Jump to content
Briff Bwrdd Hydref 2024

Dyma grynodeb o’n cyfarfod Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru diweddaraf.

Diolch arbennig i Gyngor Sir Powys

Fel rhan o'n gwaith parhaus ar gynnal sgwrs dwyffordd gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid allweddol, cafodd ein diwrnod datblygu strategol ar 23 Hydref ei hwyluso gan Gyngor Sir Powys.

Llun o slogan Cyngor Sir Powys

Trwy gyflwyniadau a thrafodaethau, clywsom am rai o'r datblygiadau strategol sy'n digwydd ym Mhowys i helpu i gynnal a gwella gwasanaethau yn erbyn cefndir o alw cynyddol ac adnoddau cyfyngedig. Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu 'canolfannau cymorth cynnar' yn y gymuned sy'n gysylltiedig â banciau dillad ac esgidiau;
  • rhannu meysydd gyda phartneriaid i'w galluogi i ddarparu eu darpariaeth canolfannau dydd;
  • cymryd ymagwedd rhagweithiol tuag at drawsnewid gwasanaethau plant;
  • buddsoddi mewn gwasanaethau maethu lleol i leihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau a gomisiynwyd;
  • mabwysiadu ffyrdd arloesol o ymgysylltu â phlant sy'n derbyn gofal.

Roedd o’n wych gweld rhai o'r mentrau y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gael eu ddatblygu mewn partneriaeth â'r sector yn cael eu roi ar waith gyda arloesedd, egni ac ymrwymiad. Roeddem yn arbennig o falch o weld y pwyslais ar recriwtio, cadw, lles a ddatblygiad y gweithlu. Gwelir ffocws gwirioneddol ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cafodd yr aelodau ymdeimlad hefyd o'r berthynas gefnogol i'r ddwy ochr sy'n bodoli rhwng ein dau sefydliad. Cymerodd ein huwch dîm rai meysydd lle gallai Gofal Cymdeithasol Cymru ddarparu cymorth pellach, y byddant yn ei ddilyn ymlaen.

Y peth mwyaf arwyddocaol o'n diwrnod gyda Phowys, oedd ymdeimlad o'r angerdd a'r ymrwymiad gwirioneddol sydd gan y tîm gwasanaethau cymdeithasol tuag at eu gwaith, er gwaethaf yr heriau anodd y maent yn eu hwynebu. Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Nina Davies, i ddiolch iddi hi a'i thîm am drefnu'r digwyddiad.

Llun o aelodau Bwrdd

Cyfarfod Bwrdd - eitemau allweddol ar gyfer trafodaeth, penderfyniad a gweithredu

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ar 24ydd o Hydref gyda chyfleusterau Zoom ar gael i'r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol. Cynhaliwyd yr eitemau busnes canlynol:

  • gosododd y Prif Weithredwr gyd-destun y cyfarfod, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddar a effeithiodd ar ystyriaethau'r Bwrdd;
  • Ymunodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, â'r cyfarfod i gynnal ein hadolygiad atebolrwydd blynyddol ar gyfer 2023-2024;
  • Cafodd adroddiad a chyfrifon blynyddol drafft 2023-2024 a'r Llythyr Rheoli eu cymeradwyo yn dilyn craffu manwl gan y Pwyllgor Archwilio a Risg;
  • Rhoddodd cadeiryddion pwyllgorau grynodeb o'r materion allweddol a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd pwyllgor mis Medi, gan dynnu sylw at feysydd y mae angen sylw'r Bwrdd arnynt;
              • adolygodd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn cynllun busnes a chyllideb 2024-2025 hyd at ddiwedd mis Medi 2024 gan sicrhau bod gan y sefydliad drefniadau effeithiol ar waith i fonitro ac ymateb i amrywiadau yn erbyn y cynllun;
              • bu'r Bwrdd yn trafod ac yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Cofrestru ac Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru;
              • craffodd yr aelodau a chawsant sicrwydd mewn perthynas â rheoli a darparu Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru 2023-2024;
              • cymeradwyodd y Bwrdd gylchlythyr grant Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2025-2026 yn amodol ar fân ddiwygiadau;
              • adolygodd a chymeradwyodd aelodau set diwygiedig o reolau sefydlog sy'n pennu'r ffordd y cynhelir cyfarfodydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru;
              • adolygodd a chymeradwyodd yr aelodau gynllun dirprwyo Gofal Cymdeithasol Cymru yn dilyn craffu blaenorol gan y Pwyllgor Archwilio a Risg.

              Dyma gipolwg ar yr eitemau agenda allweddol a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd pwyllgor mis Medi;

              Gwelliant

              Rheoleiddio a Safonau

              Archwilio a Risg

              • rhaglen diwylliannau cadarnhaol;
              • adolygu rhaglen hyfforddi arweinyddiaeth;
              • cefnogi'r Gymraeg yn y sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
              • adroddiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC);
              • ymgynghoriad Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae;
              • ymarfer meincnodi 'Safonau Rheoleiddio Da' yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.
              • 2023-24 ac Adroddiad Archwilio Cyfrifon a Llythyr Rheoli
              • crynodeb blynyddol o adroddiadau archwilio mewnol
              • adolygiad o'r Gofrestr Risg Strategol

              Tynnu sylw at...

              Llun o chwyddwydr

              Adolygiad Atebolrwydd Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru

              Ymunodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, â chyfarfod y Bwrdd i gynnal ein hadolygiad atebolrwydd blynyddol.

              Ymweliad y Gweinidog oedd cam olaf y broses adolygu atebolrwydd blynyddol, yn dilyn cyfres o gyfarfodydd adolygu perfformiad y sefydliad yn erbyn amcanion y llythyr cylch gwaith blynyddol a rhoddwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

              Derbyniodd y Gweinidog gyfres o gyflwyniadau gan gadeiryddion tri phrif bwyllgor y Bwrdd. Cafodd cyflawniadau’r sefydliad eu gweld trwy dair lens, sef;

              • Gwella, Datblygu'r Gweithlu, Ymchwil, Data ac Arloesi;
              • Rheoleiddio a Safonau;
              • Effeithiolrwydd Gofal Cymdeithasol Cymru.
              Llun o Dawn Bowden AS

              Dangosodd Gofal Cymdeithasol Cymru eu bod wedi cyflawni yn fras yn erbyn yr holl amcanion a nodwyd yn y llythyr cylch gwaith blynyddol yn ystod 2023 i 2024. Yn nodi;

              • cafodd y Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Strategol Gofal Cymdeithasol ei ddatblygu a'i gyhoeddi;
              • Ymlaen - lansiwyd y strategaeth ar gyfer ymchwil, data ac arloesi gofal cymdeithasol;
              • gwnaed cynnydd pellach o ran cyflawni'r Strategaeth Data Gofal Cymdeithasol;
              • rhoddwyd cymorth parhaus i'r sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant;
              • roedd y sefydliad wedi parhau i gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddiol yn llawn yn erbyn cefndir galw a chymhlethdod cynyddol, sy'n gysylltiedig ag ehangu'r Gofrestr.

              Canolbwyntiodd cyflwyniad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn fwy penodol ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu corfforaethol y sefydliad, gan bwysleisio, yn ystod 2023-24:

              • cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn ddi-amod ar ein hadroddiad a'n cyfrifon blynyddol;
              • gwnaethom lwyddo rheoli ein cyllideb a ddyrannwyd, gyda balans bach i gario drosodd
              • roedd y rhaglen archwilio fewnol flynyddol yn darparu lefelau rhesymol o sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd systemau a phrosesau mewnol y sefydliad;
              • parhaodd iechyd corfforaethol y sefydliad yn gymharol gryf fel y nodwyd gan lefel isel o salwch, lefelau isel o drosiant a lefelau uchel o forâl a chymhelliant staff.

              Wrth ymateb i'r cyflwyniad, gwnaeth y Gweinidog sylwadau ffafriol am y gwaith yr oedd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector. Soniodd am gryfder y bartneriaeth waith sy'n bodoli rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru. Roedd hi'n ymwybodol bod newidiadau sylweddol wedi bod o fewn y Bwrdd a'r tîm gweithredol yn ystod y 12 mis diwethaf a diolchodd i'r gyn prif weithredwr, Sue Evans am ei chyfraniad.

              Disgrifiodd y Gweinidog yr heriau enfawr sy'n wynebu'r sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ar hyn o bryd. Pwysleisiodd y cyfraniad pwysig y gall Gofal Cymdeithasol Cymru ei wneud wrth yrru amcanion Llywodraeth Cymru ymlaen yn y meysydd hyn. Soniodd hefyd am y twf ym maint y gweithlu cofrestredig ers 2018 a'r nifer gymharol isel o symudiadau addasrwydd i ymarfer, yr oedd hi'n teimlo ei fod yn gadarnhad o'r broses recriwtio sy'n seiliedig ar werth.

              Mewn perthynas â data gofal cymdeithasol, dywedodd y Gweinidog fod hwn yn faes o ffocws sylweddol o fewn y Senedd a'i fod yn falch o glywed bod hwn hefyd yn ffocws i Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth edrych ymlaen, dywedodd mai'r flaenoriaeth dros y tymor nesaf i sicrhau cysondeb mewn gwasanaethau ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar gynnydd yn y sector annibynnol a'r trydydd sector.

              Wrth gloi, soniodd y Gweinidog am y diwylliant cadarnhaol a oedd yn bodoli o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru a gofynnodd i'r Cadeirydd ddiolch i'n staff am y gwaith 'anhygoel' y maent yn ei wneud ar ran y sector.

              Llun o gyfarfod Bwrdd

              Materion sy'n dod i'r amlwg

              Bwrsariaethau myfyrwyr

              Wrth graffu ar y cynnydd o ran cyflawni yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Busnes, gofynnodd yr aelodau pam mai dim ond 126 o'r 170 o fwrsariaethau myfyrwyr sydd ar gael ar gyfer 2024/25 yn cael eu defnyddio.

              Ymatebodd swyddogion mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran cynyddu'r niferoedd sy'n ymuno â'r proffesiwn gwaith cymdeithasol drwy'r llwybr 'tyfu eich hun' a reolir gan yr awdurdod lleol. Ar y llaw arall, mae'r gyfradd araf o fynediad i'r proffesiwn drwy lwybr y brifysgol yn codi pryder.

              Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i gynnal cynllun bywiog 'tyfu eich hun' i redeg ochr yn ochr â chynllun bwrsariaeth mynediad uniongyrchol bywiog ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion. O ganlyniad, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r sector prifysgolion i ddeall beth sy'n gyrru'r duedd hon ac i ystyried opsiynau wrth symud ymlaen.

              Roedd un aelod yn pryderu bod yr un mater wedi ei godi gan y Bwrdd yn y blynyddoedd blaenorol ac yn teimlo nad oedd y sefyllfa'n gwella, er gwaethaf gwerth ariannol y fwrsariaeth a godwyd yn 2023-24. Cydnabodd y swyddogion nad oedd y sefyllfa yn gwella. Tynnir sylw at y ffaith bod y ffigwr targed wedi cael ei gynnal ar lefel uchel er mwyn peidio â chyfyngu ar nifer y myfyrwyr gwaith cymdeithasol sy'n dod ymlaen. Anogodd un aelod y Bwrdd i beidio â cholli golwg ar yr effaith ar sefydliadau'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector.

              Wrth geisio deall beth sydd y tu ôl i'r mater hwn, tynnodd swyddogion sylw at ystod o ffactorau allanol fel cynnydd ffioedd dysgu, costau byw a'r heriau ariannol sy'n wynebu sefydliadau addysg uwch yn ehangach. Roedd ymholiadau cychwynnol yn awgrymu bod heriau tebyg o ran recriwtio myfyrwyr i gyrsiau gradd alwedigaethol eraill.

              Tynnodd swyddogion sylw hefyd at waith a oedd yn cael ei wneud ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i barhau i gefnogi pob llwybr i gymwysterau gwaith cymdeithasol, gan ddysgu o waith tebyg yn Lloegr a'r Alban. Cafodd y gwaith hwn ei alluogi gan welliannau ym mhroses casglu data'r gweithlu a'r porth data blynyddol.

              Cytunodd y Bwrdd fod y mater hwn yn gofyn am sgwrs fwy a bod angen gwneud mwy o waith i roi'r mater neu nifer y myfyrwyr o flaen a chanolbwynt Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid ehangach.

              Fel man cychwyn, cytunodd y Prif Weithredwr i drefnu cynnal trafodaeth fwy penodol ym mhwyllgor Rheoleiddio a Safonau mis Rhagfyr gan edrych ar dueddiadau, camau gweithredu a gymerwyd hyd yma ac opsiynau pellach wrth symud ymlaen. Estynnwyd gwahoddiad i bob aelod gymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem hon.

              Llun o gyfarfod Bwrdd

              Cyfarfod nesaf y Bwrdd

              Bydd hyn yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Chwefror 2025 yn Sir Benfro. Bydd sesiwn datblygu strategol yn cael ei chynnal y diwrnod cyn, wedi ei hwyluso gan dîm gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro. Mae'r eitemau canlynol wedi'u trefnu ar gyfer y drafodaeth:

              • y newyddion diweddaraf gan gadeiryddion pwyllgorau
              • gosod cyd-destun a negeseuon allweddol gan y prif weithredwr
              • cynllun ddrafft o’r busnes 2025-2026
              • adroddiad cynnydd ar y cynllun busnes yn chwarter tri
              • adroddiad partneriaeth gymdeithasol
              • crynodeb datblygu'r Bwrdd
              • cyfarfod effeithiolrwydd.

              Cylchlythyron blaenorol y Bwrdd

              Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Rhagfyr 2024
              Diweddariad olaf: 9 Rhagfyr 2024
              Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (44.9 KB)
              Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch