Jump to content
Cyfathrebu’n effeithiol â phobl â dementia

I gyfathrebu, mae’n rhaid i ni wneud pethau penodol mewn trefn benodol. Mae’n rhaid i ni benderfynu beth rydym ni am ei ddweud a pha ddull cyfathrebu fyddai fwyaf effeithiol. Yna, rydym yn anfon y neges i rywun arall. Mae'n rhaid iddyn nhw ddehongli’r neges, penderfynu ar eu hymateb, yna ateb neu ymateb.

Pan mae cyfathrebu’n methu

Gall y broses gyfathrebu fethu ar unrhyw adeg.

Efallai bod llawer o sŵn yn y cefndir a’i bod yn anodd clywed, efallai ein bod wedi blino neu ein bod yn defnyddio’r dull cyfathrebu anghywir.

Gall methu cyfathrebu arwain at deimladau o rwystredigaeth mewn unigolyn sy’n byw gyda dementia, a allai effeithio ar y ffordd y maen’ ymddwyn.

Meddyliwch sut rydych chi’n teimlo pan na allwch gael pobl i’ch deall neu os nad ydych chi’n gallu deall yr hyn mae rhywun yn ei ofyn i chi, ar wyliau tramor o bosibl.

Adnabod newid mewn cyfathrebu

Bydd sgiliau cyfathrebu yn newid gydag amser. Efallai na fydd newidiadau yn rhai amlwg i ddechrau:

  • cymryd ychydig bach mwy o amser i ddod o hyd i’r gair cywir neu ddisgrifio eitemau yn lle hynny
  • colli cyfeiriad brawddeg yn ei chanol
  • anawsterau’n deall yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ddilyn brawddegau cymhleth.

Wrth i’r dementia ddatblygu, bydd pobl yn dibynnu mwy a mwy ar gyfathrebu di-eiriau'r person arall a sut mae pethau’n cael eu dweud, tôn y llais.

Cyfathrebu effeithiol

Mae’n bwysig ein bod yn adnabod y newidiadau hyn ac yn addasu’r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod cyfathrebu mor effeithiol â phosibl.

Lleihau pethau sy’n tarfu

  • Diffodd y teledu neu symud i fan distawach
  • Cael sylw’r person
  • A yw’n well gan y person gael ei galw’n Mrs Jones? Elizabeth? Liz? Betty?
  • Defnyddiwch enw’r person ar ddechrau’r frawddeg i gymell y person i ymuno â’r sgwrs

Meddyliwch am safle’ch corff? Ydyn nhw’n gallu’ch gweld?

  • Ewch i lawr i lefel y person, ac edrychwch i’w llygaid. Bydd y maes gweledol yn lleihau wrth i’r dementia ddatblygu. Felly ewch at y person ar ei ochr orau bob tro. Efallai y bydd angen i chi fynd yn eithaf agos cyn i gysylltiad gael ei wneud

Siaradwch yn glir a phwyllog

  • Symleiddiwch eich brawddegau heb siarad fel eich bod yn siarad gyda phlentyn
  • Defnyddiwch eiriau mae’r person yn eu defnyddio. Felly, os ydyn nhw’n galw’r toiled yn “lle chwech”, gwnewch chi hynny hefyd
  • Ceisiwch osgoi uno dwy frawddeg drwy ddefnyddio ‘a’, ‘neu’, ‘ond’. Dechreuwch frawddeg newydd.

Meddyliwch am dôn eich llais

  • Peidiwch â siarad fel pe baech yn siarad gyda phlentyn
  • Bydd tôn eich llais yn newid os ydych chi ar frys, yn flin, neu wedi diflasu
  • Cofiwch nad yr hyn rydych chi’n ei ddweud sy’n bwysig bob tro, ond sut y byddwch chi’n ei ddweud.

Ceisiwch osgoi gormod o gwestiynau

  • Meddyliwch am gwestiynau ie / na
  • Er ei bod yn bwysig rhoi dewisiadau i bobl, bydd gormod o gwestiynau’n peri dryswch weithiau.
  • Os ydych chi’n darllen rhestr o ddewisiadau amser bwyd, bydd pobl yn ‘dewis’ yr olaf ar y rhestr yn aml, gan mai dyna’r unig un y maent yn ei gofio
  • Gallai fod yn well gofyn yn syml “fyddech chi’n hoffi pysgod?” sy’n gofyn am ateb ie neu na neu hyd yn oed yn well, dangoswch yr opsiynau iddyn nhw.

Cyfathrebwch heb eiriau

  • Ewch dros ben llestri gyda’r ystumiau. Er enghraifft, dangoswch i berson sut i frwsio ei ddannedd drwy wneud y symudiadau yn hytrach nag egluro sut mae gwneud
  • Defnyddiwch luniau i helpu i wneud penderfyniadau
  • Ystyriwch ei ysgrifennu ar bapur. Bydd rhai pobl yn gallu darllen, tra na fydd eraill
  • Defnyddiwch gyffyrddiadau i bwysleisio’ch geiriau.

Deall ein gilydd

Mae'r adran hon yn eich helpu i feddwl am addasu sut rydych yn cyfathrebu ar gyfer person â dementia.

Mae cyfathrebu’n golygu mwy na siarad. Rydyn ni'n cyfathrebu â'n gilydd trwy iaith ein corff, ein mynegiant gwyneb, y synau a'r symudiadau rydyn ni'n eu gwneud. Mae'n bwysig dysgu ffyrdd o gyfathrebu sydd yn gweithio i'r unigolyn â dementia, nid y rhai sy'n gweithio i ni.

Dyma’r ffyrdd rydyn ni’n cyfathrebu.

Dyma ychydig o gyngor ar gyfathrebu'n dda â phobl â dementia.

Gweithio gydag offer amddiffynol personol (PPE)

Rydym yn gwybod y bydd rhwystrau ychwanegol i gyfathrebu. Bydd angen offer ar staff i'w hamddiffyn, ond gall hyn achosi dryswch a thristwch i rhai phobl. Dyma rhai adnoddau i'ch helpu chi i ddelio gyda rhai o'r rhwystrau hynny.

Arweiniad ac ystyriaethau ynghylch cyfarpar diogelu personol wrth gynorthwyo pobl sy’n byw â dementia.

Dyma fideo defnyddiol gydag awgrymiadau ar sut i esbonio gwisgo menig.

Diwylliant ac iaith

Mae'n bwysig cydnabod iaith a diwylliant yr unigolyn pan yn dysgu am bwy ydyn nhw.

Yr iaith Gymraeg

Mae angen cefnogi siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia i siarad eu hiaith gyntaf. Efallai y bydd rhai yn ei chael hi'n anodd cofio geiriau Saesneg. Os nad ydych chi'n siaradwr Cymraeg, fe allech chi roi cynnig ar y syniadau canlynol:

  • darganfyddwch a oes siaradwyr Cymraeg a allai siarad â'r person gyda chi
  • dysgu rhai pethau sylfaenol, fel syt i ddweud enw’r person
  • defnyddiwch fwy o ymadroddion wyneb ac iaith gorfforol.

Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch helpu chi i gyfathrebu yn Gymraeg. Mae gan yr adnodd hwn y gallu i gynhyrchu ac ymateb i leferydd dynol (testun i siarad/leferydd a adnabod llais) a gallwch fynd yma a chlywed sut i ynganu ymadroddion fel ‘sut y gallaf helpu’ a ‘ble mae’r boen’.

Mae'r Ap Gofalu Trwy’r Gymraeg yn arbennig o ddefnyddiol i gefnogi gweithwyr sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg

Gweithio gyda phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae taflenni defnyddiol ar ddementia mewn nifer o ieithoedd ar gael. Mae'n bwysig rhannu taflenni gwybodaeth â gofalwyr neu aelodau o'r teulu hefyd.

Mae yna adnoddau defnyddiol iawn ar wefan Gynghrair Dementia ar gyfer Diwylliant ac Ethnigrwydd.

Mae hefyd adnoddau ar ddarparu gofal ysbrydol i wahanol gredoau ar ddiwedd oes ar gael.

Astudiaeth achos am gyfathrebu'n effeithio gyda phobl gyda dementia

Adnoddau defnyddiol

Dolenni ymchwil

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 21 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (59.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch