Y rheoliadau yw’r is-ddeddfwriaeth i'w defnyddio pan fydd angen mwy o fanylion neu gyfarwyddiadau wrth roi Deddf ar waith.
Isod mae rhest o reoliadau o dan Gam 3 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae dolen o bob rheoliad i'w ddogfennau perthnasol.
Cam 3
Bydd trydydd cam y rheoliadau’n canolbwyntio ar y gofynion a’r safonau sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn cymdeithasau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion (cysylltu bywydau) ac amryw wasanaethau eiriolaeth.
Mae'r Rheoliadau a'u canllawiau statudol yn disodli Rheoliadau a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, o ran y gwasanaethau hyn, a roddwyd ar waith o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu rheoleiddio am y tro cyntaf o dan y Ddeddf 2016.
Darllenwch ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethay Cymdeithasol, o 7 Ionawr 2019 am Gam 3 o'r gweithredu.
Daeth y rheoliadau ar gyfer Cam 3 i rym ar 29 Ebrill 2019.
Mae Rheoliadau Cam 2 mewn perthynas â'r Datganiadau Blynyddol a Chofrestru wedi'u diwygio i gynnwys a derbyn gwasanaethau Cam 3. Mae'r dyddiadau pan fydd angen y datganiadau blynyddol cyntaf wedi'u newid i fis Mai 2020 ar gyfer gwasanaethau Cam 2 a Mai 2021 ar gyfer gwasanaethau Cam 3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar wasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig - cymdeithasau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu - a'u unigolion cyfrifol. Maent hefyd yn rhagnodi'r tramgwyddau a gyflawnwyd gan y rhai sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol cysylltiedig ym mis Ebrill 2019.
Ar yr un pryd, mae gofynion tebyg wedi'u gosod ar wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, drwy reoliadau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a chôd ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r rhain hefyd yn dod i rym o 29 Ebrill 2019.
Côd ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol
Cyhoeddwyd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad o ran y Rheoliadau, y canllawiau a'r côd ymarfer hwn ym mis Mawrth 2019.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar wasanaethau maethu rheoleiddiedig – rhai nad ydynt yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, IFAs – a'u unigolion cyfrifol. Maent hefyd yn rhagnodi'r tramgwyddau a gyflawnwyd gan y rhai sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol cysylltiedig ym mis Ebrill 2019.
Ar yr un pryd, mae gofynion tebyg wedi'u gosod ar wasanaethau maethu awdurdodau lleol, drwy reoliadau a chôd ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r rhain hefyd yn dod i rym o 29 Ebrill 2019.
Mae'r rhain wedi'u diwygio gan Reoliadau Gwasanaethau maethu awdurdodau lleol (Cymru) (Diwygio) 2019.
Côd ymarfer ar gyfer gwasanaethau maethu awdurdodau lleol
Gosodwyd Côd Ymarfer drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2019. Caiff ei gyhoeddi ym mis Mai 2019.
Cyhoeddwyd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad o ran y Rheoliadau, y canllawiau a'r côd ymarfer hwn ym mis Rhagfyr 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau lleoli oedolion annibynnol ac awdurdod lleol a'u unigolion cyfrifol. Maent hefyd yn rhagnodi'r tramgwyddau a gyflawnwyd gan y rhai sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol cysylltiedig ym mis Ebrill 2019.
Cyhoeddwyd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r rheoliadau a'r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau eiriolaeth rheoleiddiedig a'u unigolion cyfrifol. Gwasanaethau eiriolaeth yw'r rhain a drefnir gan awdurdodau lleol o dan eu dyletswyddau i helpu plant, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal i gyflwyno sylwadau am eu hanghenion am ofal a chymorth.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi'r tramgwyddau a gyflawnwyd gan y rhai sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol cysylltiedig ym mis Ebrill 2019.
Cyhoeddwyd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r rheoliadau a'r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2018.
Mae'r rhain yn gwneud cywiriadau mân i'r prif Reoliadau ac yn dod i rym 1 Gorffennaf 2019.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol i gefnogi gweithredu Cam 3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i is-ddeddfwriaeth arall i ategu'r broses o roi Cam 3 ar waith.
Mae'r rheoliadau hyn yn sefydlu sustem hysbysiadau cosb, lle y gellir Arolygiaeth Gofal Cymru roi cosb i ddarparwyr ac unigolion cyfrifol mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig yn hytrach na dwyn achosion am droseddau penodol.
Daethant i rym 1 Gorffennaf 2019, gan ddisodli'r set gwreiddiol o reoliadau a wnaethpwyd yn 2017. Mae'r rhain yn weithredol i wasanaethau Cam 2 a Cham 3.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi, sy'n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd yn ôl y troseddau a greuwyd yng Ngham 2 a 3 a chyflwyno hysbysiadau cosb fel gorfodaeth hefyd.
Mae’r rhain yn gwneud diwygiadau canlyniadol pellach i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i roi Cam 3 ar waith. Maen nhw hefyd yn gwneud cywiriad croesgyfeirio i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.
Daeth y rhain i rym 1 Gorffennaf 2019.