Jump to content
Ymestyn amodau a osodwyd ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol ar ôl adolygiad
Newyddion

Ymestyn amodau a osodwyd ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol ar ôl adolygiad

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r amodau a osodwyd ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol o Gaerdydd wedi cael eu hymestyn yn dilyn gwrandawiad adolygu addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gosodwyd yr amodau ar gofrestriad Sean Wharton ym mis Mawrth 2020 ar ôl i banel Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu.

Mewn gwrandawiad adolygu ym mis Mawrth 2021, penderfynodd y panel ymestyn yr amodau a osoddwyd ar gofrestriad Mr Wharton am 12 mis.

Yn dilyn gwrandawiad yr wythnos diwethaf i adolygu'r cynnydd yr oedd Mr Wharton wedi'i wneud o ran bodloni'r amodau a osodwyd ar ei gofrestriad, canfu'r panel fod addasrwydd Mr Wharton i ymarfer wedi’i amharu o hyd.

Daeth y panel i'r casgliad, er bod Mr Wharton wedi bodloni rhai o'r amodau ac wedi dangos mewnwelediad ac edifeirwch am ei weithredoedd, nid oedd wedi bodloni'r holl amodau a osodwyd ar ei gofrestriad.

Felly, penderfynodd y panel ddiwygio'r amodau ac ymestyn yr amser sydd gan Mr Wharton i'w bodloni am bedwar mis arall.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Mr Wharton: "Dywedoch wrthym heddiw nad ydych, yn anffodus, wedi gallu dychwelyd i waith cymdeithasol ers y gwrandawiad adolygu addasrwydd i ymarfer blaenorol. Mae'n parhau’n wir felly nad ydych wedi gallu bodloni'r amodau.

"Rydych yn amlwg yn edifeiriol ynglŷn â'ch arfer blaenorol ac yn parhau i ddangos dealltwriaeth o'ch camymddygiad yn y gorffennol. Rydych yn frwdfrydig dros ofal cymdeithasol ac wedi ymrwymo i ddychwelyd i'r proffesiwn.

"Rydym yn gwerthfawrogi bod eich ymddygiad wedi digwydd cryn amser yn ôl ac rydych wedi myfyrio ar eich ymddygiad ers hynny. Rydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod wedi cymryd eich profiad a'i ddefnyddio er eich mantais i lywio’ch ymddygiad yn y dyfodol."

Ychwanegodd y panel: "Rydym wedi penderfynu mai Gorchymyn Cofrestru Amodol yw’r math priodol o waredu o hyd. Disgwylir i'r gorchymyn presennol ddod i ben ym mis Ebrill 2022. Rydym o'r farn mai'r camau priodol i'w cymryd yw ymestyn y gorchymyn hwnnw bedwar mis, yn amodol ar adolygiad o'r gorchymyn ddeufis cyn iddo ddod i ben."

Roedd Mr Wharton yn bresennol yn y gwrandawiad adolygu undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.