Ychydig wythnosau’n ôl, roedd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2024 i 2025, gan ddatgelu bod y rhan fwyaf o’r gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru yn ofal da.
Mae’r Arolygiaeth yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn ôl yr adroddiad, roedd 84 y cant o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, 78 y cant o wasanaethau plant ac 80 y cant o wasanaethau gofal plant a chwarae wedi cael sgôr ‘dda’ neu ‘ragorol’.
Mae’r canfyddiadau’n gadarnhaol iawn, ond nid oedd hyn yn fy synnu oherwydd rydyn ni’n gwybod eisoes drwy ein gwaith fod y rhan fwyaf o’r gofal sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru yn ofal da.
Mae ymrwymiad cryf i wella gwasanaethau, ac yn ddiweddar buom ni’n gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gryfhau gwasanaethau rhagor drwy ganllaw diwylliannau cadarnhaol.
Yn ôl ein harolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes gofal yn ymuno â’r proffesiwn oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr gofal yng Nghymru yn gwneud eu gwaith yn dda, ac maen nhw’n ymrwymo i’r hyn sy’n bwysig i unigolion.
Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gwrdd â’r safonau sydd yn y Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.
Os nad yw gweithwyr yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir, gallwn ni gymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd a chynnal uniondeb y proffesiwn. Gall unrhyw un godi pryderon am weithiwr cofrestredig drwy anfon e-bost atom ni yn aiy@gofalcymdeithasol.cymru
Yn yr achosion prin hynny lle codir pryder am weithiwr, bydd ein tîm addasrwydd i ymarfer yn cynnal ymchwiliad a, lle bo angen, byddan nhw’n rhoi rhybudd neu’n gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
Bydd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu symud ymlaen i wrandawiad, lle bydd panel annibynnol yn penderfynu a ydyn nhw’n addas i barhau i weithio ym maes gofal.
Y llynedd, cafodd 40 o bobl eu tynnu oddi ar y Gofrestr. Dim ond 0.06 y cant o’r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni oedd hyn.
Rwy eisiau egluro mai dim ond ychydig o weithwyr gofal fydd yn cael eu hatgyfeirio i’r tîm addasrwydd i ymarfer.
Mae’r mwyafrif helaeth o weithwyr gofal yn dangos ymrwymiad cryf i gyrraedd y safonau a ddisgwylir ac i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r plant, yr oedolion a’r teuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi.
Hoffwn i ddiolch i’r holl weithwyr gofal yng Nghymru sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y plant, yr oedolion a’r teuluoedd yn ein cymunedau yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Mae eich ymrwymiad a’ch ymroddiad I'ch proffesiwn yn cael ei werthfawrogi.
Rydyn ni wrthi’n gofyn am enwebiadau i’n Gwobrau, sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Gallwch chi enwebu gweithiwr yma.