Jump to content
Cydweithio ar gyfer Cymru iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Newyddion

Cydweithio ar gyfer Cymru iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ochr yn ochr ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi'r blaenoriaethau ar gyfer ail gam 'Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol'.

Lansiwyd 'Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' ym mis Hydref 2020 yn dilyn gwaith ymgysylltu ac ymgynghori sylweddol. Mae'r strategaeth deng mlynedd yn nodi'r uchelgais o gael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig a gwerthfawr â chapasiti, cymhwysedd a hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Yn ddiweddar cynhaliodd AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, sy'n arwain ar weithredu'r strategaeth, gyfarfod Bwrdd ar y cyd i adolygu cynnydd cam un a chadarnhau'r blaenoriaethau ar gyfer cam dau, sy'n rhedeg o 2024 i 2027.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae iechyd a gofal cymdeithasol wedi parhau i wynebu heriau sylweddol o fewn cyd-destun cyfyngiadau ariannol.

Mae'r cynnydd a wnaed yng ngham un yn adlewyrchu gwaith caled, ymrwymiad ac ysbryd cydweithredol pawb yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr, undebau, y gweithlu, rhanddeiliaid a chyrff cenedlaethol.

Cafodd y cynnydd hwn ei wneud ar yr un pryd â gwaith ymgysylltu eang, casglu tystiolaeth ac ymgynghori ledled Cymru i lunio'r blaenoriaethau ar gyfer cam dau y strategaeth gweithlu.

Amlinellir y blaenoriaethau hyn yn y cynllun ar y cyd "Gweithio gyda'n gilydd" sy'n cyd-fynd â Chynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027 a Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu: Mynd i'r Afael â Heriau'r Gweithlu GIG Cymru, Llywodraeth Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac AaGIC hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni'r Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar y cyd.

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: "Yn ystod cam cyntaf y strategaeth gweithlu rydyn ni wedi gweld pwysau aruthrol ar y gweithlu ac mae heriau mawr yn y gweithlu o hyd yn y ddau sector.

"Mae'r heriau hyn wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw hi i'r gweithwyr proffesiynol medrus sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agos er budd pobl Cymru. Rydyn ni’n falch o gyhoeddi'r adroddiadau hyn, sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn nodi'n glir ein hymrwymiadau ar y cyd am y tair blynedd nesaf."

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru: "Mae’r Strategaeth Gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i ddarparu fframwaith a chyfeiriad effeithiol ar gyfer ein gwaith, ac mae ein profiad dros y blynyddoedd diwethaf wedi tanlinellu pwysigrwydd ei ffocws canolog ar lesiant y gweithlu.

"Gan ei fod yn strategaeth gweithlu ar y cyd, ni fydd yr uchelgais yn cael ei gyflawni gan un partner neu un rhanddeiliad yn unig, a byddwn yn parhau drwy'r cam cyflawni nesaf hwn gyda'r cydweithio a'r gwaith partneriaeth ar bob lefel ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd wedi sicrhau bod y cynnydd wedi'i wneud hyd yma."

Awst 2024