Cynnal eich cofrestriad
Mae'r fideo hwn yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynnal eich cofrestriad, gan esbonio sut i ddefnyddio CGC ar-lein i reoli eich cyfrif.
Adran ‘Fy Nghofrestriad’ GCCarlein yw’r lle chi fynd i reoli popeth sy’n ymwneud â’ch cofrestriad.
Gallwch ddefnyddio’r ddewislen i lywio’n gyflym i bethau penodol y gallai fod angen i chi eu gwneud, neu gallwch glicio ar ‘Fy Nghofrestriad’ i weld eich manylion cofrestru.
Yma fe welwch eich rhif cofrestru a manylion eich cofrestriad, gan gynnwys eich dyddiad adnewyddu.
Pan ddaw’n amser adnewyddu eich cofrestriad, gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r botwm ‘Adnewyddu’.
Os nad ydych bellach yn gweithio mewn rôl sy’n gofyn am gofrestriad, gallwch wneud cais i gael eich tynnu oddi ar y Gofrestr gan ddefnyddio’r botwm ‘Cais am Diddymiad’
Gallwch ychwanegu DPP at eich cofnod unrhyw bryd.
Dewiswch yr opsiwn DPP o’r ddewislen ‘Fy Nghofrestriad’. Bydd hyn yn mynd â chi i'r dudalen DPP, sydd â gwybodaeth am y gofyniad DPP, a sut i ychwanegu DPP.
Gallwch glicio ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am sut i fodloni eich gofyniad DPP.
Sgroliwch i lawr y dudalen i weld eich cofnod DPP.
Dyma lle gallwch chi ychwanegu DPP gan ddefnyddio'r botwm a ddangosir. Gallwch hefyd allforio eich cofnod DPP os oes angen, gan ddefnyddio'r botwm ar y dde.
I ychwanegu DPP, cliciwch ar y botwm ‘Ychwanegu DPP’.
Dewiswch y math o’r gwymplen ac ychwanegwch fanylion eich gweithgaredd hyfforddi neu ddysgu.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch barhau i ddysgu a datblygu fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, a gall llawer o bethau gyfrif fel DPP.
Mae gennym fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel DPP ar ein gwefan.
Nesaf, dywedwch wrthym yn gryno sut mae'r gweithgaredd hwn wedi cyfrannu at eich datblygiad ac wedi helpu i lywio eich ymarfer.
Bydd gwahanol weithgareddau yn dysgu pethau gwahanol i chi, ac mae’n bwysig myfyrio ar sut mae eich gweithgareddau dysgu wedi eich helpu i ddatblygu eich sgiliau fel gweithiwr gofal proffesiynol.
Nesaf, bydd angen i chi ddweud wrthym pryd y cwblhawyd yr hyfforddiant hwn.
Os cwblhawyd eich hyfforddiant mewn un diwrnod, bydd y ‘Dyddiad o’ a’r ‘Dyddiad i’ yr un peth.
Rhaid iddo fod o fewn eich cyfnod cofrestru presennol.
Yn olaf, mae angen ichi ddweud wrthym faint o oriau a gymerwyd i gwblhau'r hyfforddiant.
Mae'r maes hwn yn derbyn rhifau yn unig.
Unwaith y byddwch wedi gorffen, cliciwch ar y botwm ‘arbed’ i ychwanegu’r cofnod hwn at eich cofnod DPP.
Fe welwch fanylion eich ffioedd cofrestru trwy ddewis yr opsiwn ‘Ffioedd a Thaliadau’ yn y ddewislen ‘Fy Nghofrestriad’.
Yma gallwch weld unrhyw ffioedd sy'n ddyledus, talu eich ffioedd, yn ogystal â gofyn am dderbynebau ar gyfer unrhyw ffioedd a dalwyd.
I dalu ffi, cliciwch ar y botwm ‘Talu Nawr’ a ddangosir.
Bydd hyn yn mynd â chi i'r dudalen dalu lle gallwch naill ai sefydlu debyd uniongyrchol neu dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.
Sefydlu debyd uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf o sicrhau bod eich ffioedd yn cael eu talu ar amser bob amser.
Os ydych wedi newid eich cyflogaeth, mae angen i chi ddweud wrthym.
Dewiswch yr opsiwn ‘Fy nghyflogaeth’ o’r ddewislen ‘Fy Nghofrestriad’ i fynd â chi i’r dudalen cyflogaeth.
Sylwch os ydych yn newid i rôl sy'n gofyn am gofrestriad gwahanol, bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffurflen 'newid mewn cofrestriad'.
Gellir gwneud hyn drwy'r tab 'fy hysbysiadau'.
Yma fe welwch eich cofnod cyflogaeth gyfredol.
Os oes gennych chi fwy nag un cyflogwr, mae angen i chi ychwanegu manylion eich cyflogaeth newydd.
I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Ychwanegu Manylion Cyflogaeth Newydd’ ar y dudalen.
Ychwanegwch fanylion eich rôl newydd yn yr adrannau gofynnol, gan gynnwys pryd y gwnaethoch ddechrau'r rôl hon ac os mai dyma'ch prif gyflogaeth.
I ddewis eich cyfeiriad gwaith, dechreuwch deipio enw eich cyflogwr neu god post cyfeiriad gwaith yn y blwch a dewiswch y cyfeiriad cywir o'r gwymplen.
Yna bydd angen i chi ddewis ym mha leoliad rydych chi'n gweithio a gyda phwy.
Cliciwch ar ‘Arbed a Chau’ i ychwanegu’r gyflogaeth hon.
Sylwch, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym pan fyddwch yn gorffen mewn rôl.
Os yw unrhyw rai o'ch cofnodion cyflogaeth eraill wedi dod i ben, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru hyn ar eich cyfrif.
Bydd eich cyflogaeth newydd nawr yn ymddangos yn eich rhestr gyfredol.
I ddod â hen gyflogaeth i ben, cliciwch y saeth a dewiswch y botwm perthnasol.
Bydd angen i chi ddweud wrthym y dyddiad y gadawoch, a dewis y rheswm dros adael o'r gwymplen.
Cliciwch ‘Arbed a Chau’ i ddychwelyd i’r dudalen cyflogaeth, lle na fydd y gyflogaeth a ddaeth i ben bellach yn ymddangos yn eich rhestr gyfredol.
Cofiwch ddewis prif swydd newydd os ydych yn dod â hen swydd i ben.
Mae angen i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'ch statws gydag unrhyw gyrff rheoleiddio eraill. Dewiswch ‘Corff Rheoleiddio’ o’r ddewislen ‘Fy Nghofrestriad’ i fynd i’r dudalen.
Defnyddiwch y dudalen hon i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.
Os oes angen i chi wneud datganiad, cliciwch ar yr opsiwn ‘Gwneud Datganiad’ yn y ddewislen ‘Fy Nghofrestriad’
Yma mae angen i chi ddweud wrthym am unrhyw faterion sy'n ymwneud â'ch statws iechyd, disgyblaeth neu drosedd.
Mae'n ofyniad ar eich cofrestriad i wneud hynny.
Dewiswch y math o ddatganiad y mae angen i chi ei wneud, a llenwch y manylion ar y ffurflen gyda chymaint o wybodaeth â phosibl.
Mae angen i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol.
I wneud hyn, sgroliwch dros eich enw ar ochr dde'r faner a dewiswch pa fanylion y mae angen i chi eu diweddaru.
Gallwch wneud unrhyw newidiadau i'ch cyfeiriad cartref a'ch enw yma.
Os oes angen i chi ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost, cysylltwch â ni yn uniongyrchol a gallwn helpu.
Sylwer, ar gyfer newid enw, bydd angen tystiolaeth wedi'i gwirio o'r newid arnom.
Gallwch uwchlwytho unrhyw ddogfennau yma.
Yn yr adran tanysgrifiadau, gallwch reoli sut rydym yn cysylltu â chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth am unrhyw un o'r pynciau a ddangosir, gallwch ddewis y rhai yr ydych eu heisiau a chewch eich cynnwys ar ein rhestrau postio ar gyfer yr eitemau hynny.