1
00:00:57,920 --> 00:00:59,120
I grynhoi,
mae'r prosiect yn galluogi
2
00:00:59,120 --> 00:01:02,720
pobl sydd ag anabledd dysgu
i fyw'r bywydau gorau posibl
3
00:01:02,720 --> 00:01:02,934
y gallan nhw fyw
gyda rhywfaint o gefnogaeth.
4
00:01:02,934 --> 00:01:04,334
Felly, cafodd strategaeth anabledd dysgu
ei chreu ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru
5
00:01:04,334 --> 00:01:11,840
sydd ag anableddau dysgu
ychydig o flynyddoedd yn ôl.
6
00:01:12,800 --> 00:01:15,440
A chreuon ni tîm trawsnewid
er mwyn cyflawni'r holl nodau
7
00:01:15,440 --> 00:01:15,853
a restrwyd yn y strategaeth.
Gwnaethon nhw ganolbwyntio ar feysydd fel
8
00:01:15,853 --> 00:01:16,480
byw yn eich cartref eich hunan,
teimlo'n ddiogel, cael ffrindiau o'ch cwmpas
9
00:01:16,480 --> 00:01:17,268
a chael rôl ystyrlon mewn bywyd.
Mae'r prosiect hwn wedi helpu fi
10
00:01:17,268 --> 00:01:18,000
gyda llawer o bethau
sef rhoi
11
00:01:19,040 --> 00:01:21,760
llais i mi allu siarad ar ran pobl eraill,
balchder yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud
12
00:01:21,760 --> 00:01:26,320
a rhai pethau eraill hefyd.
Alla i ddim disgrifio pa mor falch
13
00:01:26,320 --> 00:01:26,760
dwi'n teimlo am y prosiect.
Mae llawer o bobl sydd wedi gwneud
14
00:01:26,760 --> 00:01:26,831
cymaint o waith ar gyfer y prosiect
yn enwedig yn ystod cyfnod Covid
15
00:01:26,831 --> 00:01:26,891
a'i gadw i fynd
ac mae pobl wedi angen y cydgynhyrchu hwn
16
00:01:26,891 --> 00:01:26,965
a theimlo'n rhan o bopeth.
Achos unwaith y byddwch chi'n rhan o rywbeth
17
00:01:26,965 --> 00:01:27,032
bydd gennych chi bwrpas clir
a dwi'n meddwl taw dyna'r unig beth
18
00:01:27,032 --> 00:01:27,098
rydyn ni eisiau mewn gwirionedd.
Dwi'n credu bod gan y prosiect
19
00:01:27,098 --> 00:01:38,202
effaith anhygoel ar y staff
diolch i'n dull o weithredu o'r enw
20
00:01:38,202 --> 00:01:38,264
cydgynhyrchu, sy'n golygu
ein bod yn cynllunio gwasanaethau
21
00:01:38,264 --> 00:01:42,262
ac atebion gyda phobl ag anableddau dysgu.
Felly mae'r staff wedi gorfod dysgu
22
00:01:42,262 --> 00:01:47,334
sut i gydweithio â phobl eraill
wrth greu a darparu'r atebion hynny.
23
00:01:47,333 --> 00:01:53,577
Nid ymgynghori nac ymgysylltu â nhw
ond cydgynhyrchu, o'r cychwyn cyntaf.