GAVIN WATKINS:
[00:00:04] Pan gefais ddiagnosis o Alzheimer’s cynnar yng Nghernyw, roedd y nyrs seiciatrig yn arfer dod i roi’r tabledi i mi,
[00:00:13] byddai’n ffonio unwaith y mis ac wedyn ar ôl iddo orffen gweithio ac yn dweud “Popeth yn iawn?”
[00:00:19] A ninnau’n dweud “Ydy, popeth yn iawn”.
[00:00:22] “Iawn, fe ddo i â’ch presgripsiwn draw”, a byddai’n cyrraedd ac yn dweud “Wela i chi fis nesa”, a dyna ni.
[00:00:29] Ac ro’n i’n gweld meddyg teulu unwaith y mis yno. Dim byd o gwbl, dim cefnogaeth o gwbl.
[00:00:36] Fe ddaethon ni yma ac oherwydd ein bod wedi symud yma roedd angen i mi fynd i weld arbenigwr ac fe awgrymon nhw ’mod i’n mynd i un o’r caffis cof am fy mod i’n eistedd yn segur ac yn gwneud dim.
[00:00:48] Doedd gen i ddim sgwrs o gwbl, dim ond ie a na, os oeddech chi’n lwcus.
[00:00:55] Fe ddechreuais i fynd, do’n i ddim yn ei hoffi, do’n i ddim eisiau mynd eto ar ôl yr wythnos gyntaf.
[00:01:01] Roedd yr ail wythnos yn well, a nawr dwi’n mynd drwy’r amser, mae’n rhaid i mi fynd iddyn nhw, mae’n rhaid i mi fod yno bob wythnos os galla i.
[00:01:11] Ry’n ni’n lwcus, mae gennym gar, ond mae ’na bobl sydd heb gar ac mae’n wirion faint o bobl sy’n methu cyrraedd yno.
[00:01:21] Mae dros 9,000 o bobl sydd ddim yn cael help, yr hyn sydd ei angen.
[00:01:27] Mae’r gwasanaethau ar gael, mae’r caffis cof ar gael, ond cyrraedd yno yw’r broblem fwyaf.
[00:01:34] Dwi wedi sefydlu elusen, Cymuned Dementia Blaenau Gwent, i helpu pobl ym Mlaenau Gwent â dementia i deithio yno oherwydd cludiant yw’r broblem fwyaf.
[00:01:34] Mae’n dod â chi allan i’r gymuned.
[00:01:50] Ry’ch chi’n sgwrsio, ac yn siarad â phobl eraill sydd â’r un problemau â chi neu broblemau eraill.
[00:01:58] Mae’n gyfle i ofalwyr siarad â gofalwyr eraill fel nad y’n nhw’n teimlo’u bod ar eu pen eu hunain, a bod pobl eraill yn gwneud yr un math o waith â nhw.
[00:02:07] Mae’n rhaid cofio bod pawb yn wahanol, dy’n ni ddim i gyd yr un fath, mae angen trin pob un ohonom yn wahanol.