PETER:
[00:00:00] Ro’n i’n arfer gweithio yn Barnsley ac ro’n i’n cerdded o’r gwaith i’r orsaf fysiau a phwy oedd wastad ar waelod y stryd? [Pwyntio at ei wraig]
[00:00:12] Bod yn dad yw’r peth mwyaf dwi wedi’i gyflawni.
[00:00:19] Peter ydw i, cefais fy ngeni yn Barnsley, ro’n i’n arfer bod yn grochenydd, dwi wrth fy modd yn arlunio, paentio ac arlunio.
[00:00:26] Dwi wastad wedi mwynhau arlunio achos mai pensaer oeddwn i.
[00:00:33] Fi gynlluniodd yr adeilad ar lan y môr yn Llandudno. Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Diana a’r Tywysog Charles.
[00:00:42] Dwi wedi cynllunio ac adeiladu cymaint o adeiladau, ac a dweud y gwir dwi ddim yn cofio dim un ohonyn nhw, dyna un o’r pethau creulon am dementia.
[00:00:49] Y diwrnod o’r blaen ro’n i’n trio sgrifennu fy enw, fy enw i fy hun ac yn sydyn feddyliais i “Be ddiawl dwi wedi’i sgrifennu?” A doedd e’n gwneud dim synnwyr o gwbl.
[00:01:01] Er ’mod i’n gwybod nad ydw i’n gallu gwneud popeth, dwi’n byw bywyd digon normal.
[00:01:07] Dwi’n hoffi cerdded ac mae hynny’n fy nghadw’n heini.
[00:01:11] Dim ond i fyny fan hyn mae’r niwed, mae gweddill fy mywyd yn ddigon normal.
AVRIL:
[00:01:19] Mae’n garedig, mae’n hynod o annwyl, ac mae’n barod ei gymwynas i bawb. Mae’n ddyn neis ofnadwy.
PETER:
[00:01:26] Pan fydd Avril wedi mynd i’r gwaith neu rywbeth a’r bobl drws nesaf allan, fel arfer dwi’n edrych i weld sawl car sydd, ac os oes dau gar dwi’n gwybod bod neb gartref, felly dwi’n canu’r piano.
[00:01:40] Y peth gorau erioed, yn fy marn i.
[00:01:45] Os cwrddwch chi â rhywun sydd â dementia, byddwch yn amyneddgar, ac yn garedig.
AVRIL:
[00:01:52] Ry’n ni’n sôn am fwy na dim ond pobl â dementia, ry’n ni’n sôn am bobl a allai gael dementia yn y dyfodol ac fe allai hynny ddigwydd i rywun.
PETER:
[00:02:01] Mae’r pethau hyn, maen nhw’n digwydd mor sydyn.