Mae'r gyfres o bum ffeil ffeithiau hyn, a ddatblygwyd gan Anabledd Cymru a’r Fforwm Cydweithredu Cymdeithasol, yn anelu i'ch helpu gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan ganolbwyntio’n benodol ar fentrau cydweithredol dan arweiniad defnyddwyr.
Nod yr adnoddau yw gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o fentrau cydweithredol dan arweiniad defnyddwyr wrth ddarparu gofal a chymorth cymdeithasol; symbylu datblygiad o fentrau cydweithredol er darparu gofal a chymorth cymdeithasol; a darparu gwybodaeth er cefnogi mentrau cydweithredol dan arweiniad defnyddwyr.