Helo, a chroeso i’r fideo hwn am wrandawiadau addasrwydd i ymarfer.
I ddechrau, beth petawn i’n egluro i chi pwy yw Gofal Cymdeithasol Cymru. Ni yw’r corff sy’n rheoleiddio’r gweithwyr yn y maes gofal a chymorth. Ni sy’n gosod y safonau ar gyfer y gweithwyr, ac yn gwneud yn siŵr bod gan y gweithwyr y sgiliau a’r wybodaeth i wneud eu gwaith yn dda.
Rydym yn cadw cofrestr o’r gwahanol grwpiau o weithwyr sy’n gweithio yn y maes gofal. Mae hyn yn helpu i gadw’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn ddiogel, oherwydd mae’r holl staff sy’n cofrestru gyda ni’n gorfod gweithio yn ôl safonau penodol. Mae’r safonau yn dweud wrthyn nhw sut i ymddwyn pan fyddan nhw’n darparu gwasanaethau i bobl sydd angen eu cymorth.
Ar hyn o bryd, rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol, myfyriwr gwaith cymdeithasol, rheolwr a gweithiwr gofal preswyl plant a phob rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru gyda ni.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn hefyd yn cofrestru pobl sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl ac mewn cartrefi gofal preswyl.
Felly, beth yw ystyr ‘addasrwydd i ymarfer’?
Ystyr ‘addasrwydd i ymarfer’ yw pan fydd person sydd wedi cofrestru gyda ni, sef ‘unigolyn cofrestredig,’ yn gallu gwneud ei waith yn dda, datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn rheolaidd a sicrhau eu bod yn cadw’r rhai maent yn cefnogi a phobl eraill yn ddiogel.
Mae’n golygu fod yr unigolyn cofrestredig yn addas i weithio ar hyn o bryd, i safon uchel, er bod rhywbeth efallai wedi effeithio ar hyn yn y gorffennol – ac os bod rhywbeth wedi effeithio’r ffordd maent yn gweithio, efallai y gallwn gytuno ar sut i’w helpu wella sut maent yn gwneud y swydd.
Rhaid i unigolion cofrestredig weithio i safonau’r ‘Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol’
Weithiau bydd pobl yn cysylltu â ni pan fyddan nhw’n credu nad yw gweithiwr yn gweithio i safonau’r Cod. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn ni’n cynnal ymchwiliad. Yn ystod yr ymchwiliad fe fyddwn yn cysylltu â’r unigolyn cofrestredig er mwyn iddynt rhoi ei barn. Gall unigolion cofrestredig ofyn i gyfreithiwr neu gynrhychiolydd undeb i’w helpu gyda hyn a’u cynrhychioli.
Os bydd ein hymchwiliad yn dangos bod y person o bosibl yn anaddas i weithio yn y maes gofal, byddwn yn cynnal gwrandawiad. Bydd panel o bobl yn y gwrandawiad yn edrych ar y wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwiliad a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd, os yn briodol. Fe fyddwn yn gwahodd yr unigolyn cofrestredig i ddod i wrandawiadau.
Fel arfer, mae pob gwrandawiad addasrwydd i ymarfer yn agored i’r cyhoedd, oni bai bod rhai o’r pryderon am y gweithiwr yn ymwneud â chyflwr meddygol. Os felly, weithiau bydd y gwrandawiad yn breifat.
Nesaf, bydd gwahanol bobl sydd yn bresennol mewn gwrandawiad yn egluro i chi beth mae nhw’n ei wneud.
Y Cadeirydd
Helo, fi yw Cadeirydd y panel.
Fy ngwaith i yw arwain y gwrandawiad, siarad ar ran y panel, a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall beth sy’n digwydd.
Mae tri o bobl ar y Panel sydd wedi eu penodi gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dwi’n eistedd yn y canol.
Aelod lleyg ydw i – hynny yw, nid oes gan aelod lleyg brofiad o weithio yng ngofal cymdeithasol ond efallai eu bod wedi derbyn gofal cymdeithasol neu yn adnabod rhywun sydd yn. Mae’r Cadeirydd yn aelod lleyg bob tro.
Ar y panel hefyd mae yna aelod gofal cymdeithasol. Mae ganddo ef neu hi brofiad o ofal cymdeithasol neu mae’n gweithio yn y maes, ac efallai eu bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’r person arall, fel fi, yn berson lleyg.
Dydy bod ar banel gwrandawiadau ddim yn waith llawn amser. Mae gennym gefndiroedd amrywiol iawn a gallwn ddod â phrofiadau gwahanol i’r gwrandawiadau.
Mae cynghorydd cyfreithiol a chlerc yn cynorthwyo’r panel. Cyfreithiwr yw’r cynghorydd cyfreithiol. Ei waith ef neu hi yw rhoi cyngor i’r panel a gwneud yn siŵr bod y gwrandawiad yn deg. Bydd y cynghorydd cyfreithiol yn egluro mwy maes o law.
Mae’r clerc yn rhoi cyngor i’r Cadeirydd pan fo angen cadarnhad o broses y gwrandawiad, ac yn gwneud yn siŵr bod y gwrandawiad yn drefnus, a bod yr unigolyn cofrestredig sydd o flaen y panel yn deall beth sy’n digwydd. Bydd y clerc yn egluro mwy maes o law.
Gyferbyn â’r panel mae swyddog addasrwydd i ymarfer, a chyflwynydd
Bydd yr unigolyn cofrestredig, sef testun yr achos, wedi trafod materion gyda’r swyddog addasrwydd i ymarfer ymlaen llaw ac yn adnabod y bobl hyn. Y swyddog addasrwydd i ymarfer yw’r aelod staff Gofal Cymdeithasol Cymru a fu’n ymchwilio i’r achos.
Y cyflwynydd yw’r cyfreithiwr sy’n cyflwyno’r achos i’r panel ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru,pan fo angen. Efallai fydd y swyddog addasrwydd i ymarfer yn cyflwynio achosion ar rhai adegau.
Fel rheol mae gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn agored i’r cyhoedd, felly gall aelodau o’r cyhoedd fod yn bresennol gan gynnwys aelodau’r wasg.
Felly, dyna chi’n gwybod pwy sy’n debygol o fod yn y gwrandawiad, ond sut mae’r panel yn mynd ati i ystyried achos?
Mae’r gwrandawiad yn dechrau pan fydd y Cadeirydd yn cyflwyno’r panel a phobl eraill i bawb.
Bydd y clerc yn darllen rhestr o cyhuddiadau – sef rhestr manwl o’r cyhuddiadau yn erbyn yr unigolyn cofrestredig.
Mae’n bwysig bod yr unigolyn cofrestredig yn ymateb i’r cyhuddiadau yn ystod yr ymchwiliad er mwyn iddynt gael cyfle i gytuno neu wadu’r cyhuddiadau a darparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt i’w helpu.
Mae’r panel yn edrych ar dystiolaeth mae Gofal Cymdeithasol Cymru a’r unigolyn cofrestredig wedi cytuno. Fe fydd yr unigolyn yn cael cyfle i siarad i’r panel ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y panel.
Tystiolaeth yw unrhyw wybodaeth y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru a’r unigolyn cofrestredig yn ei hystyried yn berthnasol er mwyn profi a yw’r cyhuddiadau wir ai peidio. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, adroddiadau neu lythyron, ac hefyd delweddau neu fideos, a datganiadau gan dystion.
Fel rheol mae’r panel wedi derbyn y wybodaeth hyn o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawiad. Fe fydd yr unigolyn cofrestredig yn derbyn copi o’r tystiolaeth hefyd.
Bydd aelodau'r panel yn ystyried popeth maen nhw wedi’i ddarllen, gan gynnwys y Côd Ymarfer Proffesiynol, a’r hyn sydd wedi ei ddweud yn y gwrandawiad cyn dod i unrhyw benderfyniad.
Mae gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn ffurfiol a rhaid dilyn proses, ond, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr unigolyn cofrestredig yn cael cefnogaeth gan fydd y cynghorydd cyfreithiol yn gwneud yn siwr bod tystiolaeth yr unigolyn yn cael eu hystyried.
Gall rhywun gynrychioli’r unigolyn cofrestredig yn y gwrandawiad, fel, cyfreithiwr neu swyddog undeb, neu rhywun arall os bod well ganddynt.
Os nad oes gan yr unigolyn cofrestredig neb i’w gynrychioli, mae’n bwysig ei fod yn mynd i’r gwrandawiad. Os na fyddant yn bresennol, bydd y cynghorydd cyfreithiol yn gwneud yn siŵr bod ei dystiolaeth yn mynd o flaen y panel, ond ni all y cynghorydd cyfreithiol gynrychioli’r person.
Mae’n bwysig iawn bod yr unigolyn cofrestredig yn cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystod yr ymchwiliad ac yn mynd i’r gwrandawiad, hyd yn oed os nad oes neb yn ei gynrychioli.
Os bydd yr unigolyn yn helpu gyda’r ymchwiliad fe fydd yn rhoi cyfle I’r swyddog Addasrwydd I Ymarfer gael y cyfle I ystyried os bod unrhyw opsiynau ar gael I’w helpu wella ei ymarfer.
Mae mynychu’r gwrandawiad yn bwysig iawn am fod hyn yn helpu’r panel i ddeall yr achos yn well ac yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau wyneb yn wyneb. Os na fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd prinder tystiolaeth ar ochr yr unigolyn cofrestredig i’r panel ei hystyried.
Mae’r gwrandawiad yn gyfle i’r unigolyn cofrestredig i rhoi ei ochr i’r Panel ag i egluro sut ei bod yn gymwys i barhau gweithio yn ei maes o ofal cymdeithasol i’r safonau yn y Côd.
Dylai’r unigolyn cofrestredig egluro I ni beth meant wedi bod yn gwneud ers i’r ymchwiliad ddechrau. Fe fydd y Panel am wybod beth maent wedi dysgu a sut maent wedi newid er mwyn gwenud y gwaith ar safon uwch.
Diolch – hwyl fawr.
Y Clerc
Helo, y clerc ydw i ac rwy’n gweithio i Gofal Cymdeithasol Cymru.
Fi sy’n sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ac yn mynd i’r afael ag unrhyw fater nad yw’n ymwneud â’r gyfraith a all godi yn y gwrandawiad. Dwi hefyd yn sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan, neu sy’n arsylwi, yn deall beth sy’n digwydd.
Fi yw’r pwynt cyswllt i bawb yn y gwrandawiad. Pan fydd yr unigolyn cofrestredig yn cyrraedd, a’i gynrychiolydd os oes ganddo un, byddaf yn mynd â nhw i ystafell breifat sydd ar gael iddyn nhw ei defnyddio trwy gydol y gwrandawiad. Mi wna i helpu’r unigolyn cofrestredig gymaint ag y gallaf drwy ateb unrhyw gwestiynau am y broses ac egluro beth sy’n didwydd.
Dylai pawb sy’n rhan o’r gwrandawiad gyrraedd mewn da bryd cyn ei bod yn amser dechrau.
Yn ystod y gwrandawiad dwi’n eistedd yma (yn dangos ble mae’n eistedd), wrth ochr y Cadeirydd, fel y gallaf roi unrhyw gyngor os oes angen. Er fy mod i’n eistedd gyda’r panel, dydw i ddim yn cymryd unrhyw ran yn y penderfyniadau y bydd y panel yn eu gwneud.
Rydym yn annog yr uniglyn cofrestredig i fod yn bresennol yn y gwrandawiad ac i gael rhywun i’w gynrychioli. Ond, os yw’n absennol, gall y gwrandawiad fynd ymlaen hebddo, os yw’r panel yn cytuno bod hynny’n deg.
Bydd yr unigolyn cofrestredig yn eistedd yma (pwyntio at y gadair) yn ystod y gwrandawiad. Os bydd ganddo gynrychiolydd, bydd yn eistedd yma hefyd (pwyntio at y gadair).
Weithiau bydd angen i’r panel adael yr ystafell i drafod yr achos yn breifat. Yn ystod yr amserau hyn ac ar adegau egwyl gall yr unigolyn cofrestredig fynd i’w ystafell breifat i aros.
Nawr, rwy’n mynd i egluro’r broses o roi tystiolaeth mewn gwrandawiad, i’r tystion ac i’r unigolyn cofrestredig.
Dyma ble bydd y tystion neu’r unigolyn cofrestredig yn eistedd pan fyddan nhw’n rhoi tystiolaeth (dangos y bwrdd).
Mae gofyn i bawb sy’n rhoi tystiolaeth gymryd llw ar Lyfr Sanctaidd o’u dewis neu roi cadarnhad. Mae hyn yn golygu eu bod yn addo y bydd eu tystiolaeth yn wir. Bydd y clerc yn trafod hyn ymlaen llaw gyda phawb sy’n rhoi tystiolaeth.
Dylech wneud yn siŵr fod y Clerc yn ymwybodol am unrhyw grefydd, os yn briodol, cyn y gwrandawiad fel bod y Llyfr Sanctaidd cywir yn barod. Gall tystion neu’r unigolyn cofrestredig ddod a Llyfr Sanctaidd eu hunan gyda nhw os bod well ganddynt.
Fel rheol bydd tystion wedi rhoi datganiad yn ystod yr ymchwiliad. Efallai bydd angen iddyn nhw ddarllen yn uchel y datganiad hwn neu ddogfennau eraill, felly efallai fydd angen sbectol ddarllen! Efallai bydd pobl yn gofyn cwestiynau am y ddatganiad.
Os fydd darllen yn uchel yn debygol o fod yn broblem, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.
Os yw’r unigolyn cofrestredig yn y gwrandawiad, gall ofyn cwestiynau i’r tystion am y dystiolaeth maen nhw wedi ei rhoi.
Ar rhai adegau, fe fyddwn yn credu bod angen trin rhywun fel ‘tyst agored i niwed’, - golyga hyn, er enghraifft, rhywun sydd o dan 18 oed, neu person sydd yn defnyddio gwasanaethau a fydd efallai yn teimlo’n anghyfforddus mewn sefyllfa ffurfiol neu fod yn yr un ystafell a’r uniglyn cofrestredig.
Er mwyn sicrhau bod y tyst yn medru rhoi tystiolaeth, gallem ni drefnu eu bod nhw’n rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo fel na fydd angen iddyn nhw fod yn yr ystafell lle bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal.
Mi wnewn ni drafod hyn gyda’r person i gytuno y ffordd gorau iddynt rhoi tystiolaeth a sut i’w cefnogi.
Fe fydd, wrth gwrs, yr unigolyn cofrestredig a thystion yn medru dod a rhywun gyda nhw i’w cefnogi.
Os oes unrhyw anghenion arbennig gan unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth, mae angen dweud wrth y clerc fel bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud, os bod angen.
Ar ôl rhoi tystiolaeth, nid yw tyst yn cael siarad â thystion eraill sydd heb roi tystiolaeth. Gallai hynny effeithio ar weddill y gwrandawiad.
Mae’r amser sydd ei angen ar gyfer gwrandawiad yn amrywio, ond fel arfer mae gwrandawiadau yn para rhwng dau a phedwar diwrnod, ond gallant fod dim ond am un diwrnod, ond byddwn yn dweud wrth bawb ymlaen llaw pa mor hir fydd y gwrandawiad a faint o amser fydd angen iddynt fod yn y gwrandawiad.
Fel rheol, mae gwrandawiad yn dechrau am 9.30am ac yn gorffen tua 5 o’r gloch, ond gall hyn wahaniaethu o ddydd i ddydd. Fe fydd ychydig o aros tra bod y panel yn cynnal trafodaethau preifat – fe fydd y clerc yn rhoi gwybod i bawb sydd yn aros faint o amser fydd angen.
Fel rheol, byddwn yn cynnal y gwrandawiadau yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, ond rydym yn defnyddio mannau eraill o gwmpas Cymru hefyd.
Gallwn drefnu i unigolyn cofrestredig a thystion yn y Gogledd fod yn rhan o’r gwrandawiad a rhoi tystiolaeth o’n swyddfa yn Llanelwy trwy gyswllt fideo.
Bydd yr holl drefniadau yn cael eu cytuno gyda’r unigolyn cofrestredig cyn y gwrandawiad.
Diolch – hwyl fawr.
Y Cynghorydd Cyfreithiol
Helo. Fi yw’r cynghorydd cyfreithiol. Dwi’n gwneud yn siŵr bod y gwrandawiad yn deg a bod y gwrandawiad yn dilyn y broses cywir.
Rwy’n eistedd wrth ochr y Cadeirydd ac yn rhoi cyngor diduedd. Os yw’r unigolyn cofrestredig yn y gwrandawiad a bod neb yn ei gynrychioli, byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn deall beth sy’n digwydd, ei bod yn ymwybodol beth sydd i ddisgwyl wrthynt a phryd, a bod ei tystiolaeth yn glir. Ni fyddaf yn cynrychioli’r unigolyn cofrestredig, ond byddaf yn gwneud yn siŵr bod ei lais yn cael ei glywed.
Hefyd, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y gwrandawiad yn deg os bydd y person cofrestredig yn absennol, ac yn gwneud yn siŵr bod y panel yn ystyried yr achos yn ofalus.
Er fy mod yn eistedd gyda’r panel, does gen i ddim rhan yn y penderfyniad.
Mae’r gwrandawiad mewn tair rhan;
I ddechrau, rhaid i’r panel benderfynu os yw’r dystiolaeth yn profi bod y ffeithiau’n wir. Fel rheol, dyma’r rhan hiraf o’r gwrandawiad yn enwedig pan fydd tystion yn rhoi tystiolaeth. Os na fydd y ffeithiau yn cael eu profi, dyna ddiwedd ar yr achos a’r gwrandawiad.
Yn ail, os bydd y ffeithiau’n cael eu profi, bydd yn rhaid i’r panel benderfynu a ydi hyn wedi cael effaith niweidiol ar y modd mae’r gweithiwr yn gwneud ei waith ar hyn o bryd.
Yn drydydd, os yw’r panel yn credu bod yr unigolyn cofrestredig ar hyn o bryd, yn anaddas i ymarfer, mae angen iddyn nhw ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd i wella ei ymarfer ac i ddiogelu’r cyhoedd.
Mae nifer o bethau y gallan nhw eu gwneud. Gallant:
- rhoi rhybudd, ac argymell bod yr unigolyn cofrestredig yn astudio rhannau o’r Cod Ymarfer Proffesiynol i wella’r ffordd y mae’n gweithio
- trefnu cytundeb rhwng yr unigolyn cofrestredig a Gofal Cymdeithasol Cymru, fel ei bod yn gyfrifol am wneud hyfforddiant ychwanegol neu gymhwyster i wella’i ffordd o weithio
- cytuno â’r unigolyn cofrestredig bod ei enw’n cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i’r person cofrestredig gyfaddef i’r hyn mae wedi ei wneud a chyfaddef bod ei allu i wneud ei waith wedi ei effeithio
- rhoi amodau ar gofrestriad y person. Bydd modd iddo barhau i weithio tra bod yr amodau yn ei lle. Gall yr amodau fod yn bethau a fydd yn helpu’r unigolyn cofrestredig i wella’i ffordd o wneud ei waith
- gwahardd yr ynigolyn cofrestredig am amser penodedig, ac yna adolygu addasrwydd i ymarfer yr unigolyn
- tynnu’r unigolyn cofrestredig oddi ar y gofrestr. Os oes rhaid iddo gael ei gofrestru i wneud ei waith, er enghraifft, meant yn weithiwr cymdeithasol, mae hyn yn golygu na fydd yn gallu gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.
Mae person yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr mewn achosion difrifol o, er enghraifft, anonestrwydd neu gamau bwriadol a allai fod wedi niweidio pobl neu olygu eu bod mewn perygl. Neu, os oes problemau parhaus wedi bod gyda gwaith yr unigolyn cofrestredig ac mae’r cyflogwr wedi methu ei helpu I wella ac nad yw wedi dysgu o’i gamgymeriadau neu ddangos ei fod yn deall ac yn ymwybodol o’r hyn mae wedi’i wneud.
Mae’r camau y bydd y panel yn eu cymryd i fod i ddiogelu’r cyhoedd, a gwneud yn siŵr bod y person cofrestredig yn ddiogel i ymarfer. Pan fo hynny’n briodol, bydd y Panel yn awgrymu ffyrdd i wella’r ffordd mae’r unigolyn cofrestredig yn gwneud ei waith.
Bydd penderfyniad terfynol y Panel yn cael ei ddarllen yn uchel yn y gwrandawiad fel bod yr unigolyn cofrestredig, os bydd yn bresennol, yn cael gwybod y canlyniad yn syth.
Gan fod y gwrandawiadau yn agored i’r cyhoedd fe fydd y canlyniad a rhesymau’r panel ar ein wefan am amser penodedig.
Gall yr unigolyn cofrestredig apelio yn erbyn y canlyniad terfynol.
Diolch – hwyl fawr.
Y Clerc
Helo - gobeithio bod y fideo wedi bod yn ddefnyddiol i chi, a’ch bod nawr yn deall mwy am y ffordd mae gwrandawiadau’n gweithio.
Rydym yn deall bod hyn yn ofid ac yn straen i bawb, ond er bod y broses yn ffurfiol, rydym yn awyddus i bawb fod mor gyffyrddus â phosibl, bod pawb yn deall beth sy’n digwydd a bod y broses yn deg.
Os ydych yn mynychu gwrandawiad – cysylltwch â’r tîm gwrandawiadau os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae mwy o wybodaeth gyffredinol ar gael ar ein gwefan.
Gan fod y rhan fwyaf o’n gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn agored i’r cyhoedd – rydym yn eu cyhoeddi ar ein gwefan wythnos cyn y gwrandawiad.
Diolch am wylio, hwyl fawr.