Jump to content
Casgliad data'r gweithlu 2024

Rydyn ni'n casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o adroddiad rydyn ni'n ei gynhyrchu bob blwyddyn.

Bydd casgliad eleni yn parhau tan ddiwedd mis Hydref.

Beth yw casgliad data’r gweithlu?

Rydyn ni’n casglu data am y gweithlu bob blwyddyn i roi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni'n gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol anfon data atom ar niferoedd a nodweddion eu gweithlu.

Rydyn ni wedi cynnal y casgliad ers 2021, ar ôl i Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ddisodli casgliadau blaenorol gydag un broses rydyn ni'n ei reoli.

Mae'r casgliad yn wahanol i'r wybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi am y gweithlu cofrestredig gan ei fod yn casglu data ar bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae hefyd yn edrych ar bethau fel contractau ac oriau gwaith, yn ogystal â'r rhai sy'n ymuno a gadael, i ble maen nhw’n symud ac o ble.

Pam rydyn ni'n casglu'r data

Rydyn ni’n casglu’r data i gael gwell dealltwriaeth o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hyn yn gwella ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ac yn seiliedig ar dystiolaeth am y gweithlu, fel gallwn ni eu grymuso i gefnogi pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn well.

Fe gaethon ni’r cyfrifoldeb o gasglu’r data hwn gan ein bod ni'n rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Darganfyddwch pa ddata rydyn ni'n ei gasglu.

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r data

Rydyn ni’n dadansoddi’r data ac yn ei gyflwyno mewn adroddiad rydyn ni’n gyhoeddi bob blwyddyn, sy’n rhoi trosolwg o’r gweithlu cyfan ac yn dadansoddi’r canfyddiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.

Byddwn ni'n cyhoeddi ein hadroddiad ar gasgliad 2023 yn ddiweddarach eleni.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r data i gynhyrchu erthyglau a chynnwys cysylltiedig am wahanol agweddau ar ein canfyddiadau drwy Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Beth sy'n newydd ar gyfer 2024?

Dim ond tri newid sy’n cael eu gwneud ar gyfer casgliad eleni.

Mae dau o’r newidiadau yn rhan o’n gwaith i alinio ein casgliad â datganiadau blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

  • Bydd y casgliad nawr yn gofyn am nifer y staff mewn swydd ar 31 Mawrth 2024, gan ddod â’n dyddiad yn unol â’r hyn mae AGC yn gofyn amdano.
  • Er mwyn gwneud yn siŵr bod modd cymharu’r data mor hawdd â phosibl â’r hyn mae AGC yn casglu, rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod lleoliadau wedi’u halinio ar draws y ddau sefydliad. Mae hyn yn golygu gallwn ni neilltuo casglwyr data yn fwy effeithiol ar gyfer pob sefydliad a lleoliad.

Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith i alinio ein casgliad ag AGC yn ddiweddarach ar y dudalen hon.

Yr unig ddata ychwanegol rydyn ni'n gofyn amdano eleni yw’r adran gontractau, lle hoffen ni wybod faint o staff rydych chi'n eu cyflogi ar hyn o bryd sydd angen fisa i weithio yn y DU.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Rydyn ni angen i'ch sefydliad anfon data atom drwy GCCarlein.

Os ydych chi'n gasglwr data ar gyfer eich sefydliad, dylech chi weld ‘Casgliad Data’r Gweithlu’ yn ymddangos yn y ddewislen uchaf ar ôl mewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Unwaith y byddwch wedi clicio drwodd i’r ardal casgliad data, fe welwch chi ganllawiau ar sut i gwblhau eich datganiad.

Mae rhaid i awdurdodau lleol anfon eu data atom, ond mae data gan ddarparwyr a gomisiynir yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn o'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae darparwyr a gomisiynir yn cynnwys busnesau masnachol, a sefydliadau di-elw a thrydydd sector. Anfonodd 68 y cant o'r sefydliadau hyn eu data atom yn 2022.

Mae cael y darlun mwyaf cyflawn o faint a siâp y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Trwy ddarparu eich data, rydych chi'n cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw’r casglwr data ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

Gweithio gydag AGC i symleiddio casglu data

Rydyn ni'n gwybod bod AGC yn casglu rhywfaint o ddata ar y gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o’i phroses datganiadau blynyddol.

Rydyn ni'n cydnabod nad gorfod darparu data tebyg i ni ac AGC yw’r broses fwyaf effeithlon.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag AGC i ddatblygu datrysiad sy’n galluogi’r ddau sefydliad i gasglu data mewn ffordd sydd nid yn unig yn bodloni anghenion y sefydliadau, ond sydd hefyd yn cyflwyno darlun o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n cael ei weld fel mewnwelediad gwerthfawr i bobl sy’n gweithio yn y sector.

Os ydych chi'n gasglwr data ar gyfer eich sefydliad, byddwn ni'n eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau am hyn cyn bo hir, fel bod datblygiad unrhyw broses newydd yn cael ei arwain gan y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn gywir ar GCCarlein fel y gallwn roi gwybod i chi am y gwaith hwn.

Angen mwy o gymorth?

Cysylltwch â ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ystod unrhyw gam o’r broses.

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Medi 2024
Diweddariad olaf: 10 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (48.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch