Jump to content
Briff Bwrdd Mai 2024

Dyma grynodeb o’n cyfarfod Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru diweddaraf.

Llun o gyfarfod Bwrdd

Eitemau allweddol i'w trafod, penderfynu a gweithredu

Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y Bwrdd wyneb yn wyneb a dros Zoom ar 2 Mai 2024.

Cynhaliwyd yr eitemau busnes allweddol canlynol:

  • darparodd cadeiryddion grynodeb byr o'r materion allweddol a drafodwyd yn ystod rownd mis Rhagfyr o gyfarfodydd pwyllgor ac amlygwyd meysydd lle'r oeddent wedi cael sicrwydd neu wedi nodi materion yr oedd angen i'r Bwrdd llawn roi sylw iddynt,
  • gosododd y Prif Weithredwr y cyd-destun ar gyfer y cyfarfod gan ganolbwyntio'n benodol ar y pwysau parhaus o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol a'r cynnydd presennol o ran datblygu'r Swyddfa Genedlaethol a'r Fframwaith Comisiynu Cenedlaethol,
  • cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Busnes Blynyddol a'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2024 i 2025 a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Bwrdd,
  • craffodd y Bwrdd ar Adroddiad Cynnydd chwarter pedwar yn erbyn Cynllun Busnes 2023 i 2024. Cafodd yr aelodau sicrwydd bod y cynllun ar y trywydd iawn i raddau helaeth a lle roedd llithriad, bod y rhesymau’n cael eu deall a bod camau unioni priodol yn cael eu cymryd.
  • cynhaliodd y Bwrdd yr adolygiad blynyddol o'r Gofrestr Risg a chafodd sicrwydd bod gan y sefydliad systemau ar waith i reoli risgiau'n briodol yn unol â'r archwaeth risg y cytunwyd arno,
  • Cymeradwywyd strwythur pwyllgorau a chylch gorchwyl Gofal Cymdeithasol Cymru. Amlygwyd Grŵp Cydgysylltu’r Cadeirydd fel fforwm i gadeiryddion pwyllgorau gyfarfod â’r Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd i sicrhau bod prosesau cyfarfodydd y sefydliad yn gydlynol ac wedi’u cydlynu’n effeithiol.
  • bu'r Bwrdd yn trafod yr Adolygiad Blynyddol o Effeithiolrwydd y Bwrdd a Phwyllgorau ar gyfer 2023/24 a chytunwyd ar gyfres o gamau dilynol i'w hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu Parhaol Cryfhau Llywodraethu,
  • nododd y Bwrdd grynodeb o'r Sesiynau Datblygu Strategol diweddar a ychwanegwyd at y papurau fel cofnod cyhoeddus o weithgareddau dysgu a datblygu Aelodau rhwng cyfarfodydd y Bwrdd.

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r materion hyn, cymerwch olwg ar ddeunyddiau'r Bwrdd

Llun agos o gyfarfod Bwrdd

Materion sy'n dod i'r amlwg

Wrth adolygu’r cofnod gweithredu, cynhaliodd y Bwrdd drafodaeth am strategaeth ariannol tymor hir dymor y sefydliad a’r angen i ystyried sut mae’r twf esbonyddol yn y broses gofrestru yn cael ei ariannu’n ddigonol wrth symud ymlaen.

Cadarnhaodd swyddogion fod ffioedd cofrestru yn cael eu trafod ar hyn o bryd ar lefel y DU, gyda nifer o reoleiddwyr yn lansio ymgynghoriadau ynghylch cynyddu ffioedd yn ystod 2024 i 2025. Cytunodd yr Aelodau fod angen strategaeth hir dymor i gydgrynhoi cyllid y sefydliad yn y dyfodol (boed hynny drwy godi ffioedd neu ddulliau eraill) a gofynnodd i ystod o wahanol sefyllfaoedd ariannu gael eu hystyried gan y Bwrdd.

Gofynnodd yr Aelodau i ddata gan reoleiddwyr eraill y DU gael eu cyflwyno er mwyn eu cymharu a chytunwyd bod angen adolygiad manwl i sefydlu sefyllfa strategol glir ar ffioedd sy'n ystyried pwysau ariannol ar weithwyr cofrestredig; cyflogwyr a’r sefydliad. Sicrhaodd swyddogion y Bwrdd fod strategaeth gyllidebol tair blynedd ar y gweill ac y bydd yn cael ei defnyddio fel sail i lywio gofynion ariannu yn y dyfodol. Byddai rhai opsiynau sy'n dod i'r amlwg yn cael eu trafod yn ddiweddarach yn yr agenda. Cytunodd swyddogion i ychwanegu hyn at yr agenda ar gyfer Sesiwn Datblygu Strategol hydref 2024.

Golwg benodol ar...

Cyflawni yn erbyn y Cynllun Busnes

Craffodd y Bwrdd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Busnes 2023 i 2024 ar gyfer chwarter pedwar ac roedd yn falch o nodi bod 83 y cant o’r 103 o gamau gweithredu yn y cynllun ar y trywydd iawn. Derbyniodd yr aelodau adroddiadau eithrio yn erbyn y meysydd hynny nad oeddent ar y trywydd iawn yn egluro pa gamau adferol oedd yn cael eu cymryd.

Wrth graffu ar yr adroddiad Adnoddau Dynol, gofynnodd yr aelodau i swyddogion sicrhau bod data mewn perthynas â chwblhau modiwl diogelu yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ar gydymffurfiaeth hyfforddiant gorfodol a bod diweddariad ar gyfraddau cwblhau hyfforddiant cyffredinol ar gyfer yr holl staff yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod Bwrdd ym mis Gorffennaf.

Gwell llesiant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar

Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod y gwasanaeth cymorth cwnsela addasrwydd i ymarfer bellach wedi'i hen sefydlu a bod swyddogion yn monitro ymgysylltiad i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau priodol. Gofynnodd a derbyniodd yr aelodau sicrwydd hefyd bod y sefydliad yn gwneud defnydd llawn o’i rwydweithiau i hyrwyddo’r cymunedau ar-lein a sefydlwyd.

Soniodd y Bwrdd am lwyddiant seremoni Gwobrau 2024 a nododd y byddai gwerthusiad manylach o’r digwyddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Gorffennaf. Clywodd yr aelodau hefyd y bydd enillydd gwobr Gofalu yn y Gymraeg, sy'n cael ei benderfynu gan bleidlais gyhoeddus, yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.

Llun agos o bamffledi Gofal Cymdeithasol Cymru

Trafododd yr aelodau'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol digidol a nodwyd bod terminoleg ddiwygiedig yn cael ei defnyddio bellach i ddiffinio dangosyddion perfformiad allweddol yn ymwneud â'r nifer sy'n defnyddio'r cerdyn. Dywedodd y swyddogion y byddent yn adolygu'r manteision sy'n gysylltiedig â'r cerdyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.

Nododd yr aelodau fod gwefan newydd, symlach Gofalwn Cymru wedi'i lansio ym mis Mawrth 2024. Mae'r system wedi gwella cysylltiadau â'r system rheoli perthnasoedd cwsmeriaid (CRM) sy'n galluogi dadansoddiad mwy ystyrlon o ddefnydd cyflogwyr o effaith y porth swyddi. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo'r newidiadau, i gasglu adborth am y defnydd o'r gallu dadansoddol gwell.

Roedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi bod gwelliant wedi bod yn y nifer sy’n manteisio ar fwrsarïau ar gyfer 2023 i 2024 a bod swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i greu cydbwysedd priodol rhwng mynediad uniongyrchol, cynlluniau ‘tyfu eich hun’ a llwybrau eraill i dod yn weithwyr cymdeithasol cymwys.

Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd

Nododd yr aelodau fod y Pwyllgor Rheoleiddio a Safonau yn craffu’n rheolaidd ar fetrigau perfformiad sy’n ymwneud â swyddogaethau rheoleiddio’r sefydliad. Soniodd Cadeirydd y Pwyllgor am welliannau dymunol mewn perfformiad mewn nifer o feysydd. Fodd bynnag, roedd perfformiad mewn perthynas â nifer yr achosion hanesyddol yn parhau i fod yn ystyfnig o heriol. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau ei fod ef a'r Cofrestrydd wedi cyfarfod yn ddiweddar â phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru i drafod ffyrdd y gellid lleihau amserlenni mewn achosion lle'r oedd achosion troseddol cysylltiedig.

Bu'r aelodau hefyd yn craffu ar ganlyniadau'r Arolwg Omnibws a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gan ofyn a oedd angen gwneud rhagor o waith i fynd i'r afael â'r anghydweddu rhwng canfyddiad cadarnhaol y cyhoedd o weithwyr cymdeithasol a'r graddau y mae gweithwyr cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Cadarnhaodd swyddogion fod set safonol newydd o gwestiynau lles wedi'u datblygu i fod yn rhan o'r arolwg gweithlu nesaf a'r gobaith oedd y byddai hyn yn rhoi mewnwelediad cliriach i'r rhesymau pam roedd gweithwyr cymdeithasol yn teimlo heb werthfawrogiad ddigonol.

Llun o olygfa o swyddfa Caerdydd Gofal Cymdeithasol Cymru

Newyddion Bwrdd

Yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus helaeth, mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi penodi 11 aelod newydd i’r Bwrdd yn ddiweddar i gymryd lle aelodau sydd bellach neu a fydd wedi gorffen eu tymor llawn yn y swydd yn fuan.

Ymunodd chwech aelod newydd â’r Bwrdd ar 1 Ebrill 2024 a bydd pump arall yn dechrau yn eu swyddi ym mis Ebrill 2025. Yr aelodau a ymunodd ym mis Ebrill 2024 yw:

Aaron Edwards

Aaron yw Rheolwr Rhaglen Genedlaethol Teleofal TEC Cymru. Fel eiriolwr dros ofal a alluogir gan dechnoleg, mae Aaron yn falch o hyrwyddo ei botensial i wella diogelwch i bobl sydd angen cymorth ychwanegol, fel y gallant gadw eu hannibyniaeth yn eu hamgylchedd byw.

Abyd Quinn Aziz

Aaron yw Rheolwr Rhaglen Genedlaethol Teleofal TEC Cymru. Fel eiriolwr dros ofal a alluogir gan dechnoleg, mae Aaron yn falch o hyrwyddo ei botensial i wella diogelwch i bobl sydd angen cymorth ychwanegol, fel y gallant gadw eu hannibyniaeth yn eu hamgylchedd byw.

Einir Hinson

Mae Einir yn weithiwr cymdeithasol cymwys. Ar hyn o bryd mae'n rheoli'r Gwasanaeth Anabledd Integredig Lifespan, a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gynnig gofal a chymorth i oedolion ag anableddau a'u teuluoedd.

Kieran Harris

Mae gan Kieran bron i 15 mlynedd o brofiad gweithredol mewn amrywiaeth o elusennau sy’n darparu gofal a chymorth yng Nghymru a ledled y DU. Ar hyn o bryd mae Kieran yn Bennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn WCVA lle mae'n cefnogi'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal a lles.

Mark Roderick

Yn 2023, roedd Mark yn rhan o’r panel ‘Arbenigwyr trwy Brofiad’ yn ein cynadleddau Dathlu Gwaith Cymdeithasol. Mae’n gobeithio dod â phersbectif gwahanol i’n Bwrdd a dylanwadu ar newid cadarnhaol er budd y gymuned genedlaethol ehangach.

Sarah Zahid

Sarah yw'r Unigolyn Cyfrifol a rheolwr cofrestredig cartref nyrsio yng Nghonwy. Mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddarparu a rheoli gwasanaethau rheoledig, gan sicrhau bod pob person yn byw bywyd sy'n bwysig iddynt.

Mae angen recriwtio un aelod arall i ddod â'r Bwrdd i fyny i sefydliad llawn ac rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o reoli gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol ar lefel pennaeth gwasanaeth neu gyfatebol mewn lleoliad awdurdod lleol. Bydd proses dewis yn dechrau yn hydref 2024 gyda’r bwriad o alluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddechrau yn ei swydd ym mis Ebrill 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog.

Gallwch ddarllen mwy am ein haelodau Bwrdd ar ein gwefan.

Llun agos o gyfarfod Bwrdd

Cyfarfod nesaf y Bwrdd: 18 Gorffennaf 2024

Cynhelir Cyfarfod cyhoeddus nesaf y Bwrdd yn Sir y Fflint ar 18 Gorffennaf 2024. Mae'r eitemau canlynol wedi'u hamserlennu i'w trafod ar hyn o bryd:

  • Diweddariad gan gadeiryddion pwyllgorau 
  • Gosod cyd-destun a negeseuon allweddol gan y Prif Weithredwr  
  • Adroddiad cynnydd chwarter 1 y Cynllun Busnes  
  • Ymgynghori ar y codau, canllawiau ymarfer ac egwyddorion addasrwydd i ymarfer
  • Adroddiad cyflog cyfartal 2023 i 2024
  • Adroddiad cydraddoldeb blynyddol 2023 i 2024
  • Adroddiad effaith 2023 i 2024
  • Adborth ymarfer gwrando'r Bwrdd 
  • Crynodeb sesiynau datblygu strategol y Bwrdd  
  • Effeithiolrwydd y cyfarfod
Llun o drên

Nesaf

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y Bwrdd yn mynd allan i saith ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cymru i gynnal ei gyfarfodydd cyhoeddus mewn cymunedau lleol. Bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd i gymryd rhan mewn deialog dwy ffordd gyda'r sector a chaniatáu i aelodau newydd y Bwrdd ddod at ei gilydd fel tîm.

Mae awdurdodau lleol wedi cynnig cynnal y Bwrdd gyda’r cyntaf o’r rhain i’w gynnal yn Sir y Fflint ym mis Gorffennaf 2024 ac yna Powys ym mis Hydref 2024.

13 Mehefin - Sesiwn Datblygu Strategol y Bwrdd

17 i 20 Mehefin - Cyfarfodydd Pwyllgor

18 Gorffennaf - Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a Sesiwn Datblygu Strategol yn Sir y Fflint

3 i 10 Awst - gwobr Gofalu yn y Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol

16 i 19 Medi - Cyfarfodydd Pwyllgor

Hydref 2024 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a Sesiwn Datblygu Strategol ym Mhowys

Rhagfyr 2024 - Cyfarfodydd Pwyllgor

Chwefror 2025 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a Sesiwn Datblygu Strategol yn Sir Benfro

Mawrth 2025 - Cyfarfodydd Pwyllgor

Mai 2025 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a Sesiwn Datblygu Strategol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr

Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Mehefin 2024
Diweddariad olaf: 7 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (52.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch