Rydyn ni’n gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i uno ein dau gasgliad data blynyddol i mewn i un broses.
Ar hyn o bryd mae gofyn i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyflwyno dau set o ddata bob blwyddyn – un i AGC drwy'r Datganiad Blynyddol, ac un arall i ni trwy gasgliad data’r gweithlu.
Mae'r data sy'n cael ei gasglu yn cynnwys gwybodaeth am niferoedd y gweithlu, nodweddion ac oriau gwaith.
Mae’r ddau set o ddata yn cael eu defnyddio i gael gwell dealltwriaeth o'r rhai sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol, er mwyn helpu i reoli'r heriau sy'n wynebu'r sector.
O 2026 ymlaen, byddwn ni a AGC yn cyflwyno un broses casglu data rhwng y ddau sefydliad. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddarparwyr gofal cymdeithasol trwy leihau'r angen i gasglu gwybodaeth debyg ddwywaith.
Bydd hyn hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad i’r Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy symleiddio’r broses o gasglu data o ansawdd uchel.
Byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth gyda darparwyr dros y misoedd nesaf.