Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

Gwybodaeth pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ag yr hyn yr ydym yn ei wneud i hybu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y sectorau blynyddoedd cynnar a gofal plant iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae adnoddau ar gael i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i hyrwyddo'r fenter hon.

Pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle?

Drwy wella sgiliau iaith Gymraeg, gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu o ddwyieithrwydd, rydym ni’n gallu cynnig gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Mae manteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle’n cynnwys:

  • dileu’r perygl o ynysu unigolion drwy fethu â darparu gwasanaethau yn yr iaith maen nhw’n ei ffafrio
  • osgoi cwynion posibl am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol yn cael eu gwneud i Gomisiynydd y Gymraeg 
  • sicrhau safonau cydraddoldeb drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg
  • asesu anghenion unigol drwy gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu dewis iaith  hyrwyddo enw da eich sefydliad drwy gynnig gwasanaeth dwyieithog.

Polisi a deddfwriaeth iaith Gymraeg

Yn dilyn deddfwriaeth a datblygiadau mewn polisi iaith, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud yn siŵr bod ganddyn nhw drefniadau staffio priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog.

Mae deddfwriaeth bellach yn sefydlu Safonau Iaith newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau Iaith hyn yr un mor berthnasol i gyrff, asiantaethau, cwmnïau a sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i wasanaethau Cymraeg mewn gofal cymdeithasol fod:

  • o'r un safon ac ar gael mor rhwydd a phrydlon â gwasanaethau Saesneg
  • mor eang a thrylwyr
  • ni ddylai sefydliadau dybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • ni ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg.

Beth yw 'Mwy na geiriau'?

‘Mwy na geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei nod yw

  • sicrhau bod anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rhai sydd ei angen
  • dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd gofal ac nad yw'n cael ei ystyried yn “ychwanegiad”.

Dyma ddull rhagweithiol o ran dewis ac angen iaith yng Nghymru, sy’n rhoi'r cyfrifoldeb dros sicrhau gwasanaethau Cymraeg ar ddarparwyr gwasanaethau yn hytrach na’r unigolyn sy'n defnyddio’r gwasanaethau. 

Mae gan y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ran i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i bedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn arbennig o bwysig iddynt. Sef:

  • plant
  • pobl hŷn
  • pobl ag anableddau dysgu.
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl. 

Mae'r grwpiau blaenoriaeth hyn yn arbennig o agored i niwed os na fyddan nhw’n derbyn gofal yn yr iaith o’u dewis.

Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?

Ystyr ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr gymaint â’r Saesneg. 

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.

Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Mae'r adnodd 'Sgiliau Iaith Gymraeg yn eich gweithlu - eu defnyddio'n effeithiol' wedi ei gynllunio i gefnogi 'Mwy na Geiriau' trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr nodi pa lefel sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithwyr.

Rydym hefyd wedi datblygu pecyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n seiliedig ar egwyddorion 'Mwy na Geiriau'.

Mae'r pecynnau hyn yn helpu gwneud defnydd effeithiol o sgiliau iaith fel y byddech ag unrhyw sgil arall yn y gweithle, er budd a lles pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau.

Cefnogi’r gweithlu â rhaglen 'Cymraeg Gwaith'

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Fel rhan o’r uchelgais genedlaethol honno, rydym ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar raglen i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Nod y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ newydd yw hyfforddi'r gweithlu a rhoi hyder iddynt gynnal sgyrsiau yn Gymraeg â'r rhai maen nhw’n eu helpu. 

Mae tystiolaeth a phrofiad yn dweud wrthym fod galluogi unigolion i siarad yn eu dewis iaith yn ein galluogi i gyrraedd ‘craidd y mater’ yn llawer mwy effeithiol a chyfforddus. 

Sut fydd Cymraeg Gwaith yn eich helpu chi?

  • Bydd gennych chi hyder i ddefnyddio'r Gymraeg â'r bobl rydych chi'n eu cefnogi yn eich gwaith
  • Byddwch yn gwella eich sgiliau Cymraeg ar gyfer rhagolygon cyflogaeth y dyfodol a rhwydweithio cymdeithasol
  • Bydd eich sefydliad yn elwa o allu hyrwyddo ei ymglymiad â’r rhaglen Cymraeg Gwaith ac yn gwella'r gwasanaethau mae'n eu cynnig
  • Gall unigolion a theuluoedd sy'n cael cymorth ddefnyddio’r iaith maen nhw’n ei ffafrio, sy'n caniatáu iddynt weithio gyda chi i gael canlyniadau cadarnhaol.

Beth sydd ar gael?

  • Offeryn ar-lein sy'n mesur eich gallu i ddeall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
  • 100 awr o gyrsiau ar-lein
  • Cyrsiau wyneb-yn-wyneb.

Pryd allwch chi ddechrau?

I gael gweld yr adnoddau hyn ac i gael rhagor o wybodaeth am raglen ‘Cymraeg Gwaith’ cysylltwch â liz.kingjones@gofalcymdeithasol.cymru 

Noder bod y rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim.

Adnoddau i’ch helpu yn y gweithle

Yma ceir amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i gefnogi defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. 

link icon
App
Learn Cymraeg App
link icon
App
Say Something in Welsh

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni

Diweddarwyd diwethaf: 30 Ionawr 2019