sefydlir bod diffyg galluedd gan unigolyn, mae’n bwysig o hyd eich bod yn ei gynnwys mewn gwneud penderfyniadau, i’r graddau ag y bo hynny’n bosibl. Mae’n bosibl bod pobl â galluedd amharedig o hyd yn gallu cyfleu’r hyn y maen nhw’n ei ffafrio o ran cymryd rhan mewn ymchwil a dylid eu cynorthwyo i wneud hynny.
Ymchwil gydag oedolion â diffyg galluedd
Mae ymchwil iechyd a gofal cymMdeithasol yn bwysig er mwyn datblygu triniaethau gwell, ynghyd â gwella diagnosis, atal, gofal ac ansawdd bywyd. Mae pobl yn cymryd rhan mewn ymchwil am lawer o wahanol resymau. Mae pobl y mae cyflyrau fel dementia yn effeithio arnynt yn disgrifio sut mae cymryd rhan mewn ymchwil yn arwain at deimlo bod parch atynt, a’u bod yn cael cyfle i newid y dyfodol, gan roi gobaith iddyn nhw a’u plant.
Mae’n bwysig ein bod yn cynnwys orau posibl unigolion â galluedd amharedig mewn ymchwil o ansawdd uchel, gan sicrhau hefyd bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn. I helpu cyflawni hyn, cynhaliwyd cyfarfod yng Nghymru gydag arweinwyr ymchwil y DU a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn ystyried sut i’w gwneud hi’n haws i oedolion sydd â gallu amharedig gydsynio i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhyrchwyd canllawiau ar ymchwil a gallu meddyliol â nam mewn oedolion.
Gwybodaeth fanylach ar y pwnc hwn
Cefnogi cynhwysiant mewn ymchwil
Mae cydnabyddiaeth gynyddol na ddylid eithrio pobl ag anableddau gwybyddol a chyfathrebu rhag ymchwil, yn yr un modd na ddylid eu heithrio rhag gallu manteisio ar wasanaethau a thriniaeth. Er enghraifft, mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia yn rhoi’r hawl i bobl sy’n byw gyda dementia wybod am ymchwil a phenderfynu a hoffent gymryd rhan mewn ymchwil a chael cymorth i wneud. Ar draws y DU, roedd Challenge on Dementia 2020 y Prif Weinidog yn cynnwys ymrwymiadau i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, i gymryd rhan mewn ymchwil. Hefyd, mae canllawiau NICE yn amlygu pwysigrwydd rhoi cyfle i bobl sy’n byw gyda dementia gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ar bob cam o’r cyflwr.
Un o’r meysydd y mae ymchwil yn bwysig iawn ynddo yw mewn cartrefi gofal sy’n darparu gofal cymhleth i bobl sydd â’r anghenion gofal mwyaf, a lle nad oes gan efallai rhyw 70% o’r preswylwyr y galluedd i gydsynio. Datblygwyd nifer o fentrau i gynyddu’r gallu i gynnal ymchwil mewn cartrefi gofal. Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth ar-lein ENRICH, sydd â llawer iawn o adnoddau seiliedig ar dystiolaeth i gartrefi gofal, ymchwilwyr, trigolion a’u teuluoedd. Yng Nghymru, mae ENRICH Cymru wedi creu crynodeb i staff cartrefi gofal ar gynnwys preswylwyr â galluedd cyfyngedig mewn ymchwil.
Hefyd, mae adnoddau ar reoli ymchwil ar gael i gynghorau â’r rheiny sydd â chyfrifoldebau gwasanaethau cymdeithasol.
Cynnwys penderfynwyr eraill
Pan na fydd galluedd gan unigolyn i wneud penderfyniad drosto’i hun, mae pobl eraill sy’n ei adnabod yn dda yn cymryd rhan mewn gwneud y penderfyniad. Os asesir bod diffyg galluedd gan oedolion i gydsynio i astudiaeth, rhaid i’r ymchwilydd geisio cyngor gan ymgynghorai (aelod o’r teulu neu ffrind agos, yn aml) ynghylch p’un a ddylai’r unigolyn gymryd rhan yn y prosiect a beth fyddai ei ddymuniadau posibl, pe bai ganddo’r galluedd i benderfynu. Pe byddai’r ymgynghorai, ar unrhyw adeg, yn dweud y byddai’r unigolyn yn gwrthod cymryd rhan yn yr arolwg (neu y byddai’n dymuno tynnu’n ôl ohono), rhaid parchu’r cyngor. Yr ymchwilydd sy’n gyfrifol am benderfynu p’un a ddylai’r unigolyn gymryd rhan yn yr astudiaeth, oni bai ei fod yn dreial clinigol meddyginiaeth ac mae’r aelod o’r teulu’n cydsynio fel cynrychiolydd cyfreithiol.
Yn wahanol i benderfyniadau eraill am iechyd a gofal, dywed Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol nad yw penderfyniadau a wneir am ymchwil o reidrwydd yn seiliedig ar yr hyn a fyddai ‘er lles pennaf’ yr unigolyn.
Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl gwneud ymchwil nad yw’r unigolyn sy’n cymryd rhan yn elwa’n uniongyrchol ohono, ar yr amod mai nod yr ymchwil yw darparu gwybodaeth am achosion, triniaeth neu ofal pobl sydd â’r un cyflwr sy’n amharu, neu gyflwr tebyg, a’i fod yn peri risg fechan iawn ac nid yw’n cyfyngu’n ddiangen. Nid yw ‘gofal’ a ‘thriniaeth’ yn gyfyngedig i ofal a thriniaeth feddygol. Er enghraifft, gallai ymchwil archwilio sut mae bywyd o ddydd i ddydd yn y carchar yn effeithio ar garcharorion sydd â chyflyrau iechyd meddwl (Deddf Galluedd Meddyliol, 2005).
Fe wnaeth ein harolwg o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ddarganfod nad oedd y mwyafrif ohonynt yn gwybod am y trefniadau cyfreithiol sy’n galluogi pobl yn eu gofal sydd â diffyg galluedd i gymryd rhan mewn ymchwil. Roedd rhai’n meddwl y gallai’r bobl hyn gymryd rhan dim ond os oedd hynny ‘er eu lles pennaf’, ac roedd llawer ohonynt o’r farn y gallai penderfyniad gael ei wneud dim ond gan y tîm amlddisgyblaeth a oedd yn gofalu am yr unigolyn, ac nid gan ei deulu neu ei ffrindiau agos. Mae hyn yn effeithio ar gyfle pobl â galluedd amharedig i gymryd rhan mewn ymchwil a chael cefnogaeth i wneud hynny gan y rheiny sy’n darparu’u gofal.
Cefnogi aelodau’r teulu
Dylai penderfyniadau am ymchwil gael eu seilio ar deimladau a dymuniadau’r unigolyn ynghylch cymryd rhan, yn nhyb yr ymgynghorai neu’r cynrychiolydd cyfreithiol. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd bob amser gwybod beth fyddai dymuniadau rhywun arall ac yn anaml iawn y mae pobl yn siarad am eu dewisiadau o ran ymchwil yn y dyfodol. Gall hyn bryderu aelodau’r teulu ac maent yn gwrthod cymryd rhan o ganlyniad, hyd yn oed pan fyddai’r person â galluedd amharedig wedi bod eisiau cymryd rhan. Fe wnaeth ein hastudiaeth, a archwiliodd sut roedd aelodau teulu wedi gwneud penderfyniad am ymchwil ar ran rhywun arall, ddarganfod eu bod yn profi baich emosiynol a baich gwneud penderfyniad, a theimlant fod angen mwy o gefnogaeth. Mae’r darganfyddiadau wedi’u troi’n animeiddiad byr.
Golwg fanwl ar y pwnc hwn
Anghydraddoldebau ac eithrio rhag ymchwil
Mae ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r weledigaeth i bawb yng Nghymru gael bywyd hirach, iachach a hapusach, a’i nod yw gostwng anghydraddoldebau iechyd a chyflawni deilliannau iechyd cyfartal i bawb. Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod pobl â diffyg galluedd yn y DU yn aml yn cael eu heithrio rhag ymchwil, sy’n cael effaith ar ansawdd y gofal a gânt. Mae eithrio rhag ymchwil yn arwain at lefel anghymesur o ymchwil ymhlith poblogaethau sy’n gallu rhoi cydsyniad ac mae’n amddifadu’r poblogaethau hyn rhag cyfleoedd i gyfrannu at ofal seiliedig ar dystiolaeth, ac elwa ohono.
Er enghraifft, yn aml, caiff pobl ag anableddau dysgu a deallusol eu heithrio rhag ymchwil ac, felly, mae cyfleoedd i elwa o’r gwelliannau i ddarpariaeth iechyd a gofal sydd ar gael i bobl heb anableddau o’r fath yn cael eu gwarafun iddynt. Mewn un astudiaeth ryngwladol, roedd 90% o astudiaethau ymchwil yn cael eu cynllunio mewn ffyrdd a fyddai’n eithrio pobl ag anableddau deallusol yn awtomatig rhag cymryd rhan ynddynt. Fodd bynnag, gall fod yn anoddach cynnal astudiaethau ymchwil sy’n cynnwys oedolion ag anableddau dysgu sydd â diffyg galluedd i gydsynio. Yn rhannol, mae hyn oherwydd anawsterau dod o hyd i ymgynghoreion a chynrychiolwyr cyfreithiol priodol, fel y gwelwyd yn y treial hwn a arweiniwyd yng Nghymru (ANDREA-LD), a archwiliodd ddiogelwch gostwng meddyginiaeth gwrthseicotig mewn oedolion ag ymddygiad sy’n herio. Hefyd, darganfuont fod y timau gofal a’r staff cymorth yn pryderu ynghylch y trefniadau cyfreithiol yn gysylltiedig â chydsyniad.
Materion moesegol mewn ymchwil sy’n cynnwys oedolion â diffyg galluedd i gydsynio
Mae llawer o heriau cynnwys pobl â galluedd amharedig mewn ymchwil yn deillio o bryderon moesegol am y potensial i amlygu ‘grwpiau agored i niwed’ i ddrygau ymchwil. Fodd bynnag, gall gorblwyslais ar y drwg posibl arwain ynddo’i hun at ddrwg a gellir esgeuluso buddion posibl cymryd rhan mewn ymchwil. Caiff rhai o’r materion moesegol, a’r mesurau diogelu sydd ar waith, eu trafod mewn adroddiad gan Gyngor Nuffield ar Fiofoeseg yng nghyd-destun dementia.
Heriau ymarferol cynnal ymchwil gydag oedolion â galluedd amharedig
Hefyd, mae nifer o heriau ymarferol wrth gynnal ymchwil sy’n cynnwys pobl â galluedd amharedig, gan gynnwys prosesau ar gyfer cael cymeradwyaeth feosegol, cynnal asesiadau o alluedd meddyliol ac ymgynghori ag eraill. Mae canllaw gan Gymdeithas Seicolegol Prydain yn darparu gwybodaeth ymarferol am y rhain, gan gynnwys rhai astudiaethau achos. Mae ychydig astudiaethau wedi archwilio’r heriau y deuir ar eu traws wrth drefnu astudiaeth mewn cartrefi gofal a fydd yn cynnwys preswylwyr â diffyg galluedd a, hefyd, safbwyntiau preswylwyr, eu teulu a staff gofal ynghylch darparu cydsyniad.
Defnyddio dulliau cyfranogol o gydsyniad ac ymchwil
Mae dulliau eraill, fel ‘cydsyniad proses’ sy’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd a chynhwysiant, yn cael eu defnyddio fwyfwy gan alluogi mwy o bobl sy’n byw gyda dementia i gymryd rhan mewn ymchwil. Mae ymagweddau tebyg yn cael eu defnyddio hefyd mewn dulliau casglu data sy’n cynnwys pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.