Mae Rhan 2, Adran 16 o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector i ddarparu gofal a chymorth, a gwasanaethau ataliol.
Mae'r canllaw isod yn cynnwys nifer o wahanol adnoddau a gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo a datblygu hwn. Mae'r ddogfen ar gael mewn fersiwn PDF neu Word.