1
00:00:08,135 --> 00:00:11,059
Mae’r prosiect wedi ymddangos dros y saith
mlynedd diwethaf
2
00:00:11,059 --> 00:00:15,360
o ganlyniad i gynllunio strategol, sef y cynllun
gweithredu ar gyfer dementia
3
00:00:15,360 --> 00:00:18,220
sy’n ystyried sut y gallwn ni drawsnewid
gwasanaethau
4
00:00:18,220 --> 00:00:21,599
i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, a’u
gofalwyr hefyd.
5
00:00:21,599 --> 00:00:24,590
Dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o bobl o
bobl sydd â dementia
6
00:00:24,590 --> 00:00:29,079
wedi dod i’r ganolfan, ac mae’r holl staff
wedi elwa o raglen hyfforddiant pum niwrnod
7
00:00:29,079 --> 00:00:34,431
ac maen nhw wedi datblygu eu harbenigedd yn
sylweddol.
8
00:00:34,431 --> 00:00:37,374
Dwi’n galw nhw’n y ‘Rondel House A-Team’
erbyn hyn
9
00:00:37,374 --> 00:00:41,883
achos fy mod i mor falch o sut
maen nhw wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
10
00:00:42,239 --> 00:00:51,990
Wrth ofalu am rywun sydd â dementia neu Alzheimer’s
gall fod yn unig iawn, fel y gallwch ddychmygu.
11
00:00:52,837 --> 00:00:56,078
Mae’r holl bethau ynglŷn â Covid dros
y ddwy flynedd ddiwethaf
12
00:00:56,078 --> 00:01:00,320
wedi gwaethygu'r fath deimlad o arwahanrwydd.
13
00:01:00,320 --> 00:01:03,548
Mae’n peri pryder mewn gwirionedd,
a pan fydd Anne yn dod i’r ganolfan am ddau
14
00:01:03,548 --> 00:01:12,701
ddiwrnod
mae’r gofalwyr yn ysgwyddo peth cyfrifoldeb
15
00:01:12,701 --> 00:01:16,870
a dwi’n gwybod ei bod hi’n ddiogel ac
yn derbyn gofal da
16
00:01:16,870 --> 00:01:20,761
a galla i ddechrau peidio ag ynysu fy hunan.
17
00:01:22,570 --> 00:01:25,523
Rydyn ni wedi nodi cymaint o wahaniaeth
yn y bobl sydd wedi dychwelyd
18
00:01:25,523 --> 00:01:29,560
neu’r bobl newydd sydd bellach yn dod yma
ar ôl cyfnod Covid
19
00:01:29,560 --> 00:01:33,217
ac mae eu teuluoedd wedi dod yn ôl atom ni
i fynegi
20
00:01:33,260 --> 00:01:37,978
gymaint o wahaniaeth maen nhw wedi nodi
yn eu perthynas, hyd yn oed ar ôl dim ond
21
00:01:37,978 --> 00:01:40,162
wythnos, neu un neu ddau ddiwrnod.
22
00:01:40,162 --> 00:01:44,431
Maen nhw’n fwy hapus ac yn fwy effro,
mae’n amlwg fod dod i’r ganolfan wedi
23
00:01:44,431 --> 00:01:49,974
ysgafnu’u teimlad o unigrwydd
a gwella’u gallu i ganolbwyntio i ryw raddau hefyd.
24
00:01:49,974 --> 00:01:54,765
Felly mae’r cyfan yn ymwneud â bod yn ddychmygus,
yn greadigol ac yn ymwneud ag ymateb i beth
25
00:01:54,765 --> 00:01:57,551
mae pobl eisiau
a beth sydd ei angen arnynt.