Jump to content
Gwerthusiad annibynnol o raglen dysgu 2016-17

Mae ICF Consulting Services wedi cynhyrchu gwerthusiad annibynnol o raglen hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r adroddiad dwyieithog yn edrych ar sut cafodd yr hyfforddiant ei ddarparu ac effaith y rhaglen ar wybodaeth a sgiliau staff yn y sector gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector gwirfoddol.

Mae'r gwerthusiad yn ail flynedd y rhaglen ddwy flynedd ac yn edrych ar:

  • parodrwydd a hyder y gweithlu i weithredu’n unol â'r Ddeddf
  • ansawdd y deunyddiau dysgu a'r hyfforddiant a ddarparwyd
  • pa mor dda oedd y rhaglen yn cael ei chynnal
  • ei gwerth am arian.

Darllenwch y crynodeb gweithredol ar gyfer gwerthusiad 2016-17.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi creu Stori y Ddeddf, sy'n tynnu ar adroddiad ICF uchod i roi darlun cyflawn o'r rhaglen hyfforddiant ddwy flynedd hon.

Stori y Ddeddf yn PowerPoint

Mae'r crynodeb gweithredol ar gyfer gwerthusiad 2015-16 hefyd ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mai 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (29.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch