Dysgwch fwy am ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaeth
Cyflwyniad i ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaeth
Gall pobl brynu gwasanaeth gyda’u taliad uniongyrchol, megis talu i fynychu gweithgaredd neu ddosbarthiadau addysg o’u dewis neu brynu gwasanaeth gofal a chymorth.
Caiff y rhain eu trefnu a’u rheoli gan bwy bynnag sy’n darparu’r gwasanaeth.
Bydd yr unigolyn yn talu i gymryd rhan neu ddefnyddio’r gwasanaeth ond nid ydyn nhw o reidrwydd yn ymwneud â threfnu’r gweithgareddau.
Hefyd, gellir cyfuno’r taliadau â derbynwyr taliadau uniongyrchol eraill i redeg gwasanaeth neu weithgaredd.
Astudiaeth achos: sut helpodd taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaeth garddio
Daeth grŵp o bobl ag anghenion tebyg i adnabod ei gilydd trwy glwb galw heibio a oedd yn cael ei redeg gan elusen leol.
Roedden nhw eisiau parhau i weld ei gilydd wedi iddyn nhw adael eu cyrsiau astudio, yn ddelfrydol er mwyn gwneud rhywbeth yn yr awyr agored.
Rhoddwyd cynnig gan riant un o aelodau’r grŵp i rentu rhandir ar eu cyfer. Aethant ati i gyfuno eu taliadau uniongyrchol er mwyn cyflogi garddwr i’w helpu i blannu a thyfu amrywiaeth o lysiau a blodau.
Mae hyn yn helpu eu lles a hefyd yn eu helpu i gynnal eu lefelau o weithgarwch corfforol.
Yn ddiweddarach yn y tymor, maen nhw’n bwriadu cyflogi rhywun i’w dysgu sut i goginio gyda’r llysiau maen nhw wedi’u tyfu.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.