Jump to content
Prif ganfyddiadau o’r monitro diwedd flwyddyn 2023 i 2024 ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)

Mae’r Grant Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) yn rhaglen grant hir-sefydlog i gefnogi hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi cyhoeddi yr adroddiad themau a chanfyddiadau cenedlaethol o sut fuddsoddwyd y grant SCWWDP gan y rhanbarthau yn 2023 i 2024.

Prif ganfyddiadau

Prif ganfyddiadau 2023 i 2024 yw:

  • yn gyffredinol, mae’r cyfanswm gwariant ar SCWWDP wedi cynyddu 1.8 y cant (£219,086) o £12,475,258 i £12,694,344.
  • roedd cynnydd o 9.2 y cant yn y gwariant ar staff sy’n darparu dysgu a datblygu uniongyrchol
  • bu bron i hanner yr awdurdodau lleol (45.5 y cant) weld cynnydd mewn presenoldeb hyfforddiant ar draws y sector.

Bu i’r grant SCWWDP:

  • gefnogi rhaglenni dysgu a datblygu ym mhob un o’r saith rhanbarth yng Nghymru, gyda thuedd barhaus o ddarpariaeth ar lefel leol
  • gefnogi 1,889 o ddysgwyr cymwysterau galwedigaethol, cynnydd o 3.3 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 1,356 o bobl ar hyfforddiant cymhwyso gwaith cymdeithasol, cynnydd o 15.9 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 996 o bobl gyda hyfforddiant ôl-gymhwyso mewn gwaith cymdeithasol, cynnydd o 16.8 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 448 o bobl gyda dyfarniadau arbenigol ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, er enghraifft ymarfer galluogi, asesydd budd gorau a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Roedd hyn yn gynnydd o 15.2 y cant ers y llynedd
  • ddarparu 135,169 o leoedd hyfforddi gyda phresenoldeb o 82.8 y cant
  • helpu i gynyddu presenoldeb mewn hyfforddiant gwasanaethau ehangach fel iechyd, yr heddlu, addysg, gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr. Roedd hyn yn gynnydd o 28.2 y cant ers y llynedd.

Datblygiadau'r dyfodol 

Rydyn ni wedi nodi nifer o ddatblygiadau’r dyfodol sy’n cael eu disgrifio’n fanylach yn yr adroddiad, gan gynnwys:  

  • creu darlun llawnach o ddatblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru  
  • monitro’r risg o fuddsoddi mwy mewn gwaith cymdeithasol  
  • cryfhau canllawiau grant 
  • y nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant a’u presenoldeb yn adlewyrchu proffil y sector 
  • mesur effaith .

Mae’r adroddiad llawn ar gael mewn fformat Microsoft Word isod.

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd i ddatblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn eich ardal leol, cysylltwch â thimau datblygu’r gweithlu yn eich awdurdod lleol.

Yr adroddiad llawn mewn fformat Microsoft Word

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Mawrth 2025
Diweddariad olaf: 27 Mawrth 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (31.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch