Jump to content
Ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb: Yr hyn a wnaethom yn 2023 i 2024

Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gydraddoldeb yn amlinellu’r hyn a wnaethom yn 2023 i 2024 i’n helpu i wireddu pum amcan cydraddoldeb ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Gwella’r defnydd o ddata a gwybodaeth am gydraddoldeb

Rydym yn gwybod bod data safon uchel yn bwysig iawn er mwyn i ni gael mesur ein cynnydd mewn cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. I helpu ni i gyflawni hyn, rydym wedi creu dangosfyrddau data syml gan ddefnyddio’r data rydym yn ei ddal am bobl sydd wedi’u cofrestru gyda ni.

Mae’r rhain yn cynnwys dangosfyrddau am bobl sydd wedi’u cofrestru gyda ni, data am bobl sy’n mynd trwy ein prosesau addasrwydd i ymarfer, yn ogystal â’n data gwrandawiadau.

Rydym hefyd yn casglu data cydraddoldeb a gyflwynir mewn dangosfwrdd Cydraddoldeb.

Mae’r holl ddata yn y dangosfyrddau yn ddienw.

Dangosodd ein data am unigolion cofrestredig ym mis Ebrill 2024 fod gennym:

  • 6,773 gweithwyr cymdeithasol
  • 3 rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu
  • 1,332 rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 25,441 gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 17 rheolwyr lleoliadau oedolion
  • 5 rheolwyr gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc
  • 1,036 rheolwyr gofal cartref
  • 21,804 gweithwyr gofal cartref
  • 24 rheolwyr gwasanaethau maethu
  • 400 rheolwyr gofal preswyl i blant
  • 4,386 gweithwyr gofal preswyl i blant
  • 5 rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • 8 gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • 801 myfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Mae ein data am unigolion cofrestredig yn dangos i ni fod:

  • 79.6 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn Wyn.
  • 10.6 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn Ddu
  • 6.7 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn Asiaidd
  • 1.6 y cant o’n gweithlu cofrestredig o ethnigrwydd cymysg
  • 0.5 y cant o’n gweithlu cofrestredig o unrhyw ethnigrwydd arall
  • 78.4 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn fenywaidd
  • 21.5 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn wrywaidd
  • 1.3 y cant o’n gweithlu cofrestredig ag anabledd
  • 97.8 y cant o’n gweithlu cofrestredig heb anabledd
  • 89.4 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn heterorywiol
  • 1.9 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn ddeurywiol
  • 1.5 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn fenywod lesbiaidd/hoyw
  • 1.1 y cant o’n gweithlu cofrestredig yn ddynion cyfunrywiol/hoyw.

Mae 97.8 y cant o’r holl unigolion cofrestredig wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ar eu ffurflen cyfle cyfartal. Fe allai hyn gynnwys unigolion y mae’n well ganddynt beidio ag ateb.

Mae canran y boblogaeth gofrestredig a atebodd bob cwestiwn yn amrywio, a’r ffigurau yw:

  • anabledd 95.3 y cant
  • cyfeiriadedd rhywiol 95.4 y cant
  • ethnigrwydd 95.6 y cant
  • rhywedd 97.6 y cant.

Ni fyddwn yn adrodd ar unrhyw ddata trawsryweddol, gan fod y niferoedd yn rhy fach ac yn golygu bod perygl o adnabod unigolion.

Pa mor gynrychioliadol yw’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig o gymharu â data Cyfrifiad Cymru (2021)?

Mae ein data am unigolion cofrestredig yn dangos i ni fod:

Ethnigrwydd:

  • Gwyn: 79.6 y cant
  • Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeining: 6.7 y cant
  • Grwpiau ethnig cymysg neu luosog: 1.6 y cant
  • Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: 10.2 y cant
  • Grŵp ethnig arall: 0.7 y cant

Wedi ei gymharu gyda'r data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • Gwyn: 93.8 y cant
  • Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeining: 2.9 y cant
  • Grwpiau ethnig cymysg neu luosog: 1.6 y cant
  • Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: 0.7 y cant
  • Grŵp ethnig arall: 0.7 y cant

Rhyw:

  • Benywaidd: 79 y cant
  • Gwrywaidd: 21.3 y cant

Wedi ei gymharu gyda'r data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • Benywaidd: 51.1 y cant
  • Gwryrwaidd: 51.1 y cant

Anabledd:

  • Ddim gyda anabledd: 98 y cant
  • Gyda anabledd: 2.4 y cant

Wedi ei gymharu gyda'r data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • Ddim gyda anabledd: 78.9 y cant
  • Gyda anabledd: 21.1 y cant

Cyfeiriadedd rhywiol:

  • Heterorywiol: 88.2 y cant
  • Deurywiol: 2.1 y cant
  • Lesbiaidd/dynion/menywod hoyw: 2.6 y cant
  • Arall: 0 y cant

Wedi ei gymharu gyda'r data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • Heterorywiol: 89.4 y cant
  • Deurywiol: 1.2 y cant
  • Lesbiaidd/dynion/menywod hoyw: 1.5 y cant
  • Arall: 0.3 y cant

Ein casgliad blynyddol o ddata’r gweithlu

Bob blwyddyn, rydyn ni’n casglu data gan Awdurdodau Lleol ynglŷn â’u gweithlu gofal cymdeithasol a gomisiynir ac a gyflogir yn uniongyrchol, sy’n ymestyn y tu hwnt i’r rhai hynny sydd wedi’u cofrestru.

Cynhaliwyd y casgliad blynyddol hwn o ddata’r gweithlu yn 2023. Rydym yn parhau i ddadansoddi canlyniadau’r arolwg, a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan pan fyddant ar gael.

Rydym bellach wedi cofrestru dros 25,000 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud cofrestru yn orfodol yn 2023.

Mae 71 y cant o’n gweithwyr cartrefi gofal i oedolion cofrestredig yn wyn.

Mae 28 y cant o’r gweithwyr cartrefi gofal i oedolion o gymunedau mwyafrif byd-eang/lleiafrif ethnig.

Mae’r casgliad gwell hwn o ddata wedi dangos er bod 28 y cant o’r gweithwyr cartrefi gofal i oedolion o gefndiroedd mwyafrif byd-eang/lleiafrif ethnig, bod 95 y cant o reolwyr cartrefi gofal i oedolion yn wyn.

Rheolwyr cartrefi gofal i oedolion a rheolwyr gofal preswyl i blant yw ein grwpiau lleiaf amrywiol.

Mae’r data hefyd yn ddangos bod gan dros 1.5 y cant anabledd. Mae 78 y cant o’r gweithwyr cartrefi gofal i oedolion cofrestredig yn fenywaidd ac mae 22 y cant yn wrywaidd.

Datblygu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu

Rydyn ni wedi bod yn datblygu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar y cyd â chydweithwyr ym maes iechyd a Llywodraeth Cymru, a byddwn yn casglu a chyhoeddi data ynglŷn â hyn yn 2024.

Mae’r Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn offeryn i helpu i fonitro profiad pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru, bydd yn casglu data ynghyd am y gweithlu i helpu dangos ble mae yna gwahaniaethau rhwng profiadau staff Gwyn, Du ac Asiaidd a lleiafrif ethnig. Bydd yn ffocysu ar bedwar categori:

  • arweinyddiaeth a dyrchafiad
  • datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a hyfforddiant
  • disgyblaeth a gallu
  • bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn gallu cael ei ddefnyddio i gefnogi sefydliadau i gymryd camau i fynd i’r afael ê’r materion mwyaf a gwella profiadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig.

Cydraddoldeb yn y gwaith

Ein ‘Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’

Ym mis Hydref 2020, gwnaethom lansio Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gefnogi’r broses o weithredu Cymru Iachach.

Mae heriau gweithlu mawr yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’n anodd denu a recriwtio staff a chadw’r gweithlu presennol. Mae hwn yn digwydd wrth i fwy o bobl angen gwasanaethau i blant ac oedolion, oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio ac awydd pobl i fyw gartref am gyfnod hwy.

Byddwn yn parhau i ddarparu’r cymorth y mae ei angen ar y gweithlu a chyflogwyr, trwy weithio’n gyflym i weithredu’r ymrwymiadau a amlinellir yn y strategaeth gweithlu.

Rydym wedi gwneud cynnydd yn ystod 2023 i 2024, sef ein trydedd flwyddyn lawn o gyflawni’r strategaeth. Dylid dathlu’r cyflawniadau a’r gwelliannau hyn. Rydych yn gallu ddargonfod mwy am y strategaeth gweithlu yn yr adroddiad blynyddol yma.

Cefnogi cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru

Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom barhau i weithio i gyflawni’r camau gweithredu a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hyn wedi cynnwys:

  • comisiynu ymchwil ar ddatblygu opsiynau ar gyfer cynnig arweinyddiaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol, o gefndir mwyafrif byd-eang yn benodol
  • datblygu cynnwys adnodd e-ddysgu gwrth-hiliol ar gyfer pobl sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol. Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr pwnc i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei greu gan bobl sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth yng Nghymru
  • treialu fframwaith cymhwysedd diwylliannol sy’n offeryn datblygu’r gweithle i helpu sefydliadau i roi arfer da yn y gweithle ar waith, gan sicrhau bod gwasanaethau’n deg ac yn gyfartal i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Gwnaethom ni hefyd llunio adroddiad i Lywodraeth Cymru ar ei botensial ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • datblygu ein hymagwedd ar gyfer yr adolygiad o ddogfennau canllaw cymwysterau gyda’r sectorau blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru gyda chymorth a chefnogaeth mentoriaid cymunedol Llywodraeth Cymru.

Ymlaen

Rhwng 2023 i 2024, gwnaethom lansio Ymlaen, sef strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol, a gyhoeddir ym mis Mai 2024.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel thema ganolog felly cynhaliwyd ni gweithdai ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, ac ar y Gymraeg i lywio datblygiad y strategaeth. Wnaethom ni hefyd cynnal grŵp ffocws gyda phobl â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig.

Mae’r strategaeth hon yn cefnogi gwaith gan ystod eang o bartneriaid i gyfrannu at fynd i’r afael â gwahaniaethu, gan gynnwys trwy’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, yn ogystal â Mwy Na Geiriau: Cynllun y Gymraeg, i gyflawni newid mesuradwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Gweithio gyda Chyflogwyr

Rydyn ni wedi cefnogi cyflogwyr i ddechrau ei daith gwrth-hiliaeth trwy gynnal sesiynau gwrth-hiliaeth mewn gofal cymdeithasol at ein sioeau teithiol cyflogwyr.

Darparwyd hyn gan ein gwasanaeth Cynnig i Gyflogwyr.

Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar ddiwygio ein côd ymarfer proffesiynol. Mae hwn er mwyn sicrhau bod ein côd ymarfer yn gyfredol ac yn addas i’n gweithlu rheoleiddiedig.

Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys gofyn i bobl sut maen nhw’n defnyddio ein codau ymarfer a’n canllawiau ymarfer ar hyn o bryd.

Mae’r adolygiad hwn hefyd yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn

  • cael eu hymgorffori yn ein codau cyfredol
  • yn addas i’r diben yn unol â’n safbwynt gwrth-wahaniaethu mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Adolygiad thematig o wrth-hiliaeth o fewn rhaglenni gwaith cymdeithasol rheoleiddiedig yng Nghymru.

Yn ystod 2023 i 2024, gofynnon ni i Sefydliadau Addysg Uwch sy’n cynnig rhaglenni gwaith gofal cymdeithasol i fanylu ei gwaith o gwmpas gwrth-hiliaeth.

Mae hyn wedi cynnwys sut:

  • mae gwrth-hiliaeth yn cael ei haddysgu mewn rhaglenni gwaith cymdeithasol
  • mae strwythurau gwrth-hiliol yn cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Gofalwn Cymru

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Gwnaethom ni parhau i gynnal ein rhaglenni cyflwyniad i ofal cymdeithasol, sy’n rhoi cipolwg i bobl sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal ar beth yw gweithio yn y sector, yn 2023 i 2024. Gwnaethom hefyd gynnal rhaglenni penodol ar gyfer y cymunedau Wcrainaidd ac Affricanaidd yn Abertawe.

Gwnaethom hefyd gynnal cwrs wedi’i deilwra i Ymddiriedolaeth y Tywysog ac i fyfyrwyr coleg sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae ein gwaith yn y maes hwn, yn yr un modd â nifer gynyddol o’n gweithgareddau, yn casglu data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant am gyfranogwyr i’n galluogi i fonitro ein hymgysylltiad â’r rhai hynny sydd â nodweddion gwarchodedig.

Cyflwyniad i ofal plant

Datblygwyd y cwrs Cyflwyniad i ofal plant i wella recriwtio i sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom gyflwyno cwrs penodol ar gyfer pobl ifanc 12 i 20 oed yn yr ysgol uwchradd neu sy’n cwblhau’r cymhwyster lefel 2 neu lefel 3 mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Mae’r elfen hon o’r rhaglen yn gymharol newydd a dechreuodd sesiynau ym mis Rhagfyr 2023.

Hyd yma, mae’r cyflwyniad y person ifanc i’r rhaglen cyflwyniad i ofal plant wedi cyflawni’r canlynol:

  • 44 o sesiynau wedi’u cynnal ers mis Rhagfyr 2023
  • 2295 o ddysgwyr
  • 23 o gyflwyniadau i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11
  • 13 o gyflwyniadau i flynyddoedd 8 a 9.
  • pedwar ffair yrfaoedd
  • pedwar gwasanaeth ysgol.

Cynhwysiant digidol

Fel rhan o’n strategaeth gweithlu yn 2023 i 2024, gwnaethom ni:

  • datblygu a chyfrannu at ddatblygu ystod o adnoddau dysgu a modiwlau dysgu digidol
  • parhau i flaenoriaethu gwella llythrennedd digidol a seilwaith digidol yn y gweithlu trwy grant Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
  • cyhoeddi ymchwil i ddeall statws cyfredol arloesi digidol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac amlygu pa gamau a chymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol
  • cwblhau cam darganfod ar gyfer asesiad aeddfedrwydd a llythrennedd digidol gyda’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • ymuno â’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu safbwynt gofal cymdeithasol.

Llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar

Datblygu ein cynnig llesiant

Yn 2023 i 2024, yn rhan o’n gwaith llesiant, gwnaethom gynnal saith sesiwn a fynychwyd gan 197 o bobl ar draws y sector. Gwnaeth y pynciau cynnwys:

  • llesiant ariannol
  • cymorth i ofalwyr sy’n gweithio
  • cefnogi staff niwrowahanol
  • teimlo’n werthfawr ac wedi’ch cefnogi yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Dywedodd mynychwyr nifer o’r digwyddiadau hyn wrthym fod y sesiynau wedi’u helpu gyda syniadau ac offer i’w rhannu gyda’u staff a’u timau.

Gwnaethom hefyd cynnal sesiynau hyfforddiant ar ddiogelwch seicolegol ac arferion tosturiol a fynychwyd gan 45 o reolwyr ac wedi ei gyflwyno i 24 o fforymau, cynadleddau a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth o lesiant yn y gweithle a’r cymorth sydd ar gael.

Yn ogystal, gwnaethom cynnal ein cynhadledd lesiant gyntaf, a fynychwyd gan 87 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Cafodd y gynhadledd adborth cadarnhaol, gyda 91 y cant yn mynegi bodlonrwydd cyffredinol â’r diwrnod a 100 y cant o’r mynychwyr yn dweud bod y diwrnod wedi bodloni ei amcanion i:

  • gysylltu ag eraill ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • rhannu awgrymiadau a syniadau
  • dysgu am offer a chymorth i’ch helpu chi a’ch staff, gan gynnwys ein fframwaith iechyd a llesiant.

Pwrpas y fframwaith llesiant yw helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant i greu gweithleoedd sy’n cefnogi llesiant y bobl sy’n gweithio iddynt. Mae gweithleoedd positif yn arwain at ofal positif.

Roedd dwy ran o dair o’r rhai a fynychodd ein cynhadledd y llynedd yn ymwybodol o’r Fframwaith, a chwarter o’r rhai a fynychodd ein hyfforddiant.

Rydyn ni wedi parhau i gefnogi a hyrwyddo’r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyffredinol a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd am ddim ar y pwynt mynediad am y tro cyntaf i’r gweithlu cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Monitro iechyd a llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol

Yn 2023 i 2024, gwnaethom ni cyhoeddi canfyddiadau ein harolwg ‘dweud eich dweud’ sef arolwg gweithlu gofal cymdeithasol o’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Gwnaeth mwy na 3,000 gweithwyr gofal cymdeithasol (chwech y cant o’r gweithlu cofrestredig) ymateb, o amrywiaeth eang o rolau.

Canfu’r arolwg fod pobl yn ymuno â’r sector gofal cymdeithasol yn bennaf oherwydd eu bod yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, a’u bod yn credu y byddai’r rôl yn gweddu i’w sgiliau ac y byddent yn gallu ei gwneud yn dda.

Canfu’r arolwg fod traean o weithwyr cymdeithasol wedi profi bwlio yn y gwaith. Gofynnodd ein harolwg os oedd Pobl Cofrestredig wedi profi bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn bersonol yn y gwaith. Tra bod mwy na thri o bob pump (63 y cant) o bobl gofrestredig ddim wedi cael profiadau o’r fath, gwnaeth 37 y cant adrodd o leiaf un profiad.

Dywedodd bron hanner (45 y cant) y bobl gofrestredig o dras Ddu, Ddu Prydeinig, Garibïaidd neu Affricanaidd eu bod wedi profi gwahaniaethu o gymharu â 21 y cant o’r rhai hynny o dras Asiaidd a 14 y cant o weithwyr Gwyn.

Gweithwyr Asiaidd oedd y rhai mwyaf tebygol o ddweud nad oeddent wedi cael unrhyw brofiadau negyddol (73 y cant).

Roedd y rhai hynny o dras Gwyn yn fwy tebygol na grwpiau ethnig eraill o ddweud eu bod wedi profi bwlio.

Mae cysylltiad hefyd rhwng y rhai sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr a chydweithwyr a pheidio â byth wedi cael unrhyw brofiadau o fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu (71 y cant), tra bod y rhai sy’n teimlo bod eu rheolwyr a’u cydweithwyr yn eu helpu a’u cefnogi weithiau yn unig, yn anaml neu byth yn sylweddol fwy tebygol o adrodd am fwlio (42 y cant), gwahaniaethu (26 y cant) ac aflonyddu (17 y cant).

Rhoi gwasanaethau cymorth ar waith

Rydyn ni’n parhau i gynnig cymorth i bobl gofrestredig a thystion yn ein prosesau addasrwydd i ymarfer.

Bu cyfanswm o 42 o geisiadau am gymorth ers i’r gwasanaeth cymorth llesiant gael ei lansio ar gyfer unigolion cofrestredig sy’n mynd trwy’r broses addasrwydd i ymarfer.

Gwnaethom hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael trwy rannu gwybodaeth mewn taflenni ac ar ein gwefan, a chynnwys dolenni i’r gwasanaeth yn yr holl ohebiaeth. Rydym hefyd yn cyfeirio at y gwasanaeth yn uniongyrchol wrth siarad ag unigolion cofrestredig mewn gwrandawiadau i’w hatgoffa o’r gwasanaeth a’u hannog i’w ddefnyddio.

Clywed llais myfyrwyr gwaith cymdeithasol

Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom gomisiynu adroddiad annibynnol i sicrhau ein bod yn ystyried llais y dysgwr (y myfyriwr) yn well mewn rhaglenni gwaith cymdeithasol rheoleiddiedig. Mae rhai canfyddiadau allweddol o’r adroddiad yn dangos bod ni angen:

  1. rhoi mwy o bwyslais ar gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn fwy cyffredinol, gael eu hintegreiddio’n fwy effeithiol i ein reolau, canllawiau a dogfennau ar gyfer cyrsiau rheoleiddiedig
  2. prosesau sy’n gallu cefnogi’r holl fyfyrwyr i roi adborth ystyrlon ar eu cyrsiau drwy gydol eu cyfnod dysgu
  3. ffyrdd cyson ac effeithiol o rannu gwybodaeth yn helpu dysgwyr, a gellid eu gwella.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng Ngofal Cymdeithasol Cymru

Ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein sefydliad

Hyfforddiant a datblygiad staff

Yn 2023 i 2024, roedd yr hyfforddiant ar-lein canlynol ar gyfer modiwlau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gael i’r holl staff:

  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Rhagfarn ddiarwybod i staff a rheolwyr
  • Gwnaeth 77 y cant cwblhau’r cwrs Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant*
  • Gwnaeth 68 y cant cwblhau’r cwrs Rhagfarn Ddiarwybod*

*Mae’r data hwn yn dod o’n hadroddiad Adnoddau Dynol ar ddiwedd y flwyddyn, felly mae’n ymdrin â’r cyfnod o fis Ebrill 2023 tan fis Mawrth 2024. Mae’r ffigurau wedi’u seilio ar weithwyr newydd y byddem wedi disgwyl iddynt gwblhau’r modiwlau erbyn y dyddiad hwn.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau teg yn ein proses Addasrwydd i Ymarfer. Er mwyn sicrhau hyn, cynigiwyd hyfforddiant ychwanegol a manylach ar ragfarn ddiarwybod i bawb sy’n gwneud penderfyniadau rheoleiddiol.

Cynigiwyd yr hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb. Cafodd ei ddilyn gan gyfanswm o 48 o aelodau staff. Roedd y rhain yn cynnwys croestoriad o benderfynwyr rheoleiddiol, yn ogystal â chydweithwyr eraill ar draws y sefydliad.

Fel sefydliad, rydym wedi gweithio’n agos i sicrhau ein bod yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o rywedd. Rydym wedi treialu tri darparwr gwahanol gyda chroestoriad o’n staff. Defnyddiwyd yr ymagwedd hon i amlygu’r hyfforddiant sy’n gweddu orau i anghenion ein holl staff.

Mae ein paneli addasrwydd i ymarfer yn gwneud penderfyniadau allweddol. Cynigiwyd cyfle i holl aelodau’r Paneli Addasrwydd i Ymarfer, sy’n annibynnol, fynychu diwrnod hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, hyfforddiant ymwybyddiaeth o hiliaeth yn ogystal â diweddariad ar achosion cyfreithiol.

Cynllun hyderus o ran anabledd

Rydym wedi cynnal cam un y cynllun ‘Hyderus o ran Anabledd’ eleni ac rydyn ni nawr yn rhannu’r holl gwestiynau cyfweliad gyda darpar ymgeiswyr.

Rydyn ni wedi cryfhau ein ‘Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith’ yn gysylltiedig ag anabledd. Mae ein canllawiau ar gyfarfodydd ar-lein hygyrch wedi symud o ganllawiau i bolisi hefyd.

Rydyn ni hefyd wedi cwblhau gwaith ar ein swyddfa yng Nghaerdydd, sydd wedi cael asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn unol â’n polisi.

Bydd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal yn y gwanwyn 2024 ar gyfer ein swyddfeydd newydd yng Nghyffordd Llandudno.

Recriwtio

Mae recriwtio wedi parhau yn 2023 i 2024.

  • Rydyn ni wedi gweld cynnydd bach mewn ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gyda 10.29 y cant o ymgeiswyr yn dweud wrthym eu bod yn anabl, i fyny o 9.34 y cant yn 2022 i 2023. Rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr ymgeiswyr a benodwyd, gan ddyblu bron o 6.67 y cant i 12 y cant.
  • Ar ôl y cynnydd llynedd mewn ceisiadau gan ymgeiswyr gwrywaidd y llynedd, eleni mae nifer yr ymgeision gan ymgeiswyr gwrywaidd wedi gostwng bron i 14 y cant. Mae cymhareb yr ymgeiswyr gwrywaidd i fenywaidd a benodwyd hefyd wedi cynyddu, gydag ymgeiswyr benywaidd yn cyfrif am 87.5 y cant o’r penodiadau (i fyny o 70 y cant y flwyddyn flaenorol).
  • Cynrychiolir pob oedran ar y cam ymgeisio, sy’n mynd ymlaen i restr fer a phenodiad.

Y grwpiau ethnig a gynrychiolir amlaf yw Gwyn Cymreig a Gwyn Prydeinig. Ond mae’n galonogol gweld ystod eang o ethnigrwydd eraill yn cael eu cynrychioli, er eu bod yn llai o ran nifer. Mae hyn yn adlewyrchu proffil ehangach y Deyrnas Unedig. Nododd data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai Gwyn oedd y grŵp ethnig mwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr (84.8 y cant).

Proses asesu’r effaith ar gydraddoldeb

Gwnaethon ni cynnal gwerthusiad o effeithiolrwydd ein proses Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Archwilio Cymru ‘Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb – mwy nag ymarfer blwch ticio’.

Rydyn ni wedi diweddaru ein broses asesu’r effaith ar gydraddoldeb ac yn dechrau proses newid diwylliannol yn 2024 i 2025.

Recriwtio i’r bwrdd

Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethon ni recriwtio 11 aelod Bwrdd.

Dywedodd ein Cadeirydd Bwrdd Mick Giannasi, fod yr ymgeiswyr llwyddiannus: “Wedi cael eu dewis yn ofalus o gronfa gychwynnol o 86 o ymgeiswyr, ac maen nhw’n cynnig ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Mae rhai’n gweithio’n uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol tra bod eraill yn cynnig sgiliau o fyd busnes ac arweinyddiaeth neu’n meddu ar brofiad personol fel defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Maen nhw i gyd yn rhannu ymrwymiad i’n gwerthoedd fel sefydliad ac awydd cryf i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Rydym yn arbennig o falch bod ein Bwrdd newydd yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gydag aelodau o wahanol gefndiroedd ethnig, rhywedd, oedran a galluoedd corfforol.

“Edrychaf ymlaen at eu cyfraniadau wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r bobl yng Nghymru sy’n dibynnu ar ofal a chymorth i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddynt.”

Beth arall rydyn ni’n ei wneud i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwahanol gynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a’u rhoi ar waith, gan gynnwys:

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i weithredu argymhellion adroddiad ‘Profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: sut mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is yn cael ei trin’ a gyhoeddwyd gan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn 2022.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydyn ni’n cydnabod y pwysigrwydd o weithio gyda’r sector, y rhai hynny sydd â phrofiadau bywyd a phartneriaid eraill i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethon ni barhau i weithio gyda sefydliadau fel Arolygiaeth Gofal Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru), rheoleiddwyr proffesiynol eraill a Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth hyn ein helpu i weithio tuag at gyflawni’r amcanion hyn.

Cynghreiriaeth

Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein gwaith yn helpu Cymru i fod yn wlad wrthwahaniaethol.

Mae gennym grŵp staff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewnol gweithredol, sy’n llywio ein gwaith cydraddoldeb. Gwnaethon ni ailffurfio’r grŵp hwn yn 2023 i 2024 i fod yn rhan o’n strwythur atebolrwydd mewnol.

Rydyn ni’n datblygu ein rhaglen gynghreiriaeth trwy sicrhau ein bod yn nodi digwyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu, Mis Balchder a’r wythnos Niwrowahaniaeth.

Mae ein dathliadau’n cael eu harwain gan staff, ac mae llawer ohonynt yn rhannu straeon personol i’n helpu i ddeall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn well.

Cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb

Rydyn ni’n adrodd ar ein perfformiad ac yn ceisio adborth yn rheolaidd. Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn adlewyrchu’r camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni ein pum amcan cydraddoldeb.

Cyflog cyfartal

Rydyn ni’n cynnal adolygiad cyflog cyfartal bob blwyddyn. Rydyn ni’n gwneud hyn i weld a oes unrhyw anghydraddoldebau cyflog posibl ac i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd y mae angen i ni weithredu arnynt.

Rydyn ni’n gwirio nad ydyn ni’n gwahaniaethu’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn erbyn unrhyw gyflogai neu grŵp o gyflogeion trwy ein systemau cyflog.

Mae’r archwiliad yn ymdrin â’r naw nodwedd warchodedig a amlygir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • rhyw
  • oedran
  • anabledd
  • hil
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd neu famolaeth
  • crefydd neu gred
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • priodas a phartneriaeth sifil.

Ym mis Mehefin 2024, ein bwlch cyflog rhywedd oedd 10.96 y cant i lawr o 11.8 y cant llynedd.

Ein gwybodaeth cydraddoldeb staff

Rydyn ni’n cynnal arolwg cydraddoldeb ac amrywiaeth ynglŷn â’n staff bob blwyddyn. Rydyn ni’n gofyn i staff ddiweddaru eu gwybodaeth amrywiaeth bob mis Mehefin cyn ein harchwiliad cyflog cyfartal blynyddol.

Amrywiaeth ein staff

Mehefin 2024

Rhyw

Gwrywaidd: 24.9 y cant
Benywaidd: 75.1 y cant

Hunaniaeth rhywedd*

Trawsryweddol: 0 y cant

*Ym mis Mehefin 2023, gwnaethon ni darparu dadansoddiad o’r grwpiau hyn. Nid ydym wedi gwneud hynny eleni o ganlyniad i’r niferoedd bach, oherwydd fe allai fod modd adnabod pobl unigol.

Oedran

18 i 21: 0 y cant
22 i 29:
16.7 y cant
30 i 39:
27.9 y cant
40 i 49:
31.3 y cant
50 i 59:
21.9 y cant
60+:
2.1 y cant

Crefydd

Anfyddiwr: 4.3 y cant
Agnostic:
2.6 y cant
Cristion:
23.6 y cant
Iddew:
0.4 y cant
Hindŵ:
0.4 y cant
Dim:
36.1 y cant
Arall (heb ei nodi):
0 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
36.1 y cant

Cyfeiriadedd rhywiol

Deurywiol: 2.6 y cant
Cyfunrywiol:
1.7 y cant
Heterorywiol:
33.9 y cant
Panrywiol:
0.9 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
60.9 y cant

Anabledd

Ie: 10.7 y cant
Na:
32.2 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
57.1 y cant

Hil

Unrhyw gefndir gwyn: 33.5 y cant
Unrhyw gefndir Du a lleiafrif ethnig:
1.2 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
65.2 y cant


Mehefin 2023

Rhyw

Gwrywaidd: 25.3 y cant
Benywaidd: 74.2 y cant

Hunaniaeth rhywedd*

Trawsryweddol: 0.5 y cant

*Ym mis Mehefin 2023, gwnaethon ni darparu dadansoddiad o’r grwpiau hyn. Nid ydym wedi gwneud hynny eleni o ganlyniad i’r niferoedd bach, oherwydd fe allai fod modd adnabod pobl unigol.

Oedran

18 i 21: 0 y cant
22 i 29:
19.6 y cant
30 i 39:
28.9 y cant
40 i 49:
28.9 y cant
50 i 59:
20.6 y cant
60+:
2.1 y cant

Crefydd

Anfyddiwr: 5.2 y cant
Agnostic:
3.1 y cant
Cristion:
17 y cant
Iddew:
0.5 y cant
Hindŵ:
0 y cant
Dim:
34 y cant
Arall (heb ei nodi):
2.6 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
37.6 y cant

Cyfeiriadedd rhywiol

Deurywiol: 2.6 y cant
Cyfunrywiol:
1 y cant
Heterorywiol:
50.5 y cant
Panrywiol:
0.5 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
45.4 y cant

Anabledd

Ie: 4.6 y cant
Na:
40.2 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
55.2 y cant

Hil

Unrhyw gefndir gwyn: 38.7 y cant
Unrhyw gefndir Du a lleiafrif ethnig:
2.2 y cant
Gwell gennyf beidio ag ateb / heb ddatgan:
57.2 y cant


Caffael

Rydyn ni eisiau sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i’n prosesau caffael. Rydyn ni’n sicrhau bod yr holl gyflenwyr yn gwybod bod rhaid iddynt barchu ein hymrwymiad i atal gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a bod yn dryloyw.

Rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn ein prosesau a’n gweithgareddau caffael. Rydyn ni’n gwneud hyn yn ystod y cam cynllunio caffael trwy:

  • ddatblygu meini prawf sy’n ystyried effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol tymor byr a thymor hir
  • pennu’r wybodaeth rydym ei heisiau gan gyflenwyr posibl fel y gallwn gymhwyso’r meini prawf hynny’n deg
  • gweithio gyda chyflenwyr i amlygu ffyrdd mwy cynaliadwy o fodloni anghenion
  • croesawu datrysiadau arloesol gan gyflenwyr, gan gynnwys busnesau bach a chanolig.

Cyhoeddwyd ein ‘Strategaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu wrth gaffael’ ym mis Medi 2022 ac rydym wedi datblygu cynllun gweithredu i’n helpu i’w rhoi ar waith.

Ymrwymiad i'r Gymraeg

Rydyn ni’n cydnabod ein cyfrifoldebau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’n rôl arweiniol wrth gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ‘Mwy na geiriau: cynllun pum mlynedd 2022-2027’.

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg (Deddf yr Iaith Gymraeg 1993) a safonau’r Gymraeg yn nodi sut y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Nid yw'r Gymraeg yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ond mae ein hymagwedd a'n gwerthoedd yn sicrhau bod ein gwaith a'n penderfyniadau polisi yn adlewyrchu pwysigrwydd y Gymraeg i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Yn ystod 2023 i 24, gwnaethom ni cefnogi’r sector i ddatblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog. Gwnaethom ni hefyd datblygu adnoddau i alluogi cyflogwyr i asesu a chofnodi sgiliau Cymraeg eu cyflogeion, gan felly roi data sylfaenol iddynt i gefnogi datblygiad ieithyddol, monitro cynnydd a chefnogi cynllunio’r gweithlu. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys:

  • treialu rhaglen cymorth newydd i gyflogwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn eu sefydliadau. Gan weithio gydag 20 o ddarparwyr ledled Cymru, mae’r prosiect yn ceisio helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn eu sefydliadau
  • cynnal ymgyrch iaith Gymraeg genedlaethol trwy Gofalwn yn ystod y gwanwyn 2023. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r sector gofal cymdeithasol fel gweithle gwerthfawr i bobl sydd eisoes â sgiliau Cymraeg ac annog y rhai sydd eisoes yn y sector i ddefnyddio’r iaith
  • lansio modiwl e-ddysgu newydd ar ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr yn y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a gweithio’n ddwyieithog
  • parhau i weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu dysgu ar-lein wedi’i deilwra i’r sector gofal cymdeithasol. Mae’r cyrsiau Camau mewn 3 rhan o 20 awr yr un, a gall dysgwyr eu cwblhau ar eu cyflymder eu hunain ac ar adeg sy’n gyfleus iddynt.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr adroddiad blynyddol hwn neu os hoffech lywio ein gwaith i gyflawni ein cynllun cydraddoldeb strategol a’n hamcanion cydraddoldeb, cysylltwch â ni.

E-bost: edi@socialcare.wales