Dros amser, mae mythau wedi datblygu ynghylch taliadau uniongyrchol sydd wedi troi rhai pobl ymaith rhag eu defnyddio. Rydym wedi ceisio cywiro’r gwallau yn yr adran hon sy’n chwalu’r mythau.
Myth 1 Mae taliadau uniongyrchol yn gymhleth i’w defnyddio
Gall fod llawer i’w ddysgu wrth ddefnyddio taliadau uniongyrchol am y tro cyntaf, yn enwedig os fe’u defnyddir i gyflogi cynorthwyydd personol.
Bydd angen i bobl sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol gadw cofnodion o’r arian y maen nhw’n ei dderbyn a’i wario, sy’n golygu cadw derbynebau, anfonebau a rheoli eu cyfrif banc.
Fodd bynnag, ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ceir o leiaf un gwasanaeth a fydd yn cynorthwyo pobl i reoli eu taliadau uniongyrchol, gan roi mwy neu lai o gymorth yn dibynnu ar yr hyn y mae’r unigolyn ei angen neu ei eisiau.
Myth 2 Nid yw taliadau uniongyrchol ar gael i blant
Gall teuluoedd gael taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn anabl.
Hefyd, gallan nhw eu defnyddio i dalu am gymorth neu seibiannau ar gyfer rhieni-ofalwyr.
Yn y ffilm hon, mae Jody, sy’n rhiant-ofalwr, yn trafod sut mae taliadau uniongyrchol yn darparu gweithgareddau ar gyfer ei mab anabl ac yn caniatáu seibiant i weddill y teulu.
Myth 3 Defnyddir taliadau uniongyrchol ar gyfer cyflogi cynorthwywyr personol yn unig
Y peth gwych am daliadau uniongyrchol yw’r cyfle i fod yn greadigol.
Mae cyflogi cynorthwyydd personol yn un o lawer o opsiynau i ddiwallu canlyniadau llesiant personol pobl.
Er enghraifft, gellir defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu offer, talu am weithgareddau i leihau unigrwydd neu arwahanrwydd, neu i ddatblygu hyder, neu aelodaeth campfa neu drafnidiaeth i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol.
Myth 4 Rhaid i chi fod yn gyflogwr os ydych chi’n defnyddio taliadau uniongyrchol
Ni fydd pawb sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol yn dewis cael cynorthwyydd personol. Ni fydd pawb sydd â chynorthwyydd personol yn dewis dod yn gyflogwr.
Os yw unigolyn yn anghysurus ynghylch bod yn gyflogwr, gallan nhw ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau gan asiantaeth, neu gallan nhw gael mynediad at wasanaethau cymorth a fydd yn eu helpu i fod yn gyflogwr.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Cael cymorth i fod yn gyflogwr taliadau uniongyrchol.
Myth 5 Ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr un cartref
Mae hyn wedi’i ganiatáu bob amser gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud: “yn aml cyflogi perthynas sy’n byw yn yr un aelwyd yw’r ffordd fwyaf addas o ddarparu gofal.”
Myth 6 Ni allwch fancio unrhyw arian taliadau uniongyrchol sydd heb ei wario
Mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu dylunio i fod yn hyblyg.
Rhaid i dderbynwyr taliadau uniongyrchol allu 'bancio' unrhyw daliadau maen nhw heb eu defnyddio er mwyn defnyddio'r rhain ym mha ffordd a phryd mae anghenion ychwanegol yn eu codi, fel a amlinellir yn Rhan 4 Côd Ymarfer ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Rhaid defnyddio'r taliadau i ddiwallu anghenion personol y derbynnydd, yn unol â'r hyn a gytunwyd arno gyda'r awdurdod lleol.
Myth 7 Gall pobl wario taliadau uniongyrchol ar unrhyw beth
Bydd unigolion yn cytuno â’u hawdurdod lleol sut i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth, neu anghenion cymorth gofalwyr.
Mae taliadau uniongyrchol yn cynnig hyblygrwydd a dewis ynghylch sut i ddiwallu anghenion gofal a chymorth, ond gellir eu gwario yn unol â’r cynllun cymorth yn unig.
Os bydd anghenion yr unigolyn yn newid, gellir adolygu’r cynllun cymorth.
Myth 8 Gellir defnyddio cynorthwyydd personol i ddarparu gofal personol yn unig
Gall cynorthwywyr personol ddarparu amrywiaeth o ofal a chymorth; bydd eu rôl yn dibynnu ar yr unigolyn neu’r gofalwr a’r hyn y maen nhw wedi’i gytuno fel rhan o’u cynllun cymorth.
Gall hyn gynnwys:
- cymorth gydag ymolchi, gwisgo neu baratoi prydau bwyd
- cymorth i ofalwr er mwyn cynnal eu lles
- cymorth gyda gweithgareddau megis mynd i nofio a mynychu dosbarthiadau nos neu weithgareddau cymdeithasol
- cymorth o ran deall a chael mynediad at dasgau dyddiol megis talu biliau ac ymateb i lythyrau.
Myth 9 Mae taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl anabl yn unig
Mae unrhyw un sydd ag angen cymwys am gymorth yn gallu defnyddio taliadau uniongyrchol, er enghraifft pobl hŷn, rhieni plant ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr dros 16 oed neu bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Myth 10 Mae taliadau uniongyrchol yn effeithio ar yr hawl i fudd-dal
Nid yw taliadau uniongyrchol yn fath o incwm. Fe’u rhoddir i dalu am wasanaethau neu offer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl.
Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n effeithio ar dreth incwm neu hawl i fudd-dal.
Myth 11 Dylai pawb gael taliadau uniongyrchol
Ni fydd taliadau uniongyrchol yn addas i bawb.
Mae rhai unigolion a gofalwyr yn fodlon â’r gwasanaethau y mae eu hawdurdod lleol yn eu trefnu ar eu cyfer.
I eraill, nid ydyn nhw eisiau bod yn gyfrifol am drefnu a thalu am eu gwasanaethau eu hunain ac mae’n well ganddyn nhw adael y tasgau hyn i’r awdurdod lleol.
Myth 12 Mae rhai grwpiau o bobl nad ydyn nhw’n gallu defnyddio taliadau uniongyrchol, er enghraifft pobl sy’n byw gyda dementia
Dylai pawb a gaiff eu hasesu’n gymwys i dderbyn gofal a chymorth, a gofalwyr sy’n gymwys i gael cymorth, fod yn ymwybodol bod taliadau uniongyrchol yn opsiwn ar eu cyfer a sut y gellid eu defnyddio.
Hefyd, dylen nhw gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael i reoli eu taliadau uniongyrchol a sut y gellir trefnu hyn drwy deuluoedd neu wasanaethau.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.