Jump to content
Briff Bwrdd Gorffennaf 2024

Dyma grynodeb o’n cyfarfod Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru diweddaraf.

Diolch arbennig i Gyngor Sir y Fflint

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal ei gyfarfodydd cyhoeddus chwarterol yn un o'r saith Rhanbarth Bwrdd Partneriaeth ledled Cymru.

Cynhaliwyd y cyntaf o'n cyfarfodydd 'allan ac o gwmpas' yn Sir y Fflint ar 18 Gorffennaf, ar ôl diwrnod datblygu'r Bwrdd ar 17 Gorffennaf 2024 a drefnwyd efo Cyngor Sir y Fflint.

Logo Cyngor Sir y Fflint

Aeth tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint y tu hwnt i'r disgwyl i wneud y ddau ddiwrnod yn llwyddiant. Anogwyd y Bwrdd i glywed am rai o'r datblygiadau arloesol sy'n digwydd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â recriwtio a chadw gweithlu, hyfforddiant a datblygu, a llesiant staff.

Yn ystod sesiwn datblygu'r Bwrdd, derbyniodd yr aelodau gyflwyniadau gan gynnwys fideo effeithiol yn tynnu sylw at rai o'r pethau y mae'r Cyngor yn eu gwneud yn Sir y Fflint i wella gwasanaethau i bobl sydd angen gofal a chymorth.

Llun o Ganolfan Gofal Dydd i Oedolion Hwb Cyfle, Glannau Dyfrdwy

Roedd diwrnod datblygu'r Bwrdd yn cynnwys ymweliadau safle â Chartref Gofal Preswyl Marleyfield ym Mwcle a Hwb Cyfle, canolfan gofal dydd i oedolion yng Nglannau Dyfrdwy sydd ag anawsterau dysgu.

Cafodd yr aelodau gyfle i gwrdd â staff ac i glywed am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn ogystal â rhai o'r heriau o ddydd i ddydd maen nhw'n eu hwynebu. Roedd yn arbennig i weld Sir y Fflint yn gwneud defnydd rhagweithiol o gymorth Gofal Cymdeithasol Cymru gan gynnwys Gofalwn Cymru; cymunedau digidol; hyfforddi arloesi; rhaglenni gwerthuso ac arwain.

Mae'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr wedi ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ddiolch iddynt am gynnal y cyfarfod ac am gyfrannu at lwyddiant diwrnod datblygu'r Bwrdd.

Cyfarfod Bwrdd – eitemau allweddol ar gyfer trafodaeth, penderfyniad a gweithredu

Llun o gyfarfod Bwrdd

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd yn Neuadd Sir y Fflint gyda chyfleusterau Zoom ar gael i'r rhai nad oeddyn gallu bod yn bresennol. Cynhaliwyd yr eitemau busnes allweddol canlynol:

  • rhoddodd cadeiryddion grynodeb o'r materion allweddol a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd pwyllgor mis Mehefin ac amlygodd feysydd lle roeddent wedi cael sicrwydd neu nodi materion oedd angen sylw'r Bwrdd llawn;
  • gosododd y Prif Weithredwr gyd-destun y cyfarfod, gan ganolbwyntio'n benodol ar dderbyn llythyr cylch gwaith 2024/25 a'i hymddangosiad diweddar o flaen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i roi tystiolaeth am y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
  • adolygodd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn cynllun busnes a chyllideb 2024/25 ar ddiwedd chwarter un. Cymerodd sicrwydd bod y cynllun ar y trywydd iawn yn fras. Dangoswyd bod gweithredai cadarn ac amserol ar waith i ddelio ag unrhyw amrywiadau. Roedd cwestiynau'r aelodau yn canolbwyntio'n benodol ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, caethwasiaeth fodern a gweithwyr tramor.
  • ystyriodd y Bwrdd gynigion ar gyfer ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r Codau Ymarfer a oedd yn gosod safonau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Cymeradwywyd yr ymgynghoriad, yn amodol ar rai gwelliannau pellach i wella eglurder a chryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
  • trafododd y Bwrdd drafft Adroddiad Effaith 2023/24 a thynnu sylw at feysydd lle roedd angen rhagor o waith cyn ei gyhoeddi, yn enwedig o ran ei wneud yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol;
  • bu’r Bwrdd yn ystyried a chymeradwyo Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/24, yn amodol ar rai mân ddiwygiadau a fyddai'n cael sylw cyn ei gyhoeddi;
  • ystyriodd y Bwrdd yr Archwiliad Tâl Cyfartal ar gyfer 2024 a chymerodd sicrwydd nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod trefniadau cyflog y sefydliad yn gwahaniaethu yn erbyn pobl â nodweddion gwarchodedig;
  • trafododd yr aelodau ganlyniadau'r Ymarfer Gwrando Bwrdd diweddaraf ac roeddent yn falch i nodi, er bod sgyrsiau â staff yn nodi bod morâl a chymhelliant yn parhau i fod yn uchel, nodwyd rhai cyfleoedd datblygu y bydd y tîm rheoli yn eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf;
  • fe wnaeth aelodau adolygu a chymeradwyo'r Cynllun Dirprwyo diwygiedig a oedd wedi'i ddiweddaru yn dilyn adolygiad gan y Tîm Llywodraethu Corfforaethol.

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r materion a drafodwyd gan y Bwrdd, gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn Ein Bwrdd | Gofal Cymdeithasol Cymru

Esbonnir rhai o'r eitemau busnes mwy arwyddocaol yn fwy manwyl yn yr adran isod.

Tynnu sylw at...

Llun o chwyddwydr

Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr

Mae'r Codau yn rhan hanfodol o'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae eu cymeradwyo yn gyfrifoldeb sylweddol i'r Bwrdd. Cawsant eu hadnewyddu ddiwethaf yn 2017, ac mae swyddogion wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni gyda rhanddeiliaid i ddatblygu set ddiwygiedig o godau sy'n adlewyrchu datblygiadau ers hynny.

Yn ystod y cyfarfod, gofynnwyd i'r Bwrdd gefnogi argymhelliad bod ymgynghoriad cyhoeddus i'w gynnal i geisio barn am y codau drafft, gyda'r bwriad y byddai fersiwn derfynol a oedd yn adlewyrchu'r safbwyntiau hynny, yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo a'i weithredu yn ystod 2025.

Adolygodd yr aelodau y codau drafft. Daeth awgrymiadau defnyddiol i'r amlwg o'r trafodaethau, gan gynnwys yr angen am ddull mwy rhagweithiol o ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ffocws cynyddol neu feithrin perthynas o fewn y codau a rhai addasiadau i'r geirio.

Cytunodd swyddogion i adlewyrchu adborth y Bwrdd i'r codau drafft ac ar y sail honno, cymeradwyodd yr aelodau yr ymgynghoriad ac edrychwn ymlaen at weld fersiwn ddiwygiedig ar ôl ei chwblhau yn 2025.

Archwiliad cyflog cyfartal

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i sefydliadau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gwblhau a chyhoeddi canlyniadau archwiliad cyflog cyfartal yn flynyddol. Nid yw'n ofynnol i Goffal Cymdeithasol Cymru wneud hyn oherwydd nad yw'n cyflogi'r nifer hwnnw o bobl ond mae'n gwneud hynny'n wirfoddol er budd tryloywder ac i osgoi hunanfodlonrwydd.

Trafododd yr aelodau adroddiad archwilio cyflog cyfartal ar gyfer 2023/24 a chawsant sicrwydd nad oes tystiolaeth i awgrymu bod y sefydliad yn gwahaniaethu yn erbyn pobl â nodweddion gwarchodedig yn y ffordd y mae'n talu ei staff. Datgelodd yr archwiliad fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau bellach yn 10.96 y cant, i lawr o 11.8 y cant yn 2022/23 sy'n adlewyrchu'r ffaith goruchafiaeth menywod mewn graddau cyflog is.

Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd bod trefniadau ar waith i uwch reolwyr fonitro sefyllfaoedd lle penodwyd unigolion ar bwynt cyflog uwchben gwaelod pob gradd gyflog. Cadarnhaodd swyddogion mai dim ond unigolion sydd wedi gweithio ar gyflog uwch yn eu rôlau flaenorol sydd yn cael y cynnig o ddechrau ar bwynt cyflog uwch.

Archwiliodd yr aelodau y lleoliadau lle roedd swyddi'n cael eu hysbysebu ac os allai hynny ddylanwadu ar y gallu i recriwtio rhai rhyweddau i rolau penodol. Cytunodd swyddogion i edrych ar lwybrau hysbysebu drwy'r lens hon i sicrhau nad oedd effaith rhywedd.

Ymarfer gwrando bwrdd

Trafododd yr aelodau adroddiad gan y Cadeirydd yn crynhoi canlyniadau cyfres o sgyrsiau ar-lein gyda staff a gynhaliwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2024. Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r Bwrdd gwblhau ymarfer gwrando.

Mae'r ymarfer yn rhoi cyfle i'r Bwrdd brofi diwylliant y sefydliad yn uniongyrchol ac yn atgyfnerthu cyfrifoldeb strategol y Bwrdd dros sicrhau amgylchedd gweithle sy'n ffafriol i lesiant a chymhelliant staff.

Cymerodd tua 66 y cant o 220 o staff y sefydliad ran yn yr ymarfer. Yn rhan gyntaf y cyfarfod, rhannodd aelodau'r Bwrdd adborth am berfformiad y sefydliad, diolchwyd i dimau am eu cyfraniadau a rhannwyd newyddion aelodaeth y Bwrdd. Rhoddwyd diweddariad i staff hefyd mewn perthynas â phroses recriwtio'r Prif Weithredwr.

Ar gyfer ail ran y cyfarfod, gofynnwyd i grwpiau edrych ar y cwestiynau canlynol;

  • PARHAU - Beth yw'r pethau sy'n gwneud Gofal Cymdeithasol Cymru yn lle gwych i weithio ... A ddylen ni barhau i'w gwneud nhw?
  • STOP - Beth rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd nad yw'n ychwanegu gwerth neu'n mynd yn eich ffordd o wneud eich gwaith yn dda?
  • DECHRAU - Beth allwn ni ei wneud yn fwy effeithiol yn eich swydd?

Trafododd yr aelodau gynnwys yr adroddiad a gofynnwyd iddynt gymryd sicrwydd bod diwylliant y sefydliad yn parhau'n iach ac yn gyson ag amcanion strategol y sefydliad. Nodwyd y cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach a nodwyd gan y tîm rheoli a'r camau gweithredu a gynigir o ganlyniad.

Rhoddodd y tîm rheoli ymatebion i'r mannau allweddol i ddatblygu ymhellach sy'n deillio o ymarfer gwrando'r Bwrdd.

Materion sy'n dod i'r amlwg

Adroddiad Adolygiad Diwylliant Annibynnol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Gorffennaf 2024

Trafododd y Bwrdd yr adroddiad diweddaraf ar yr NMC. Roedd swyddogion yn cydnabod bod hwn yn adroddiad sylweddol ac er ei fod yn canolbwyntio ar NMC, mae’r adroddiad yn cynnig ystyriaethau i'w gwneud gan holl reoleiddwyr y gweithlu gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru a'u gweithrediadau Addasrwydd i Ymarfer.

Roedd swyddogion yn cydnabod sut mae gweithio mewn Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer unrhyw reoleiddiwr yn rôl heriol. Mae'r adroddiad wedi atgoffa Gofal Cymdeithasol Cymru i barhau i edrych ar y ffordd orau o gefnogi swyddogion Addasrwydd i Ymarfer ymhellach yn eu gwaith. Soniodd yr adroddiad hefyd am bwysau unigolion sy'n mynd drwy'r broses ymchwilio. Cadarnhaodd Gofal Cymdeithasol Cymru fod ganddo gynnig llesiant i unigolion sy'n destun ymchwiliad, ynghyd â chefnogaeth i ddioddefwyr.

Mae'r adroddiad yn rhoi ystyriaethau pwysig i swyddogion Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn cael eu rhannu yn y Pwyllgor Rheoleiddio a Safonau i'w drafod ymhellach.  

Recriwtio nyrsys sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol

Yn ystod y diweddariad gan y Pwyllgor Rheoleiddio a Safonau, trafododd yr aelodau yr heriau o ddod o hyd i nyrsys i weithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Cadarnhawyd bod grŵp 'Nyrsys mewn Gofal Cymdeithasol' wedi cael ei sefydlu gan y Prif Swyddfa Nyrsio yn Llywodraeth Cymru i edrych ar nyrsio drwy lens gofal cymdeithasol. Mae'r grŵp wedi ystyried cefnogaeth i nyrsys mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, gyda rhaglenni peilot sy’n cefnogi gweithwyr gofal i mewn i raddau nyrsio.

Dywedodd y rheolwyr fod Cynllun Gweithlu Nyrsys dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac mae angen gwaith archwilio pellach gyda rhanddeiliaid i adolygu'r rôl y gallai'r rolau cyswllt nyrsio arfaethedig newydd ei chwarae ym maes gofal cymdeithasol.  

Caethwasiaeth fodern

Gofynnodd yr aelodau a oedd mwy o gyfleoedd i gasglu data ar gaethwasiaeth fodern. Cydnabuwyd bod yr adroddiad ‘Anweledig’ yn nodi bod caethwasiaeth fodern yn codi yn y sector gofal.  Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu grŵp i edrych ar y mater hwn.

Gofynnodd yr aelodau a oedd modd gwneud mwy yn y broses gofrestru ac o fewn cylchlythyrau'r gweithlu. Cadarnhaodd swyddogion bod y rhain yn cael eu harchwilio, ynghyd ag ymchwil i'r hyn y mae rheoleiddwyr eraill yn ei wneud.  Cytunodd pawb fod gan Gofal Cymdeithasol Cymru rôl i uwchsgilio ac addysgu unigolion yn y sector a staff i helpu i adnabod dioddefwyr caethwasiaeth fodern, ynghyd â sicrhau bod y gweithlu'n gwybod eu hawliau a ble i ofyn am gymorth. Cadarnhaodd swyddogion y bydd rhagor o waith ar gaethwasiaeth fodern yn dod yn ôl i'r Bwrdd yn ddiweddarach.

Cyfarfod nesaf y Bwrdd

Bydd hyn yn cael ei gynnal ym Mhowys ar 24 Hydref 2024. Mae'r eitemau canlynol wedi'u trefnu ar gyfer trafodaeth ar hyn o bryd:

  • y newyddion diweddaraf gan gadeiryddion pwyllgorau
  • gosod cyd-destun a negeseuon allweddol gan y Prif Weithredwr
  • cyfarfod Atebolrwydd Blynyddol gyda'r Dirprwy Weinidog
  • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2023/24, adroddiad archwilio cyfrifon
  • Cadeirydd adroddiad sicrwydd y Pwyllgor Archwilio a Risg i'r Bwrdd
  • adroddiad monitro diwedd blwyddyn Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru 2023/24
  • llythyr cylch gwaith drafft Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2025/26
  • adroddiad Cynnydd Cynllun Busnes Chwarter Dau
  • crynodeb datblygu'r Bwrdd
  • cyflawni effeithiolrwydd

Newyddion Bwrdd

O'r chwith i'r dde: Cadeirydd ein Bwrdd Mick Giannasi, Prif Weithredwr Ymadawol Sue Evans a Prif Weithredwr Sarah McCarty
  • Cyflwynwyd memento i Sue Evans, Prif Weithredwr sy'n gadael, a bu’r Bwrdd yn ei diolch am ei gwaith. Rhoddodd Sue ei ddiolch i'r aelodau, gan nodi ei hyder yn y Prif Weithredwr newydd, Sarah McCarty.

Yn dod i fyny

16 i 19 Medi – Cyfarfodydd pwyllgor

24 Hydref 2024 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a sesiwn datblygu strategol ym Mhowys

Rhagfyr 2024 – Cyfarfodydd pwyllgor

Chwefror 2025 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a sesiwn datblygu strategol yn Sir Benfro

Mawrth 2025 – Cyfarfodydd pwyllgor

Mai 2025 – Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus a sesiwn datblygu strategol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr

Cylchlythyron blaenorol y Bwrdd

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Medi 2024
Diweddariad olaf: 3 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (54.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch