00:07
Mae llawer o bobl ifanc sy'n mynd i ofal yn y pen draw wedi profi bywydau llawn helynt.
00:13
Yn aml, maen nhw wedi cael eu camdrin neu eu hesgeuluso,
00:17
sy'n golygu eu bod nhw mewn perygl o ddioddef camfanteisio,
00:21
camddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, a chael anhawsterau iechyd meddwl.
00:27
Pan maen nhw’n dod i ofal, i rai dyw’r cartrefi preswyl maeth ddim yn ddigon.
00:34
Mae’r bobl ifanc ‘ma yn aml yn symud o leoliad i leoliad nes iddi ymddangos
00:38
Mai dim ond llety diogel all roi’r awyrgylch diogel sydd ei angen arnynt.
00:45
Rydyn ni’n treulio amser yn siarad â’r bobl ifanc a’u gweithwyr cymdeithasol,
00:50
Gan drafod sut mae hi i fyw mewn llety diogel.
00:53
Roedd pobun yn cael cyfarfodydd ac yn gwneud penderfyniadau am le o’n i yn fy mywyd
00:59
Ac roedd hi’n teimlo fel nad o’n i’n cael fy nghynwys mewn dim ohono fe.
01:02
Doedd neb wedi rhoi rhybudd i fi mod i’n mynd i lety diogel
01:06
Wyddwn i ddim byd amdani. Dyma weithiwr cymdeithasol yn cyrraedd ac yn siarad â fi amdani
01:13
Wedyn yn sydyn daeth y dynion ‘ma i mewn tu ôl i fi
01:16
Ac yn fy nghodi a fy nhaflu fi i’r fan ac o’n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.
01:23
Meddyliais i mod i wedi cael fy herwgipio. Roedd mor frawychus ac yn ofnadwy.
01:30
Mae sawl person ifanc yn disgrifio profiadau gwael o lety diogel
01:34
Ac yn cael problemau gyda phethau fel cael eu cadw dan glo a cael eu rhwystro’n gorfforol
01:40
Bydden nhw’n eich rhoi mewn stafell wag gyda dim byd ynddi. Mynd â’r matres, popeth
01:48
Ac bydd y stafell molchi wastad dan glo. Byddai’r drws wastad dan glo
01:54
Nes i chi orfod piso. Ces i fy llusgo lawr y corridor. Roedd ganddo
02:02
ddwylo enfawr hefyd. Roedd ei fysedd yn fy llygaid wrth i fi gael fy
02:05
Llusgo lawr y corridor. O’n i’n methu gweld dim. Yn llythrennol. Roedd hi’n afiaich.
02:09
Dwi ddim yn meddwl dylai fe fod wedi gwneud hynny.
02:12
I’r gwrthwyneb mae cartrefi mwy cartrefol yn bodoli
02:17
Ac roedd y bobl oedd wedi aros yno’n cael bywyd yn haws
02:22
O’n i’n hoff iawn o’r llety diogel es i iddo. Doedd hi ddim yn droseddol
02:28
Roedd hi’n llesiant i gyd ac roeddyn nhw’n neis iawn ac yn fy neall fi’n fwy
02:33
Pêl-droed, y gampfa, coginio – mae ganddynt stafell gerddoriaeth yno gyda chyfrifiaduron Apple Mac
02:39
Ac offerynnau ac ati. Pethau fel ‘na. Dwi’n teimlo’n well ynof fi fy hunan
02:44
Ers i fi fod yma – dwi ddim yn cymryd cyffuriau, dim yn hongian o gwmpas gyda’r un bobl
02:48
Ers i fi fod yno.
02:51
Er hynny, dim ond ychydig sy’n derbyn yr help sydd ei eisiau arnynt ar gyfer
02:55
Problemau ymddygiad, emosiynol a iechyd meddwl.
02:59
Wrth adael llety diogel, mae pobl ifanc yn dilyn llwybrau gwahanol
03:04
Ychydig dros draean o’r bobl ifanc ‘ma setlodd mewn lleoliadau newydd ac yn gwneud yn dda
03:11
Gwnaeth y gweddill yn wael. Cafodd nifer broblemau fel hunan-niweidio a mynd ar goll
03:20
Ac aeth nifer nôl i lety diogel.
03:22
Mae presenoldeb camfanteisio yn ogystal â iechyd meddwl gwael, yn ogystal ag esgeulustod
03:27
Mae hynny’n arwain at achosion cynyddol o ymddygiad gan plentyn a all olgyu eu bod eisiau cael eu dal yn ddiogel.
03:32
a all olgyu eu bod eisiau cael eu dal yn ddiogel. Mae astudiaethau’n dangos hyn. Dwi’n teimlo bod eisiau gweithwr cymdeithasol arnon ni
03:37
Sy wedi’i hyfforddi’n glinigol yn ogystal â’r llwybr cyffredin. Ond dyna beth dwi eisiau
03:42
Brwydro amdano. Dyna beth dwi’n brwydro amdano nawr a beth hoffwn i weld.
03:48
Mae canlyniadau positif i’w weld i lawr i ansawdd lleoliadau’r person ifanc,
03:54
Perthnasau cyson gydag oedolion allweddol a mynediad at gymorth iechyd meddwl digonol
04:00
Yn yr achosion hyn, cafodd lleoliadau eu cadw, a pharhaodd pobl ifanc
04:06
I wneud cynnydd positif ac hyd yn oed yn dangos diddordeb mewn cynllunio eu gyrfa
04:12
Rhaid gweithredu i alluogi’r cynnydd positif i’n pobl ifanc i gyd.