Dyma ganllaw hanfodol a chryno am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal y gofrestr o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r Gofrestr yn dangos pwy sydd wedi profi fod ganddynt y gwerthoedd, sgiliau a'r hyfforddiant cywir i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol.
Mae'n helpu'r cyhoedd i wybod y gallant ymddiried ynddoch a dibynnu arnoch fel gweithiwr.
Pan fyddwch wedi'ch cofrestru, byddwch yn gallu defnyddio teitl eich proffesiwn.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan
• y côd ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol
• Canllawiau ymarfer ffurfiol sy'n disgrifio arfer da
• Gwybodaeth ac adnoddau sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r pethau sy'n bwysig i chi yn eich gwaith
• Gwahoddiadau i ddigwyddiadau, cynadleddau ac ymgynghoriadau
Mae’n amser cofrestru!
Rhaid i bawb ar y gofrestr gytuno i ddilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol ac Arweiniad Ymarfer ar gyfer eu rôl. Gellir gweld copïau yn y ffurflen gais ac ar ein gwefan.
I gychwyn eich cais, ewch i GCCArlein i greu cyfrif.
GCC ar-lein yw ein porth cofrestru. Mae'n cynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i gofrestru.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, gallwch ddefnyddio GCC ar-lein i wneud cais ar-lein.
Fel rhan o'r broses hon, bydd angen i chi uwchlwytho'r dogfennau a restrir a dewis rhywun priodol i gymeradwyo'ch cais.
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch ddefnyddio GCC ar-lein i gynnal eich cofrestriad.
Mi fydd hyn yn eich galluogi i ddiweddaru unrhyw newidiadau fel eich cyfeiriad, manylion swydd, gwybodaeth bersonol a phroffesiynol, adnewyddu eich cofrestriad a thalu eich ffioedd.
Gallwch hefyd ddefnyddio GCC ar-lein i gadw cofnod cyfoes o'ch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Am fwy o wybodaeth neu i gychwyn eich cofrestriad, ewch i GCCArlein.cymu