Adnoddau i gefnogi lesiant aelodau'ch tîm.
Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu
Mae gan ein fframwaith adnoddau i helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant i greu gweithleoedd sy'n cefnogi llesiant i'r bobl sy'n gweithio iddynt.
Mae ein modiwl e-ddysgu wedi'i seilio ar y fframwaith ar gael i'ch helpu chi ddeall sut i gefnogi llesiant yn y gweithlu.
Camau tuag at weithleoedd positif
Gall gweithleoedd positif alluogi staff i deimlo eu bod yn cymryd rhan, yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod eraill yn ymddiried ynddynt fel eu bod yn hapusach ac yn iachach yn y gwaith.
Mae'r rhain yn bethau y gallwch eu gwneud nawr i ddechrau adeiladu gweithle positif i'ch timau.
Bod yn arweinydd positif a chefnogol
Arweinyddiaeth dosturiol
Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ffordd o arwain pobl. Mae’n canolbwyntio ar ddeall a gwrando ar bobl eraill, eu cefnogi a dangos empathi tuag atynt.
Mae'n ffordd dda o weithio, gan ei bod helpu'r bobl rydyn ni'n eu harwain i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac y gofelir amdanynt, fel y gallant gyrraedd eu potensial a gwneud y gorau yn eu gwaith.
Cewch fwy o wybodaeth am sut a pham mae'n gweithio ar y dudalen arweinyddiaeth dosturiol i reolwyr ar ein gwefan
Mae adnoddau gwych ar gael i'ch helpu i ddeall mwy am arweinydd tosturiol.
Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac mewn gwahanol ffurfiau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.
- Cwrs: Cyflwyniad i arwain gyda charedigrwydd a thosturi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol – The King’s Fund
Cwrs am ddim am arweinyddiaeth dosturiol.
- Cyrsiau tosturiol am ddim gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Cyfleoedd i chi ddysgu mwy am arweinyddiaeth dosturiol.
- Egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol – Gwella
Esbonio blociau adeiladu arweinyddiaeth dosturiol.
Cael sgyrsiau cefnogol yn y gwaith
Mae cyfathrebu da gydag unigolion a thimau yn allweddol i greu gweithle positif. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i gael sgyrsiau cefnogol am waith neu lesiant.
Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac mewn gwahanol ffurfiau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.
- Canllaw sgwrs am lesiant (i reolwyr) – Learning@Wales
Mae hwn yn adnodd ar-lein ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n gyfres o gwestiynau i'ch helpu i wybod pa gymorth sydd ei angen ar yr unigolyn arall. Rydyn ni wedi gweithio gyda chyflogwyr y GIG, partneriaid undebau llafur a Llywodraeth Cymru i'w ddatblygu.
- Canllaw i sgyrsiau cefnogol ac anodd – NHS Scotland
Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, ac yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i gael sgwrs lwyddiannus.
- Fideo: paratoi ar gyfer a chael ‘sgwrs dros baned' – Gwella
Mae'r fideo hwn yn awgrymu ffyrdd i chi baratoi ar gyfer a chael sgwrs anodd gyda rhywun rydych chi'n gweithio gyda nhw.
- Llesiant ac amodau gwaith gweithwyr cymdeithasol: pecyn cymorth arfer da – BASW
Mae'r canllaw arfer da manwl hwn yn cynnwys adnoddau i'ch helpu i gefnogi llesiant gweithwyr cymdeithasol yn eich tîm. Mae'n cynnwys gwybodaeth am oruchwyliaeth fyfyriol, sy'n eich helpu i ddeall cryfder a galluoedd aelodau'ch tîm, a sut y gallwch eu cefnogi yn y gwaith.
Cefnogaeth cyfoedion
Mae cysylltu â phobl eraill yn un ffordd o ofalu am eich llesiant.
Fel rheolwr, efallai y bydd angen cymorth arnoch i reoli'ch tîm yn well, neu efallai y bydd eich tîm yn elwa o siarad â phobl mewn rolau tebyg mewn man diogel. Mae cefnogaeth gan gyfoedion yn ffordd wych o wneud hyn.
Trwy feithrin perthynas dda â'ch cyfoedion gallwch gael:
- syniadau neu ddysgu i'ch helpu chi i wneud eich swydd
- cyfle i leisio eich profiadau mewn man diogel
- cyfle i gael cyngor gan bobl sy'n mynd trwy brofiadau tebyg
Rydyn ni’n cynnal ein sesiynau cymorth gan gyfoedion ein hunain a gallwn eich hyfforddi i sefydlu eich grŵp cymorth gan gyfoedion eich hun.
Cadwch lygad am ein sesiynau nesaf ar ein tudalen digwyddiadau.
Angen help nawr
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a bod angen siarad arnoch, mae rhywun bob amser ar gael i wrando. Gall y llinellau cymorth am ddim hyn gynnig gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth i chi.
- Samariaid
Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar 116 123. Os oes arnoch angen rhywun i siarad â nhw, byddan nhw'n gwrando. Ni fyddant yn barnu nac yn dweud wrthych beth i'w wneud.
Os hoffech chi gael cefnogaeth emosiynol yn Gymraeg, gallwch ffonio'r llinell Gymraeg am ddim ar 0808 164 0123. Mae ar gael bob dydd, o 7pm tan 11pm. - Llinell gymorth C.A.L.L.
Llinell gymorth sy’n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chefnogaeth os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Ffôn: 0800 132 737
Tecstiwch ‘help’ i 81066 - National bullying helpline
Llinell gymorth i helpu chi ddarganfod pa gamau gallwch chi gymryd er mwyn delio gyda bwlio yn y gweithle. Mae ar gael yn Saesneg yn unig, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
Ffôn: 0300 323 0169
- SHOUT
Gwasanaeth testun 24/7, am ddim ar bob prif rwydwaith ffôn symudol i unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd, unrhyw le.
I gysylltu â SHOUT, tecstiwch ‘FRONTLINE’ i 85258
- Childline
Os ydych chi o dan 19 oed, gallwch ffonio 0800 1111 i gael cymorth iechyd meddwl.
- GIG Cymru Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd yw GIG Cymru. Ffoniwch 111, mae ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.
- Mind
Mae gan yr elusen iechyd meddwl Mind wybodaeth am ffyrdd o helpu'ch hun i ymdopi yn ystod argyfwng. Mae hyn yn cynnwys ymarferion tawelu ac adnodd i'ch helpu i fynd drwy’r oriau nesaf.
Rhwydwaith 'mae eich llesiant yn bwysig'
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a sesiynau rheolaidd am lesiant i reolwyr. Cadwch olwg ar ein tudalennau digwyddiadau.
Os hoffech ymuno â'n cymuned llesiant ar-lein, e-bostiwch ni ar lles@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod mwy.
Ymunwch â'n cymuned llesiant
Credwn y gall creu mannau i gysylltu â datblygu perthnasoedd arwain at newid parhaol a chadarnhaol.
‘Cymuned 'Mae eich llesiant yn bwysig'
Mae hwn yn fan i gysylltu â phobl sydd â diddordeb cyffredin yn llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Rydyn ni eisiau archwilio, rhannu, cydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd i wneud gwahaniaeth i ymarfer o ddydd i ddydd.
Mae’r gymuned llesiant ar gyfer arweinwyr, rheolwyr a phobl sy’n gweithio mewn gofal i gysylltu a chydweithio mewn un man diogel.
Fel aelod o’r gymuned, byddwch yn:
- dod o hyd i newyddion, digwyddiadau ac adnoddau llesiant
- cael cyfle i glywed a rhannu ymarfer da, a rhannu syniadau neu heriau
- gallu magu perthnasoedd a dod o hyd i ffyrdd o gydweithio
- dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau cymorth sydd ar gael i chi.
Ymunwch â'r gymuned llesiant (bydd y dolen yn eich tywys chi i'n platfform cymunedau).