Jump to content
Casgliad data'r gweithlu 2025

Rydyn ni'n casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o adroddiad rydyn ni'n ei gynhyrchu bob blwyddyn.

Bydd casgliad eleni yn parhau tan 28 Tachwedd.

Beth yw casgliad data’r gweithlu?

Rydyn ni’n casglu data am y gweithlu bob blwyddyn i roi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni'n gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol anfon data atom ar niferoedd a nodweddion eu gweithlu.

Rydyn ni wedi cynnal y casgliad ers 2021, ar ôl i Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ddisodli casgliadau blaenorol gydag un broses rydyn ni'n ei reoli.

Mae'r casgliad yn wahanol i'r wybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi am y gweithlu cofrestredig gan ei fod yn casglu data ar bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae hefyd yn edrych ar bethau fel contractau ac oriau gwaith, yn ogystal â'r rhai sy'n ymuno a gadael, i ble maen nhw’n symud ac o ble.

Pam rydyn ni'n casglu'r data

Rydyn ni’n casglu’r data i gael gwell dealltwriaeth o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hyn yn gwella ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ac yn seiliedig ar dystiolaeth am y gweithlu, fel gallwn ni eu grymuso i gefnogi pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn well.

Fe gaethon ni’r cyfrifoldeb o gasglu’r data hwn gan ein bod ni'n rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Darganfyddwch pa ddata rydyn ni'n ei gasglu.

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r data

Rydyn ni’n dadansoddi’r data ac yn ei gyflwyno mewn adroddiad rydyn ni’n gyhoeddi bob blwyddyn, sy’n rhoi trosolwg o’r gweithlu cyfan ac yn dadansoddi’r canfyddiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r data i gynhyrchu erthyglau a chynnwys cysylltiedig am wahanol agweddau ar ein canfyddiadau drwy Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Beth sy'n newydd ar gyfer 2025?

Yr unig newid ar gyfer 2025 yw, pan fydd casglwyr data yn rhoi gwybod i ni am nifer y bobl sy’n gweithio yn eu lleoliadau, bydd y ffurflen yn dangos iddyn nhw y ffigur cyfatebol fe wnaethon nhw ei ddarparu i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel rhan o’r broses Datganiadau Blynyddol.

Rydyn ni'n ymwybodol bod darparwyr ar hyn o bryd yn cael eu gofyn i ddarparu data tebyg i’n casgliad data ni ac i Ddatganiadau Blynyddol AGC. Rydyn ni'n gweithio gyda AGC i archwilio sut y gallen ni leihau’r angen i ddarparwyr gasglu gwybodaeth debyg ddwywaith.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Rydyn ni angen i'ch sefydliad anfon data atom drwy GCCarlein.

Os ydych chi'n gasglwr data ar gyfer eich sefydliad, dylech chi weld ‘Casgliad Data’r Gweithlu’ yn ymddangos yn y ddewislen uchaf ar ôl mewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Unwaith y byddwch wedi clicio drwodd i’r ardal casgliad data, fe welwch chi ganllawiau ar sut i gwblhau eich datganiad.

Mae rhaid i awdurdodau lleol anfon eu data atom, ond mae data gan ddarparwyr a gomisiynir yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn o'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae darparwyr a gomisiynir yn cynnwys busnesau masnachol, a sefydliadau di-elw a thrydydd sector.

Mae cael y darlun mwyaf cyflawn o faint a siâp y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Trwy ddarparu eich data, rydych chi'n cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw’r casglwr data ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

Angen mwy o gymorth?

Cysylltwch â ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ystod unrhyw gam o’r broses.