Jump to content
Gweithiwr gofal cartref wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio
Newyddion

Gweithiwr gofal cartref wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Abertawe wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei euogfarn droseddol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Jake Evans Hodgson wedi cael ei ganfod yn euog o dreisio yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Hydref 2021 a'i ddedfrydu wedyn i chwe blynedd yn y carchar.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, canfu'r panel fod addasrwydd Mr Evans Hodgson i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei euogfarn droseddol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae hon yn amlwg yn drosedd ddifrifol. Er ein bod yn derbyn ei fod yn ddigwyddiad untro, nid ydym yn hyderus ei fod yn annhebygol iawn o gael ei ailadrodd.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Rydym hefyd yn ystyried y byddai hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol a chynnal safonau proffesiynol yn cael ei danseilio pe na fyddai canfyddiad o amhariad presennol yn cael ei wneud o dan yr amgylchiadau.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Evans Hodgson oddi ar y Gofrestr gan ddweud: “Dyma’r unig ganlyniad sy'n bodloni'r angen i amddiffyn aelodau o'r cyhoedd a'r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd o ystyried natur ddifrifol y drosedd.

“Mae ymddygiad Mr Evans Hodgson wedi cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr. Rydym o'r farn ei fod wedi dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb neu ganlyniadau ei ymddygiad.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym yn canfod bod ymddygiad Mr Evans Hodgson yn gwbl anghydnaws â chofrestriad fel gweithiwr gofal cymdeithasol.”

Nid oedd Mr Evans Hodgson yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.