Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu nifer o daflenni gwybodaeth a ffeithluniau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), gallwch weld rhai ohonynt isod.
Fframwaith Mesur Perfformiad
Mae'r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth am fframwaith mesur perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol yn ymwneud â'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf.
Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r daflen gwybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth ar y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.
Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol
Diben yr arweiniad yw cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi eu hadroddiadau gwasanaethau cymdeithasol blynyddol
Gallwch lawrlwytho'r canllawiau mewn dwy adran:
Sut bydd y Ddeddf yn effeithio ar eich gwaith?
Mae'r gyfres o ffeithluniau hyn yn egluro effaith y Ddeddf ar weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a gweithiwyr proffesiynol eraill ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal iechyd. Lawr-lwythwch nhw isod.