Jump to content
Pwysigrwydd perthnasoedd i blant sy'n byw mewn gofal preswyl i blant

Dysgwch fwy am bwysigrwydd perthnasoedd i blant sy'n byw mewn gofal preswyl i blant

Pam y mae perthnasoedd yn bwysig i bobl ifanc sydd mewn gofal?

Rhaid i chi gael dealltwriaeth dda o bwysigrwydd perthnasoedd er mwyn cefnogi pobl ifanc. Gall y perthnasoedd hyn fod yn rhai â theuluoedd, cyfoedion neu ymarferwyr proffesiynol y bobl ifanc.

Mae’r plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi plant ymysg y rheini sy’n fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae eu hanghenion yn gymhleth ac amrywiol yn aml. Oherwydd hyn, mae’n bwysig iawn cael rhwydwaith cymorth o’u hamgylch.

Cofiwch fod y system gofal ei hun yn gallu ei gwneud yn anodd i bobl ifanc ffurfio perthnasoedd oherwydd newidiadau mynych o ran eu gweithiwr cymdeithasol, cartref, ysgol, ac o ran eu lleoliad daearyddol mewn llawer achos. Mae hefyd yn bosibl bod cyfyngiadau ar y plant rydych yn gofalu amdanynt o ran pwy y gallant eu gweld neu pa mor aml y gallant eu gweld.

Er hynny, er gwaethaf profiadau negyddol yn y gorffennol, o gael help a chefnogaeth gennych chi, fe all pobl ifanc ddysgu i feithrin perthnasoedd iach.

Mae perthnasoedd cadarnhaol ac ystyrlon yn bwysig oherwydd gallant:

  • gyfrannu at gydnerthedd y plant
  • hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol
  • cyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol
  • helpu i leihau’r perygl o ffurfio perthnasoedd amhriodol a llawn risg a all arwain at gamfanteisio neu gam-drin
  • helpu gyda gwaith therapiwtig.

Hefyd mae perthnasoedd cadarnhaol ac ystyrlon yn gallu helpu pobl ifanc i drosglwyddo wrth fynd drwy’r system gofal ac wrth adael gofal drwy:

  • wneud lleoliadau’n fwy sefydlog
  • dylanwadu ar gynllunio ar gyfer parhad.

Os na fydd y plant sydd dan eich gofal yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, gall hynny arwain at:

  • ymddygiad heriol
  • lleoliadau sy’n ansefydlog
  • cylch parhaus o wrthod ac ansefydlogrwydd ar gyfer y plentyn hwnnw.

Mae gan bobl ifanc hawl gyfreithiol i gynnal perthnasoedd

Nid rhywbeth mewn rhyw fyd delfrydol yw perthnasoedd da i bobl ifanc mewn gofal; mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael bywyd teuluol, ac i gael ffrindiau (rhyddid i ymgysylltu). Dylech fod yn ymwybodol o’r hawliau hyn a rhoi i bobl ifanc y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gynnal perthnasoedd pwysig yn eu bywyd, ar yr amod ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Pan fydd plant yn derbyn gofal oddi cartref, bydd eu gweithiwr cymdeithasol yn asesu pa berthnasoedd sy’n ddiogel iddynt a sut y gall plant gynnal eu cysylltiadau â’u teulu a’u ffrindiau, a dylid cynnwys hyn yn eu cynllun gofal.

Pa berthnasoedd sy’n bwysig i bobl ifanc?

Bydd gan bobl ifanc farn bendant ynghylch pwy y maent yn dymuno cael perthynas â nhw.

Peidiwch â ffurfio rhagdybiaethau am ba berthnasoedd a fydd yn bwysig iddyn nhw ar sail eich disgwyliadau neu brofiadau’ch hun.

Byddwch yn gweld bod perthnasoedd pwysig y person ifanc wedi’u cofnodi yn ei gynllun gofal, a dylid ei ddiweddaru wrth i’r perthnasoedd newid a datblygu. Os ydych yn helpu person ifanc i feddwl am ei berthnasoedd a bod y person ifanc am newid ei gynllun gofal, yna fe ddylech chi drafod hyn â’i weithiwr cymdeithasol cyn newid dim.

Er bod perthnasoedd teuluol yn bwysig, mae’n bosibl y bydd y perthnasoedd hyn wedi bod yn gamdriniol a chaotig i rai plant. Oherwydd hyn, fe all y perthnasoedd â chyfoedion, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol neu oedolion eraill fod yn bwysig dros ben. Yn achos rhai pobl ifanc, mae’n bosibl y bydd anifail anwes a oedd ganddynt o’r blaen yn bwysig iddynt.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (36.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch