Jump to content
Rheoliadau - Cam 2

Y rheoliadau yw’r is-ddeddfwriaeth i'w defnyddio pan fydd angen mwy o fanylion neu gyfarwyddiadau wrth roi Deddf ar waith.

Isod mae rhest o reoliadau o dan Gam 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae dolen o bob rheoliad i'w ddogfennau perthnasol.

Cam 2

Cynhwysodd ail gam y rheoliadau ynglŷn â chofrestru a’r gofynion a safonau sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn cartrefi gofal; llety diogel; canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth yn y cartref.

Mae’r canllawiau rheoleiddio a ystadudol yn disodli rheoliadau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol, o ran y gwasanaethau hyn, a roddwyd ar waith o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Darllenwch y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, a ddosbarthwyd 21 Tachwedd 2017 am ail gam gweithredu'r Ddeddf.

Darllennwch adroddiadau cryno am yr ymgynghoriadau ar gyfer Cam 2, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017

Cam 2 o weithredu – Gofynion Gwasanaethau

Cam 2 o weithredu – Agweddau Gweithlu

Daeth y rheoliadau hyn i rym 2 Ebrill 2018, oni bai y dywedir fel arall:

Yn ogystal ag adran 6(1) o’r Ddeddg, mae’r rheoliadau hyn yn gosod y wybodaeth i’w chynnwys gyda chais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth sy’ wedi’i reoleiddio.

Mae’r rhain wedi cael eu diwygio yng Ngham 3.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi arweiniad i ddarparwyr ynglŷn â chofrestru gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Mae hefyd ganllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy’n cofrestru am y tro cyntaf.

Agorodd y gofrestru i geisiadau 1 Chwefror 2018.

Yn ychwanegol i adran 10(2) o'r Ddeddf, mae'r Rheoliadau hyn yn gosod allan mwy o fanylion (gan gynnwys y wybodaeth i'w rhoi) o ran y cofnodion blynyddol y mae darparwyr gwasanaethau yn gorfod anfon at Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r rhain wedi cael eu diwygio yng Ngham 3.

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod gwybodaeth bellach y mae'n rhaid ei chynnwys oddi fewn yr amryw hybysiadau y mae awdurdodau lleol yn gorfod eu gwneud i Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r rhain hefyd yn berthnasol i wasanaethau Cam 3 ond doedd dim angen newidiadau arnynt.

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod gofynion safonau gwasanaeth ar ddarparwyr gwasanaethauau ac unigolion cyfrifol cartrefi gofal; llety diogel; canolfanau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth yn y cartref. Maen nhw hefyd yn ymhelaethau ar y troseddau posibl gan y bobl sy'n methu cydymffurfio â rhai gofynion penodol ac yn manylu ar yr hyn ddylid ei wneud pe tasae busnes darparwr gwasanaethau yn dod i ben neu os ydy unigolion sy'n ddarparwr gwasanaethau yn marw.

Cafodd y rheoliadau hyn eu diwygio yn sgîl ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngham 3. Darllenwch grynodeb o’r ymatebion.

Mae’r rheoliadau yn cynnwys newidiadau:

  • i’r eithriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth yn y cartref, i roi eglurder lle mae gofal nyrsio yn cael ei ddarparu mewn cartrefi pobl
  • i eithriadau ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal i gynlluniau gwyliau preswyl sydd wedi'u heithrio'n amodol ar gyfer plant anabl o gwmpas y Rheoliadau. Rhaid i ddarparwyr roi gwybod i Lywodraeth Cymru am eu trefniadau, cyn i wyliau ddigwydd
  • i ofyn goruchwylio a monitro gan y cartref gofal a darparwyr llety diogel o arian sy'n cael ei roi mewn cynilion ar ran plant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol diwygiedig i gyd-fynd â’r rheoliadau.

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i'r canllawiau hyn, gan y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu defnyddio i lywio ei phenderfyniadau i ganiatáu neu wrthod ceisiadau i gofrestru fel darparwr gwasanaeth. Bydd y canllawiau hefyd yn llywio penderfyniadau ynghylch i ba raddau y mae darparwyr cofrestredig yn bodloni'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau.

Mae'r rheoliadau hyn yn sefydlu sustem hysbysiadau cosb, lle y gellir Arolygiaeth Gofal Cymru roi cosb i ddarparwyr ac unigolion cyfrifol mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig yn hytrach na dwyn achosion am droseddau penodol.

Daethant i rym 1 Gorffennaf 2019, gan ddisodli'r set gwreiddiol o reoliadau a wnaethpwyd yn 2017. Mae'r rhain yn weithredol i wasanaethau Cam 2 a Cham 3.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi, sy'n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd yn ôl y troseddau a greuwyd yng Ngham 2 a 3 a chyflwyno hysbysiadau cosb fel gorfodaeth hefyd.

Mae’r rheoliadau yn gwneud newidadau i ddeddfwriaeth sylfaenol i gefnogi gweithredu Cam 2.

Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud newidadau i is-ddeddfwriaeth eraill i gefnogi gweithredu Cam 2.

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ebrill 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (41.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch