00:00
Felly, fel rydyn ni wedi dweud yn gynharach, gyda'r cynllun diogelwch yma,
00:06
rydyn ni'n mynd i eistedd lawr gyda'n gilydd fel rydyn yn gwneud rŵan a 'dyn ni'n mynd i edrych ar
00:10
beth sy'n digwydd pan dydy pethe ddim yn mynd yn dda iawn adref, a beth sy'n digwydd pan mae pethe yn mynd yn dda
00:16
a sut ydyn ni'n mynd i gael mwy o adegau da a llai o gyfnodau anodd.
00:21
Iawn? Felly yn gyntaf, bydden ni'n meddwl yn benodol am eich perthynas chi a Llyr,
00:27
a hefyd y ffraeo sy'n digwydd rhyngoch chi a Peter. Beth ydyn ni'n gallu gwneud
00:34
i leihau'r risg ohonoch chi'n ffraeo? A hefyd meddwl am os oes yna deulu neu ffrindiau sy'n gallu helpu
00:42
chi ar yr adegau yma. Ydy hynny'n swnio'n iawn?
00:47
Ydy.
00:50
Felly oeddech chi'n sôn bod y ffraeo rhyngoch chi a Peter yn eich poeni chi a hefyd
00:58
eich bod chi'n poeni am y ffaith fod pres yn brin. Rydyn ni hefyd yn poeni am y ffaith nad oeddech
01:03
chi'n gwybod ble oedd Megan, na Llyr, pan oedd y ffrae wedi digwydd.
01:07
Felly buaswn i yn hoffi gwneud rhyw fath o gynllun, fel os oes rhywbeth yn digwydd eto,
01:12
bod y plant yn ddiogel a bod ni'n gwybod lle mae nhw'n mynd i fynd.
01:16
Iawn? O a cofiwch hefyd,
01:20
mae hwn yn gynllun sy'n hyblyg, rydyn ni yn gallu newid o, felly os ydych chi'n teimlo
01:23
fel bod pethe ddim yn gweithio, gewn ni ail-edrych arno fo, dof i nôl
01:27
gewn ni edrych ar beth sy'n gweithio a thrio pethau gwahanol.
01:32
Felly gewn ni feddwl am yr adegau pan ydych chi a Peter yn ffraeo, beth sy'n digwydd?
01:42
Ni'n gwaeddi ar ein gilydd. Mae'r ddau ohonom ni'n gweud pethau, jest fel unrhyw ffrae.
01:50
Ar adegau pan ydych chi a Peter yn ffraeo, beth sydd wedi gweithio pryd hynny?
01:55
Beth sydd wedi gweithio o'r blaen?
01:59
Wel mae fe'n mynd mas ac wedyn, fi'n taweli'n hun wedyn.
02:02
Felly mae amser ar wahân, yn helpu chi'n dau daweli?
02:07
Ydy.
02:08
Ond, wedyn mae e'n mynd am beint, ma fe'n meddwi, ac weithiau
02:14
dyw e ddim yn gallu mynd i'r gwaith y diwrnod canlynol, so mae e'n gylch diddiwedd.
02:18
Oes 'na rhywle arall bydde fe'n gallu mynd? Rhywun bydde fe'n gallu siarad efo?
02:26
Na sai'n gallu meddwl am neb. Bydde rhaid i ti ofyn iddo fe.
02:30
Iawn, dof i nôl heno os yw hynny'n iawn, i drafod efo Peter?
02:35
Mae'n bwysig ein bod ni'n trafod efo'n gilydd, ac ein bod ni'n cael ei farn o hefyd o beth sydd wedi bod yn digwydd.
02:43
Ydy, yn iawn.
02:45
Felly rydych chi'n teimlo eich bod chi'n mynd rownd mewn cylchoedd.
02:48
Ar adegau pan mae'r ddau ohonoch chi wedi upsetio, ydych chi'n meddwl ei fod o'n deall sut ydych chi'n teimlo?
02:58
O na. Nac ydy.
03:00
Felly, ga’ i awgrymu eich bod chi'n cael amser ar wahân,
03:05
ond mewn ystafelloedd gwahanol yn y tŷ?
03:09
A bod chi'n ysgrifennu eich teimladau i lawr, ar y pryd, pan ydych chi wedi cynhyrfu
03:14
eich bod chi'n ysgrifennu sut ydych chi'n teimlo pryd hynny.
03:19
Wedyn, ar ôl i chi taweli fod chi'n dod yn ôl ar eich gilydd a bod chi'n trafod sut oeddech chi'n teimlo ar y pryd.
03:25
Ydych chi'n meddwl bydde fo yn fwy parod i wrando ar eich ochr chi pryd hynny?
03:31
Beth, 'se ni'n ysgrifennu popeth i lawr?
03:34
Ydych chi'n meddwl bydde hwnna'n helpu?
03:37
Falle.
03:39
Wel y gobaith ydy os mae hyn yn gweithio, mi fydda llai o ffraeo.
03:44
A hefyd fod y ffraeo ddim yn para cweit mor hir neu ddim yn digwydd mor aml.
03:47
A hefyd efallai eich bod chi'n dechrau deall eich gilydd yn well. Teimladau eich gilydd.
03:55
Ie, gobeithio.
03:59
Roeddech chi'n dweud fod amser fel teulu yn bwysig i chi. Ydych chi'n gallu dweud mwy am berthynas chi a Llyr?
04:05
Wel fi just ddim yn credu bod Llyr weithiau yn deall bod dim arian gyda ni i fynd mas a chael
04:10
trainers newydd iddo fe, fel sydd gyda'i ffrindie fe ti'n gwybod?
04:15
Un tro oedd e moyn yr esgidiau football 'ma, o nhw'n rhy ddrud.
04:19
Ond oedd e ddim yn gallu deall 'ny ac oedd e'n gofyn pam.
04:22
Felly pan mae o'n cael ei ffordd ei hun, mae e yn stopio'r ffrae ac mae o'n taweli.
04:28
Ydych chi'n gallu meddwl am ffordd arall mae pethau wedi gwella yn y sefyllfa yna?
04:34
Na sdim byd yn helpu. Na.
04:39
Beth os dwi'n dod nôl heno hefyd i siarad gyda Llyr?
04:45
I feddwl sut bydde chi'n gallu gwella eich perthynas chi efo eich gilydd.
04:51
A trafod am pan mae o yn mynd allan i'r stad, mae yn eich poeni chi,
04:54
ac efallai bod yn syniad da i Llyr adael i chi wybod ble mae'n mynd a gyda phwy.
05:00
Ie.
05:02
Os bydde fe yn gadael i chi wybod pryd bydde fe adre,
05:05
neu fod chi'n dweud wrtho fe pryd byddwch chi'n disgwyl e adre, bydde hynny'n rhywbeth?
05:09
Bydde, ond bydde'n well 'da fi 'se fe ddim yn botheran gyda'r gang 'na,
05:14
'na gyd maen nhw'n gwneud yw creu trwbl.
05:17
Mae'n swnio'n anodd iawn, a dwi'n deall eich bod chi eisiau gwneud eich gorau glas i'ch mab.
05:23
Ond ar y llaw arall mae'n anodd i Llyr hefyd,
05:27
cwbl mae o eisiau gwneud ydy bod gyda'i ffrindiau.
05:31
Gewn ni drafod hyn heno gyda Llyr hefyd? Fel bod o yn rhan o greu'r cynllun yma?
05:40
Fel arfer mae cynllun yn fwy effeithiol os mae'r plentyn yn rhan o'r trafod a'r cynllunio.
05:49
O ran Llyr a Pete, bydden i'n rili lico fe 'se Pete yn gwario mwy o amser gyda Llyr.
05:57
Ti'n gwybod? Falle mynd â fe i ymarferion pêl droed neu rywbeth?
06:01
Mwy o sylw ei dad e sydd angen arno fe. Ond mae hynny'n rhywbeth arall fi methu cael Pete i ddeall.
06:07
Felly mae yna adegau wedi bod lle mae'r perthynas rhyngoch chi a Llyr wedi bod yn well?
06:14
Felly o beth dwi'n deall, mae Llyr yn llai tebygol o fynd allan efo'i ffrindiau
06:21
os bydde fo'n mynd i ymarferion pêl droed efo Peter?
06:25
Falle os gallwn ni trafod bod yna amser i Llyr a Peter treulio gyda'i gilydd?
06:31
Rhyw amser arbennig?
06:35
Ie. Ac os neith Pete gadw at hynny, neith e weithio fi'n credu.
06:39
Falle dylwn ni roi hwnna yn y cynllun heno.
06:43
Gallwn ni trafod hyn yn fanylach gyda Llyr a Peter.
06:46
Ie. A falle nawn nhw wrando os ti'n dweud 'ny.
06:52
Y peth arall oeddem ni'n sôn amdano oedd y ffaith fod Megan wedi mynd o'r tŷ heb ofyn.
06:59
Felly os bydde'n digwydd eto, neu fod hi jest angen amser ar ei phen ei hun,
07:06
lle bydde hi'n gallu mynd ar wahân i dŷ John? Oherwydd 'dyn ni yn gwybod bod John yn droseddwr rhyw.
07:12
Tŷ Nain Ceri?
07:15
Eich mam chi ie?
07:17
Ie.
07:18
A sut bydde hi'n mynd yna?
07:20
Wel bydde hi'n gallu cerdded i fan yna, dydyn nhw ddim yn byw yn bell.
07:23
Bydde Mam wedyn yn gallu ffonio i ddweud ei bod hi wedi cyrraedd.
07:26
Syniad da, dwi'n nodi hyn ar y cynllun. Felly bydd Megan yn mynd i dŷ Nain Ceri,
07:30
a bydd Nain Ceri yn ffonio chi pan mae hi wedi cyrraedd.
07:35
Nawn ni drafod a chynllunio gweddill y cynllun pan ddof i nôl.
07:40
Gwnaf i adael copi yma efo chi.
07:44
Mae hyn yn gynllun i ddiogeli, dyw e ddim yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi, iawn?
07:49
Iawn.
07:50
Pan dof i nôl heno, wnaf i drafod gyda chi a Peter a Llyr ac wrth gwrs,
07:54
rydyn ni yn mynd i gyd-greu'r cynllun yma.
07:58
Ac rydw i'n gallu dod nôl wythnos nesa ac fe gewn ni drafod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio
08:04
a hyd yn oed os oes gyda chi syniadau eraill sy'n mynd i weithio hefyd.
08:08
Fel cyfarfod teulu?
08:10
Ie.
08:12
Gwnaf i ysgrifennu hwn i fynny i chi nawr.
08:14
Byddaf yn dod â chopi efo fi heno. A pan dof i i siarad efo Peter a Llyr, gewn ni fwrw ymlaen.
08:20
Iawn oce.
08:23
Diolch yn fawr iawn i chi am gydweithio heddiw.
08:25
Welai chi heno.