00:06
Haia, Deb?
00:09
Ie, pam?
00:10
Dawn, o wasanaethau cymdeithasol.
00:11
Be ti am?
00:13
Ga i ddod mewn a gewn ni trafod.
00:17
Dweud beth ti am yn gynta.
00:19
Rydyn ni wedi derbyn adroddiad heddlu sy'n ymwneud â phryderon amddiffyn plant,
00:25
felly bydde fe'n well taswn i'n dod i mewn.
00:28
A beth os fi ddim am i ti ddod i mewn?
00:30
Mae o yn ymwneud â chi a'ch gŵr yn yfed drwy'r dydd , a chi ddim yn gwybod lle mae'r plant,
00:35
felly yn wir, bydde fe'n well se ni'n trafod y tu fewn.
00:42
Diolch.
00:46
Mi a'i drwy rhai o'r pryderon amddiffyn plant oedd yn yr adroddiad heddlu.
00:49
Mae'n dweud fan hyn bod Peter, eich gŵr, a chi wedi bod yn yfed drwy'r dydd.
00:55
A bod y plant wedi gadael y tŷ, ar ôl i chi ffraeo. Ydych chi eisiau dweud wrtha'i i le aeth y plant?
01:01
Na dim rili.
01:03
Mi fasa fe yn help i gael ochr chi o'r stori.
01:05
Wel os yw'r heddlu wedi gweud wrtho ti, ti'n gwybod yn barod yn dwyt ti?
01:11
Aeth Llŷr mas i rywle ar ei ben ei hun ac aeth Megan i dŷ John.
01:16
Mae'n dweud yma bod John yn droseddwr rhyw, a bod chi'n gwybod hynny.
01:20
Un o'n pryderon ni ydy
01:23
eich bod chi wedi gadael Megan i fynd i dŷ John. A da ni ddim yn meddwl bod hynny'n addas.
01:29
Ie ond bydde fe ddim yn wneud dim byd i Megan, ni'n nabod e.
01:31
Wel, mae yna pryder rwan am ddiogelwch Megan.
01:34
Wel y peth yw, o ni ddim yn gwybod bod hi ddim yma, a mae yna gwahaniaeth mawr yndoes e.
01:38
Ga'i ofyn pam doeddech chi ddim yn gwybod bod hi ddim yma?
01:40
Achos aeth hi mas heb ofyn! Y peth gyntaf oeddwn i'n gwybod
01:46
oeddwn i'n mynd i weud wrthi hi bod bwyd yn barod, a doedd hi ddim yna.
01:49
A dyna pan ffoniais i'r heddlu.
01:51
Pryder arall sydd gennym ni ydy bod chi a'ch gŵr yn yfed a bod hyn yn achosi problemau ariannol i chi?
01:56
Beth?
01:58
Gwnaethoch chi sôn wrth yr heddlu am effaith ariannol arno chi fel tŷ a theulu.
02:04
Na.
02:06
Wel dyna sydd yn yr adroddiad heddlu.
02:09
Wel mae nhw'n dweud celwyddau.
02:11
Pan ddaeth yr heddlu yma, fe welson nhw bod yna dyllau mewn drysau.
02:16
Beth sydd gyda hwna i wneud gyda hyn?
02:19
Wel mae hyn yn fflagio i fyny rhyw fath o broblemau.
02:23
Sdim tyllau yn y drws ffrynt oes e. Twll mewn ambell ddrws y tu fewn, dyna gyd.
02:32
Ond Llyr gwnaeth hwna un noson, fe wnaeth 'na.
02:35
Felly mae'n dweud fan hyn, drws llofft a 'stafell ymolchi. Pam oedd Llyr yn cicio tyllau?
02:41
Beth sydd gyda hwna i wneud gyda hyn? Mae plant yn cicio!
02:46
Wel fel arfer, dim cymaint a hyna.
02:47
Reit, fine, rhowch e mewn gofal te.
02:50
Wel dydyn ni ddim yn mynd i wneud hynny.
02:53
Achos dwi wedi cael llond bol o hyn, gallwn i wneud heb hyn.
02:57
Dim dyna ydy bwriad heddiw. Nid dyna fydde'r canlyniad gorau.
03:01
So ti wedi dod fan hyn i ddweud y drefn wrtha i achos bod twll yn drws ei 'stafell wely?
03:06
Bwriad heddiw ydy dwi wedi dod fan hyn i wneud contract o ddisgwyliadau efo chi.
03:12
Contract sy'n egluro beth rydyn ni'n disgwyl i chi a Peter i wneud i gadw y plant yn ddiogel fel rhieni.
03:20
Sut wyt ti'n gallu wneud 'na? Ti ddim hyd yn oed yn gwybod beth sydd wedi digwydd.
03:24
'Na gyd sydd gyda ti yw adroddiad heddlu, ac mae hwna'n anghywir.
03:28
Pam rydych chi'n meddwl bod hyn yn anghywir?
03:29
Achos mae e'n anghywir!
03:31
Ond mae'r adroddiad wedi cael ei ysgrifennu gan plismon, fe oedd yma ac roedd yna gamera ar ei gorff o.
03:37
Ac mi fydda i ar hwna, achos bues i'n chwilio am Megan.
03:39
Wel i fynd yn ôl at y matter dan sylw, mae angen i chi weithio gyda fi nawr Debs.
03:45
Ti ddim yn gwrando arno fi. Sut fi fod i weithio gyda ti os na wyt ti'n gwrando arno fi?
03:48
Wel gad i mi egluro. Beth fyddwn ni'n disgwyl o dan y contract disgwyliadau, oherwydd mae yna pryderon yn ymwneud â chi'n yfed,
03:55
a bod yr yfed yn achosi broblemau.
03:59
Wyt ti'n yfed?
04:01
Dydyn ni ddim yn sôn amdana i fan hyn Deb.
04:04
Wel sdim ots gyda fi. Ti ddim yn gwybod beth sydd angen trafod yn tŷ fi chwaith.
04:09
Mae angen i ni fynd nôl at hyn nawr Deb, a mae angen i chi weithio gyda ni.
04:12
Go on te. Achos ti amlwg ddim yn gwrando arna i.
04:15
Oherwydd y pryder ynglŷn â'r digwyddiad domestig rhyngoch chi a Peter, yr eitem gyntaf ydy
04:22
bod Peter ddim yn gallu dod gytre gyda'r nôs. Felly geith e fod yma yn y dydd.
04:26
Beth?
04:27
Ond gyda'r nôs bydd rhaid iddo ffeindio rhywle arall oherwydd yr yfed.
04:31
Aros, ti'n dweud wrtha i bod Peter ddim yn cael ddod adref?
04:34
Ydw. Ar hyn o bryd rydyn ni'n disgwyl iddo ffeindio rhywle arall i aros, tra bod ni'n gweithio gyda'n gilydd.
04:40
Aros nawr, beth os byddwn i'n dod i'ch tŷ chi a dweud "O sori dydy'ch gŵr ddim yn cael dod adref ar ôl gwaith"?
04:47
Deb rydyn ni'n crwydro nawr, mae rhaid i chi weithio efo ni yn fan hyn. Felly bydd angen iddo ffeindio rhywle arall.
04:53
Wel na! Ma fe'n byw man hyn!
04:55
Ie ond mae angen i fe ffeindio rhywle i aros.
04:58
Pam?
04:59
A ble mae e i fod i fynd? Y YMCA? Bocs ar y stryd?
05:03
Ffrindiau. Teulu.
05:05
Na.
05:06
Mae'n dwued ar y system, nain Ceri, taid Vaughn?
05:08
Ie, mam a dad.
05:10
Ydy e'n gallu aros gyda nhw?
05:13
Na.
05:15
Mae rhaid i sortio rhywbeth fel teulu felly. Bydd rhaid iddo ffeindio rhywle arall.
05:18
Deb gad i mi fynd drwy'r contract disgwyliadau efo chi. Beth rydyn ni'n disgwyl i chi wneud, achos os ydych chi ddim yn cydymffurfio-
05:27
Pwy sy'n dweud?
05:31
Wel mi fyddai'n gorfod trafod y matter gyda fy rheolwr.
05:34
A wedyn efallai byddwn ni'n gorfod ei hystyried fel achos amddiffyn plant, a chynhadledd achos.
05:39
So ti'n mynd i fynd â'r plant oddi wrtha i?
05:44
Gad i mi orffen fynd drwy'r contract yma yn gyntaf.
05:48
Yr ail peth ydy, bydd Peter a Debs ddim yn yfed gyda'r nôs.
05:52
Ti'n methu dweud wrthyn ni bod ni'n methu cael drink, neu mynd mas i yfed.
05:57
Ie ond alcohol ydy beth sy'n achosi chi i ffraeo.
06:01
Na, mae pawb yn ffraeo.
06:04
Gad i mi orffen. Peth arall byddwn ni yn hoffi i chi wneud
06:07
ydy bod chi a Peter yn mynd ar gwrs cyllid a chwrs rhianta.
06:11
Cwrs? Ar sut i fod yn rhiant? Fi yn edrych ar ôl y plant.
06:17
Mae gyda nhw tô uwch eu pennau, mae gyda nhw digon o fwyd, mae digon o gariad gyda nhw.
06:23
Gad i mi orffen yn gyntaf. Dyma'r contract disgwyliadau.
06:26
Y peth arall mae rhaid i chi wneud ydy gofalu bod Megan ddim yn mynd i dŷ John a bod Llyr ddim o gwmpas y stâd.
06:33
Oce so geith hi ddim tad o gwmpas y lle, geith hi ddim fynd at ei wncwl. Ydy hi'n cael mynd i'r ysgol?
06:39
Dwi wedi egluro beth rydyn ni'n digwyl ganddoch chi. A byddwn ni yn monitro'r sefyllfa.
06:42
I wneud yn siwr bod y plant yn ddiogel a'ch bod chi yn cydymffurfio.
06:46
A sut chi'n mynd i fonitro hyn? Rhoi plismon wrth y drws i wneud yn siwr bod Pete ddim yn dod adref?
06:54
Na, mae gyda ni dîm tu allan i oriau. Mi fydda nhw'n gallu ddod yma ar benwythnos, gyda'r nôs, i wneud yn siwr eich bod chi yn cydymffurfio.
07:00
Rwy methu credu hyn.
07:03
Reit, mi wnaf i adael gopi o hyn iddo chi. Gwnewch chi arwyddo?
07:07
Na.
07:09
Wel hyd yn oed os wnewch chi ddim arwyddo, rydyn ni yn disgwyl i chi cydymffurfio.
07:13
Na ti methu gwneud i mi arwyddo fe. Cer mas.
07:16
Wel mi fydda i yn dod yn ôl i wneud yn siwr eich bod chi yn gweithio gyda ni.
07:19
So beth wyt ti yn mynd i wneud ydy plismona, nage helpu.
07:23
Mae angen cadw'r plant yn ddiogel.
07:25
Fi yn cadw'r plant yn ddiogel!
07:29
Dwi yn mynd yn ôl i'r swyddfa, ac mi wnaf i drafod gyda fy rheolwr.
07:32
Dyma copi i chi, a dyna beth rydyn ni yn disgwyl i chi wneud ac i gydymffurfio.
07:38
Mae hyn yn ridiculous.