Yn Ebrill 2016, daeth saith partneriaeth rhanbarthol i fodolaeth. Eu bwriad fydd sicrhau darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol sy’n strategol ac yn rhanbarthol, ar y cyd efo’r byrddau iechyd.
Lawrlwythwch fap o'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
Mae’r agenda rhanbarthol ym maes gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o agenda ehangach i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol y byddai dull newydd o weithio’n rhanbarthol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a fyddai’n “systemig ac yn orfodol.”
Dywedodd: “O ganlyniad, bydd mwy o sicrwydd i’r awdurdodau lleol o ran staffio a chyllid, a bydd modd cynllunio a darparu gwasanaethau ar y raddfa gywir.”
Digwyddiad gweithdy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Roedd y cyflwyniadau PowerPoint isod yn rhan o ddigwyddiad gweithdy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a gynhaliwyd yn Wrecsam ar 2 Tachwedd 2016.
Diben y digwyddiad oedd trafod cyfrifoldebau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng nghyswllt comisiynu ar y cyd, ac archwilio’r dulliau y gellir eu defnyddio i gefnogi hynny. Roedd y digwyddiad hefyd yn ystyried cyfrifoldebau’r bwrdd o ran ymgysylltu â’r trydydd sector, ac yn trafod sut gall y byrddau ddefnyddio’r broses ymgysylltu hon yn effeithiol.
Cyflwyniad 1 – IPC (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 2 – Cronfeydd cyfun (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 3 - Canolfan Cydweithredol Cymru (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 4 – Trosolwg o'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 5 – Matrics Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 6 – Mencap Cymru (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 7 – Cysylltu â'r trydydd sector (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad 8 – Byrddau partneriaeth rhanbarthol a gofalwyr (Saesneg yn unig)