Jump to content
Gwobrau 2026

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y Gwobrau 2026

Beth yw'r Gwobrau?

Mae'r Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr gofal unigol o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Mae ein panel beirniaid wedi dewis 11 prosiect, tîm a sefydliad, ac wyth gweithiwr, yn rownd derfynol Gwobrau 2026, ar draws chwe chategori.

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Gwasanaeth Cymorth Plant a Theuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwasanaeth Cymorth Plant a Theuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio i gadw plant yn ddiogel, cryfhau teuluoedd ac atal plant rhag mynd i ofal yn ddiangen.

Mae'r gwasanaeth yn system integredig sy'n cynnwys timau gwahanol ond cysylltiedig. Mae’r timau’n ymateb i anghenion a risgiau gwahanol. Mae'r dull cydgysylltiedig, amlasiantaeth hwn yn golygu bod cefnogaeth yn barhaus ac yn hawdd ei gyrraedd. Nid oes angen atgyfeiriadau dro ar ôl tro ar deuluoedd i gael mynediad at gymorth gan wahanol dimau, ac nid oes angen ailadrodd eu stori wrth iddynt symud trwy'r system. Y llynedd, cafodd 92 y cant o'r teuluoedd a gefnogwyd gan y gwasanaeth eu hatal rhag mynd i ofal. Mae'r gwasanaeth wedi creu system ataliol sy'n adeiladu gwytnwch ac yn helpu teuluoedd i ffynnu.

Clwb Dydd Sadwrn KIDCARE4U

Mae Clwb Dydd Sadwrn KIDCARE4U yn fenter sy’n cael ei harwain gan y gymuned ac yn cefnogi dros 185 o blant a phobl ifanc yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol ac economaidd difreintiedig Casnewydd. Gall plant gael help gyda gwaith cartref, cwblhau Gwobr Dug Caeredin, cael mynediad at gwnsela a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel nofio a phobi.

Mae rhieni hefyd yn elwa o'r gwasanaeth a gallan nhw gael mynediad at gymorth i ddysgu sgiliau Saesneg a TG. Mae'r staff, sy'n adlewyrchu'r gymuned amrywiol, yn adeiladu perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol.Trwy adeiladu partneriaethau cryf gyda busnesau lleol, mae'r clwb wedi creu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a chyflogaeth i'r bobl ifanc sy'n mynychu, gan wneud newid ystyrlon a pharhaol yn y gymuned.

Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Sir Benfro

Mae Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl Sir Benfro yn brosiect sy'n cefnogi teuluoedd ar gyrion gofal. Mae'n cael ei ddarparu gan The Fostering Network mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro.

Mae'r prosiect yn defnyddio gofalwyr maeth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sy'n darparu cymorth dwys, seiliedig ar berthnasau i deuluoedd. Yn hytrach na mynd â phlant i ofal maeth hirdymor, mae'r gofalwyr maeth hyn yn darparu cymorth ymarferol i'r teulu cyfan, gan weithio gyda rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn ddiogel.

Mae'r gefnogaeth yn cynnwys seibiannau byr i blant, mentora i rieni ac ymyrraeth argyfwng. Mae'r gefnogaeth yn cynyddu pan fydd teuluoedd o dan bwysau ac yn lleihau wrth i deuluoedd adeiladu hyder a gwytnwch. Ers i'r rhaglen ddechrau ym mis Chwefror 2024, mae wedi cefnogi 47 o blant. O'r rhain, mae 46 o blant wedi aros yn ddiogel gyda'u teuluoedd.

Defnydd effeithiol o ddigidol a thechnoleg

Ap Insight, Innovate Trust yng Nghaerdydd

Mae ap Insight yn blatfform cymunedol dwyieithog, rhad ac am ddim sydd wedi’i lunio ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a’i gynhyrchu ar y cyd â nhw.

Gan fodloni’r angen am gynhwysiant digidol, mae’r ap yn cynnig cyfle i oedolion ag anableddau dysgu gysylltu, rhannu profiadau a meithrin annibyniaeth mewn amgylchedd digidol mwy diogel. Mae’n lle mwy caredig na chyfryngau cymdeithasol prif ffrwd ac yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru, na fyddent byth wedi cyfarfod fel arall, i gysylltu â’i gilydd. Trwy’r ap, gall aelodau gofrestru ar gyfer gweithgareddau wythnosol ar-lein a wyneb-yn-wyneb i ymarfer sgiliau a magu hyder. Mae gweithgareddau’n cynnwys gweithdai creadigol, digwyddiadau chwaraeon a grwpiau trafod.

Mae nodwedd ddiweddaraf yr ap, sef yr Hyb Gwirfoddoli, yn paru aelodau â chyfleoedd gwirfoddoli hygyrch. Trwy annog aelodau i fagu hyder ar-lein, maen nhw’n magu hyder mewn rhannau eraill o’u bywydau.

Magic Notes, Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Offeryn sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yw Magic Notes, sy’n recordio, trawsgrifio a chrynhoi sgyrsiau. Mae’n cael ei ddefnyddio ar draws Cyngor Castell-nedd Port Talbot i helpu staff i greu cofnodion cywir, o ansawdd uchel o gyfarfodydd, goruchwyliaethau ac asesiadau. Nid yn unig y mae’n helpu staff i leihau eu llwyth gwaith gweinyddol, ond mae hefyd yn golygu y gall ymarferwyr roi sylw llawn i bobl sy’n defnyddio cymorth a gofal yn ystod cyfarfodydd, gan nad oes rhaid iddynt boeni am wneud nodiadau manwl.

Mae crynodebau Magic Notes yn cael eu hadolygu cyn eu lanlwytho i system rheoli achosion y cyngor ac mae’r dyfyniadau uniongyrchol y mae’n eu casglu gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yn cefnogi gofal yn seiliedig ar gryfderau, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ymarferwyr wedi crybwyll gostyngiad o 58% yn yr amser sy’n cael ei dreulio ar waith gweinyddol, sydd wedi helpu i wella eu lles.

“Gweld i Goelio”, Cyngor Sir Ynys Môn

Mae prosiect “Gweld i Goelio” Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio pensetiau realiti rhithwir (VR) i helpu pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i ddeall sut mae trawma a phrofiadau yn ystod plentyndod cynnar yn effeithio ar ymddygiad. Mae’r prosiect yn ymateb i’r galw cynyddol ar wasanaethau lleol gan unigolion ag anghenion cymhleth y mae angen cymorth arbenigol arnynt.

Gan ddefnyddio data lleol, mae’r cynnwys VR, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ymdrin â phynciau gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mabwysiadu, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, troseddau cyllyll, ymwybyddiaeth o awtistiaeth a thrais domestig.

Ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar Ynys Môn, caiff ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol i ymateb yn therapiwtig i ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrawma. Mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid, caiff ei ddefnyddio i annog twf personol a myfyrio ymhlith pobl ifanc.

Ffyrdd arloesol o recriwtio a chadw’r gweithlu

Right at Home Caerdydd a Chasnewydd

Mae Right at Home Caerdydd a Chasnewydd yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw gartref. Er mwyn cefnogi recriwtio, mae’r sefydliad wedi datblygu partneriaethau cryf â cholegau a phrifysgolion lleol, gan gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector.

Mae cymorth ymroddedig, personoledig gan Arweinydd Iechyd Meddwl a Chydlynydd Recriwtio a Chadw’r sefydliad wedi helpu i greu cyfradd cadw staff o 85 y cant. Caiff staff eu hannog i rannu pryderon a syniadau a rhoddir llawer o gyfleoedd iddyn nhw gwblhau hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol, gyda gweithdai ychwanegol ar gyfer staff sy’n cefnogi pobl ag anghenion cymhleth. Mae seremoni wobrwyo fewnol yn cydnabod gwaith caled staff ac mae boreau coffi a gweithgareddau lles yn y swyddfa yn cadw ymgysylltiad staff yn uchel.

Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Mae’r prosiect hwn yn cynnig darpariaeth chwarae a gwasanaethau seibiant cynhwysol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yn Nhorfaen.

Er mwyn datblygu gweithlu cryf a chynaliadwy, mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn recriwtio gwirfoddolwyr o’r gymuned leol, gan estyn allan drwy ysgolion, colegau a chyfryngau cymdeithasol. Er mwyn sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch i bawb, mae’n cynnig cymorth ymarferol o ran llenwi ceisiadau, gwiriadau DBS a geirdaon.

Mae llawer o wirfoddolwyr wedi dychwelyd ar ôl defnyddio’r gwasanaeth pan roeddent yn blant, wedi’u hysbrydoli gan eu profiadau cadarnhaol. Gall gwirfoddolwyr ddechrau mewn rolau tymhorol, â chymorth o 14 oed a gweithio eu ffordd i swyddi cyflogedig a phrentisiaethau erbyn iddynt droi’n 18 oed. Mae 30% o wirfoddolwyr yn aros y tu hwnt i’r swyddi tymhorol hyn. Gyda llawer o gefnogaeth i feithrin sgiliau a chwblhau cymwysterau, mae’r prosiect yn cynnig llwybr gyrfa clir i’w wirfoddolwyr, sy’n cynorthwyo i gadw staff.

Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig

Melvin Jones, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheoleiddiedig i Blant yng Nghyngor Sir y Fflint

Cafodd Gareth, neu Mel, fel mae’n cael ei adnabod, ei enwebu gan Abigail Pattullo, Rheolwr Cartref Preswyl Plant Cofrestredig yng Nghyngor Sir y Fflint.

Mae Mel wedi trawsnewid dull Cyngor Sir y Fflint tuag at gartrefi preswyl i blant drwy ddatblygu darpariaeth breswyl fewnol ar gyfer y plant sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Mae hyn yn golygu bod dim angen i blant sy'n derbyn gofal symud i ffwrdd ac y gallan nhw aros yn eu cymuned.

Mae gweledigaeth strategol Mel wedi'i wreiddio mewn arweinyddiaeth ymarferol a thosturiol. Wrth adeiladu amgylchedd cefnogol i blant a phobl ifanc, dechreuodd Mel gyda’i dîm.

Mae Abigail yn disgrifio Mel fel “arweinydd sy’n gwrando, yn cynnwys pobl ac yn grymuso – rhywun sydd wastad yn dod â'r gorau allan mewn pobl.”

Dywedodd aelod arall o staff: “Mae gan Melvin allu eithriadol i weld y potensial mewn pobl cyn iddyn nhw ei weld yn eu hunain.”

Mae'r plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn profi'r un dull sy'n canolbwyntio ar y person: “Mae Mel yn gadarn. Mae ganddo bersonoliaeth garedig; mae wedi gwneud amser i fi, gan fynd â fi allan i'r siop ac i fynd am gacen ac mae'n wrandäwr da iawn."

O dan arweiniad Mel, mae holl gartrefi plant Cyngor Sir y Fflint wedi cyflawni sgoriau gwych gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Bellach, mae Mel a'i dîm yn rhannu arferion da a'u ffyrdd newydd o weithio gydag awdurdodau lleol eraill.

Yn ôl ei gydweithwyr, “Mae Mel yn ymgorffori’r gorau o arweinyddiaeth gofal cymdeithasol: yn meddwl ymlaen llaw, yn canolbwyntio ar bobl ac yn ymrwymedig i wneud yr hyn sy’n iawn i blant a theuluoedd.”

Mae Mel eisioes wedi dechrau rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Wasanaethau Plant yn Action for Children.

Jenna Bennett, Arweinydd Ymarfer yng Nghyngor Abertawe

Cafodd Jenna ei henwebu gan Michaela Reynolds, Swyddog Cymorth i Blant a Theuluoedd yng Nghyngor Abertawe.

Fel Arweinydd Ymarfer ar gyfer ei thîm o weithwyr cymdeithasol, mae Jenna yn cymryd bob cyfle i greu diwylliant grymusol a chefnogol i’w chydweithwyr.

Yn ôl Michaela, “Nid arwain yn unig y mae Jenna; mae hi'n dyrchafu pobl eraill, gan greu tonnau o effaith sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w rôl uniongyrchol.”

Pan fydd problemau’n codi, Jenna yw’r cyntaf bob tro i gynnig help. Ond mae hi hefyd yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed a'i werthfawrogi wrth ddod o hyd i atebion.

Mae hi'n arwain drwy rymuso ei chydweithwyr, gan feithrin “ymddiriedaeth, cydweithio a thwf parhaus”. I Jenna, mae arweinyddiaeth yn golygu manteisio ar bob cyfle i dyfu ei thîm, meithrin eu sgiliau ac arwain drwy esiampl.

Dywedodd Michaela: “Mae gan Jenna dalent unigryw i adnabod cryfderau pobl eraill a'u meithrin, gan helpu aelodau'r tîm i dyfu mewn hyder a gallu.”

Mae’n rhoi adborth meddylgar ac adeiladol, a chreu cyfleoedd bob amser i fyfyrio a dysgu. Mae aelod arall o'r tîm yn disgrifio Jenna fel “wastad yn ddigynnwrf, wastad yn deg, byth yn feirniadol... wastad gyda gofal a phwrpas”.

Mae annog a datblygu ei thîm wrth wraidd gwaith Jenna: “Mae’n fy herio, yn fy annog i feddwl yn wahanol, ac wastad yn fy ngwthio i fod y gorau y gallaf fod.”

Mae Jenna hefyd yn gwybod pwysigrwydd dathlu pob llwyddiant, dim ots pa mor fach. Mae hi'n gweithio i greu amgylchedd positif sy'n ysgogi'r tîm i wneud eu gorau.

“Mae angerdd Jenna dros wella bywydau yn heintus” dywedodd Michaela, “mae hi’n ein hatgoffa ni bob dydd pam mae ein gwaith yn bwysig.”

Letitia Deeble, Arweinydd Iechyd Meddwl yn Mirus, Port Talbot

Cafodd Letitia ei henwebu gan Melissa Murray, Arweinydd Tîm Iechyd Meddwl a Sara Davies, Cyfarwyddwr Cymorth yn Mirus.

Mae ffordd Letitia o arwain wedi'i seilio ar greu canlyniadau gwych i'r bobl mae’i thîm yn eu cefnogi. Mae hi wedi creu diwylliant sy'n canolbwyntio ar empathi, cydweithio a dysgu parhaus.

Mae Letitia yn cael ei disgrifio fel “rhywun sy'n dod â'r gorau allan mewn eraill – rhywun sy'n gweld potensial lle gallai eraill weld cyfyngiadau.”

Mae hi'n gweld pob her fel cyfle i ddysgu. Drwy annog atebolrwydd mewn ffordd empathig, mae Letitia yn helpu ei thîm i ddysgu ac i dyfu. Fel y dywedodd un cydweithiwr, “Rydw i wedi dysgu mwy o dan arweinyddiaeth Letitia nag yr oeddwn i erioed wedi'i ddisgwyl. Mae hi'n credu ynddoch chi, hyd yn oed pan nad ydych chi'n credu ynddoch chi'ch hun.”

Dywedodd cydweithiwr arall: “Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cymell, ac mae hynny'n amlwg yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am eraill.”

Mae Letitia yn blaenoriaethu gwrando ar y bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, yn ogystal â staff. Mae hi'n frwd o blaid cyd-gynhyrchu. Mae hyn yn golygu gwrando ar beth mae'r person sy'n defnyddio cymorth yn ei ddweud sydd ei angen arnyn nhw a rhoi rôl iddyn nhw wrth siapio eu cynllun gofal a chymorth.

Dywedodd un person sy'n derbyn cymorth: “Mae Letitia wastad yn gwrando. Mae hi'n sicrhau fy mod i'n rhan o bob penderfyniad ynglŷn â fy ngofal. Mae'n teimlo fel fy mod i mewn rheolaeth o fy mywyd unwaith eto.”

Mae Letitia hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid ac aelodau’r gymuned leol, gan sicrhau bod lleisiau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn cael eu clywed mewn trafodaethau ac wrth wneud penderfyniadau ehangach.

Dywedodd Melissa: “Mae ei harweinyddiaeth dosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person, wedi trawsnewid nid yn unig y ffordd rydyn ni’n gweithio, ond y ffordd y mae pobl yn profi gofal.”

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn

Catherine Hevizi, Rheolwr Byw â Chymorth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Enwebwyd Catherine gan Ceri Williams, Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd Catherine yn credu am amser hir nad oedd dysgu ar ei chyfer hi. Roedd hi'n cael trafferth yn yr ysgol a chafodd ddiagnosis o ddyslecsia fel oedolyn. Ond ar ôl gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 30 mlynedd, daeth cyfle, a chymerodd Catherine y cyfle hwnnw.

Dechreuodd astudio ar gyfer FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chwblhaodd ei sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd.

Dysgodd Catherine am y ddamcaniaeth, y ddeddfwriaeth a'r egwyddorion arfer gorau sy'n creu gofal gwych sy'n canolbwyntio ar y person. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar ei thîm, yn ogystal â'r bobl y mae'n eu cefnogi.

Erbyn hyn, mae Catherine yn mentora cydweithwyr newydd, yn meithrin diwylliant myfyriol, cynhwysol ac yn rhannu gwybodaeth newydd.

Mae Catherine hefyd yn hyrwyddo arfer gorau yn y sector. Mae hi'n gweithio gyda'r tîm therapi iaith a lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i hyrwyddo cyfathrebu urddasol a chynhwysol mewn amgylchedd byw â chymorth.

Dywedodd Ceri: “Yr hyn sy'n gwneud Catherine yn wahanol yw ei gwyleidd-dra a'r ffordd y mae ei dysgu wedi ennyn ffydd mewn eraill.” Mae Catherine eisiau dangos i’r bobl o’i chwmpas nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Mae Catherine yn helpu'r bobl y mae'n eu cefnogi i ddysgu mynegi eu dewisiadau a'u hanghenion yn hyderus drwy ddefnyddio dulliau a thechnolegau newydd: “Mae Catherine yn defnyddio ei gwybodaeth i gydbwyso diogelwch gydag ymreolaeth, gan helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu bywydau eu hunain.”

Mae rheolwr Catherine yn ei disgrifio fel “cryfder tawel y tîm”. Mae’n dysgu nid yn unig i fagu gwybodaeth ond i rymuso eraill a gwella bywydau.

Georgia Meyrick, Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Cymer Ofal yng Nghaerdydd

Enwebwyd Georgia gan Olivia Browning, Swyddog Hyfforddiant y Gymraeg yng Nghlybiau Plant Cymru.

Mae Georgia wedi bod yn astudio ar gyfer ei diploma Lefel 3 ym maes gwaith chwarae tra’n cydbwyso ei gwaith yng Nghlwb Cymer Ofal ac astudio’n llawn amser yn y brifysgol.

Mae Georgia’n cyfuno rhagoriaeth academaidd, sgiliau ymarferol ac angerdd go iawn. Mae hi'n cydbwyso ei hymrwymiadau heb gyfaddawdu ar ansawdd ei gwaith.

Dywedodd Olivia: “Mae Georgia yn creu mannau chwarae cynhwysol a meithringar lle mae pob plentyn yn teimlo'n werthfawr ac yn rhydd i fynegi ei hun.” Mae’r hyn y mae Georgia yn ei ddysgu yn llywio pob agwedd ar ei gwaith. Mae ei gwaith wastad yn cael ei arwain gan blant, yn ymatebol ac wedi’i adeiladu ar egwyddorion gwaith chwarae.

Dywedodd cydweithiwr arall: “Mae gan Georgia allu anhygoel i weld y byd drwy lygaid plentyn – tydi hi byth yn rhuthro, mae hi'n gwrando, ac mae hi wastad yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.”

Mae Georgia hefyd wedi siapio’r ffordd y mae ei chydweithwyr yn gweithio. Mae'n defnyddio ymchwil o'i hastudiaethau i lywio newid ymarferol go iawn, gan gynnwys gwella mannau chwarae, dulliau rheoli ymddygiad ac arferion cynhwysol.

Dywedodd Olivia: “Mae ei gallu i drosi damcaniaeth yn weithredu ystyrlon wedi cyfoethogi profiadau'r plant y mae'n eu cefnogi ac wedi gwella amgylchedd ehangach ei lleoliad.”

Mae brwdfrydedd Georgia dros ddysgu a datblygu ei hymarfer wedi ysbrydoli ei chydweithwyr. Dywedodd aelod arall o'r tîm: “Mae Georgia y math o weithiwr chwarae y mae pob plentyn yn ei haeddu. Mae hi'n dod â gwybodaeth, caredigrwydd ac angerdd ynghyd ym mhopeth mae hi'n ei wneud."

I Olivia, “nid yw Georgia yn cwblhau ei hastudiaethau’n unig; mae hi'n byw ac yn anadlu'r hyn y mae'n ei ddysgu, gan drawsnewid damcaniaeth yn weithredu tosturiol ac effeithiol.

Rebecca Howell Morgan, Gweithiwr Chwarae Cynhwysol yn Bridging the Gap Youth, Merthyr Tudful

Cafodd Rebecca ei henwebu gan Bethan Jones, Swyddog Hyfforddiant Clybiau Plant Cymru.

Mae Rebecca yn astudio tuag at ei diploma Lefel 3 mewn gwaith chwarae tra’n gweithio yn Bridging the Gap Youth, sefydliad sy'n cynnig clwb ar ôl ysgol, clwb gwyliau a chlwb dros 19 oed wedi'i deilwra ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fel tiwtor Rebecca, dywedodd Bethan: “Mae ei ffordd dawel, garedig a phroffesiynol yn meithrin amgylchedd lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hannog i fynegi eu hunain.

Wastad yn fyfyriol ac yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio’r hyn y mae wedi'i ddysgu, mae pwyslais Rebecca ar wella canlyniadau ar gyfer y plant y mae hi'n gweithio gyda nhw.

Mae Rebecca yn addasu chwarae i ddiwallu anghenion pob plentyn, yn eirioli dros glywed eu lleisiau ac yn modelu arfer gorau.

Dywedodd Bethan: “Yr hyn sy'n sefyll allan am Rebecca yw ei gallu i gyfuno tosturi â dysgu parhaus.”

Mae Rebecca yn dod o hyd i ffyrdd newydd drwy’r amser o gefnogi datblygiad plant. Wedi'i hysbrydoli gan ddysgu am gynhwysiant a chyfranogiad, canolbwyntiodd Rebecca yn ddiweddar ar gysylltu’r plant â’u cymuned ehangach.

Trefnodd i waith celf y plant gael ei arddangos yn y llyfrgell leol, gan ddangos gwerth eu gwaith iddyn nhw.

I gefnogi ei dysgu, mae Rebecca wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol. Mae hi wedi cwblhau rhan 1 o’r Cwrs Camau Cymraeg Lefel Mynediad, yn ogystal â mynychu nifer o sesiynau Clwb Hwb ar bynciau, fel chwarae cynhwysol.

Mae Rebecca yn cefnogi ei chydweithwyr yn frwd i wella eu harferion, yn ogystal â’i harferion ei hun. Mae hi'n rhannu gwybodaeth, yn mentora cydweithwyr newydd ac wedi cyflwyno strategaethau newydd i helpu i wneud gwelliannau yn y gwaith.

Cefnogi pobl i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw

Gwasanaeth Achieving Change Together Plus (ACT+) Barnardo’s, mewn partneriaeth â Chabanau Tŷ Augusta Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Fflatiau pwrpasol, wedi’u cyfarparu’n llawn yw Cabanau Tŷ Augusta, sydd â rampiau mynediad a thechnoleg glyfar sy’n cynnig lle diogel i bobl ifanc niwroamrywiol ac anabl ddysgu sgiliau byw’n annibynnol. Mae’r cabanau’n cynnig cymorth sy’n seiliedig ar gryfderau yn ystod cyfnodau pontio, fel gadael gofal maeth ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 24 o bobl ifanc wedi defnyddio’r gwasanaeth.

Mewn sesiynau wythnosol gyda gwasanaeth ACT+ Barnardo’s, mae pobl ifanc sy’n byw yn y cabanau yn dysgu sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ymarfer bod yn rhan o gymuned ac yn datblygu sgiliau byw’n annibynnol fel coginio, golchi dillad a rheoli arian. Mae teuluoedd hefyd yn dysgu sut i gefnogi annibyniaeth eu plentyn yn well.

Gyda chynlluniau cymorth personoledig sy’n cael eu llunio ar y cyd, mae’r bartneriaeth yn arfogi pobl ifanc â’r offer i ddysgu, methu a llwyddo wrth ddatblygu annibyniaeth yn ddiogel cyn mynd allan i’r gymuned.

Cydweithrediad rhwng Mencap Môn, Llwybrau Llesiant, Cyswllt Conwy a Stand North Wales

Mae’r pedwar sefydliad hyn yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig cymorth dwyieithog a gweithgareddau yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu ledled Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych.

Er eu bod wedi cystadlu â’i gilydd am gyllid ar un adeg, mae’r sefydliadau bellach yn cydweithio â’i gilydd ar draws ffiniau awdurdodau lleol, gan fanteisio ar gryfderau ei gilydd a rhannu eu hadnoddau fel y gall mwy o bobl fanteisio ar gymorth. Mae pobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn chwarae rhan weithredol yn y bartneriaeth hon. Maen nhw’n awgrymu, yn cyd-gynhyrchu ac yn arwain gweithgareddau, sy’n cynnwys chwaraeon, digwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau, ac mae’n cynnig y cyfle iddynt gyfarfod â phobl newydd a chael profiadau na fydden nhw’ngallu eu cael fel arall.

Tîm Dyer, Cartrefi Cymru

Enwebwyd y tîm bach hwn o weithwyr cymorth gan yr unigolyn maen nhw’n ei chefnogi, sef Claire. Fel rhywun a labelwyd yn rhy gymhleth i’w chefnogi ar un adeg, dywed Claire, diolch i’w thîm o Gartrefi Cymru: “Dwi wedi dysgu bod unrhyw beth yn bosibl gyda’r gefnogaeth gywir.”

Mae’r tîm hwn, sy’n canolbwyntio’n fawr ar yr unigolyn, yn ymgorffori gwerthoedd cyd-gynhyrchu, gan sicrhau bod urddas ac ymreolaeth Claire wrth wraidd popeth maen nhw’n wneud. Maen nhw’n defnyddio dull addysgol a chefnogol, trwy roi cyfle i Claire ddysgu a’i hannog i addasu a thyfu mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau, yn hytrach na rheoli problemau a chymryd yr awenau pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Gyda chefnogaeth Tîm Dyer, mae Claire wedi dysgu sut i ddefnyddio ei llais, cynnal perthnasoedd cadarnhaol ac mae wedi magu’r dewrder i roi cynnig ar brofiadau newydd.

Gwobr Gofalwn Cymru

Gareth Lewis, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Enwebwyd Gareth gan Helen Bowles, Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Ionawr 2024, dechreuodd Gareth swydd dros-dro fel gweithiwr cymdeithasol yn y Tîm Allgymorth Tai ar gyfer digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi cefnogi 141 o bobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

O ganlyniad i waith Gareth yn tynnu sylw at yr angen am gymorth yn yr ardal, mae’r cyngor wedi creu tair swydd barhaol i weithwyr cymdeithasol yn y tîm.

Yn ôl Helen, mae Gareth wedi “trawsnewid bywydau llwyth o bobl” gyda’i ffordd anfeirniadol, tosturiol sy’n seiliedig ar gryfderau.

Mae Gareth wastad yn gweithredu'n gyflym mewn argyfwng ac yn bwyllog i gael cymorth lle bo angen.

Dywedodd rhiant i berson sy'n derbyn cymorth: “mae Gareth yn hynod ddibynadwy ac yn gefnogol iawn. Er fy mod yn gwybod ei fod yn brysur iawn, mae wedi bod o fudd mawr wrth helpu fy mab.”

Dywedodd un cydweithiwr: “Mae rôl Gareth wedi profi i fod yn drawsnewidiol, nid yn unig i unigolion sy'n wynebu digartrefedd ond hefyd i'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrechu i'w cefnogi bob dydd.”

Mae Gareth yn gwerthfawrogi barn yr arbenigwyr o’i gwmpas. Mae’n “gydweithredwr go iawn”, gan wella gwasanaethau ar draws yr awdurdod lleol drwy gryfhau gwaith amlasiantaeth.

Drwy wella cyfathrebu rhwng gwasanaethau a helpu pobl i gael mynediad at gymorth yn gynnar, mae Gareth wedi lleihau'r pwysau ar y system. Nawr, mae angen llai o leoliadau brys ac ymyriadau argyfwng yn y gymuned.

Dywedodd Helen: “Mae’n llawer mwy na gweithiwr cymdeithasol, mae’n sbardun ar gyfer newid positif, yn bresenoldeb cysurlon yn ystod argyfyngau, ac yn eiriolwr cadarn dros urddas a pharch.”

Maxine Carr, Gweithiwr Gofal a Chymorth, Cyngor Sir Ddinbych

Enwebwyd Maxine gan Rob Gilmour, Dirprwy Reolwr Tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych.

Mae Maxine wedi gweithio gyda Chynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ers 12 mlynedd, gan ddarparu gofal a chymorth i'r bobl hŷn sy'n byw yno.

Er mwyn helpu preswylwyr y lleoliad a'u teuluoedd i ddod i adnabod ei gilydd, mae Maxine yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ar eu cyfer.

Mae digwyddiadau yn amrywio o foreau coffi Macmillan a nosweithiau tecawê thematig i bartïon Calan Gaeaf a siwmperi Nadolig.

Mae Maxine yn casglu rhoddion gan y gymuned leol ac yn cydweithio â busnesau lleol i drefnu arlwyo.

Dywedodd Rob: “Mae'r digwyddiadau hyn wedi dod yn uchafbwynt yn y calendr, gan greu ymdeimlad o gyffro ac ysbryd cymunedol sy'n wirioneddol anhygoel.”
Heb ddigwyddiadau Maxine, prin fyddai cyfleoedd nifer fawr o'r preswylwyr i ryngweithio’n gymdeithasol.

Dywedodd un preswylydd: “Mae'r digwyddiadau wedi fy nhynnu allan o fy nghragen ac wedi rhoi mwy o hyder i fi wrth gymdeithasu gydag eraill.”

Ac nid y trigolion yn unig sy'n teimlo effaith gwaith Maxine. Mae Maxine wedi creu ymdeimlad o lesiant a chysylltiad ar draws y gymuned gyfan, gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a staff i gyd yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau Maxine.

Cafodd y digwyddiadau eu crybwyll mewn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a sgoriodd y lleoliad fel un ardderchog: “Dywedodd pobl wrthyn eu bod nhw wrth eu bodd gyda’r noson bwyd Tsieineaidd diweddar ac yn edrych ymlaen at yr un nesaf.”

Mae Maxine hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol. Yn ddiweddar, mynychodd hyfforddiant ‘Gwneud synnwyr: gofal a chreadigrwydd’ ac mae wedi bod yn gweithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth i ddysgu mwy am gefnogi preswylwyr gyda dementia.

Dywedodd Rob: “Nid trefnu digwyddiadau yn unig y mae Maxine, mae’n adeiladu pontydd, yn meithrin perthnasoedd, ac yn gwella bywydau.”

Y seremoni wobrwyo

Bydd seremoni wobrwyo'r Gwobrau 2026 yn cael ei chynnal yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd ar 2 Gorffennaf 2026.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni.