Jump to content
​Cynllunio a Hyrwyddo

Canllaw i adnoddau cynllunio a chomisiynu

Bydd y canllaw i adnoddau hon yn helpu eich dealltwriaeth o gynllunio a chomisiynu o dan y Ddeddf gan gyfeirio'n benodol at y rhai y mae cydgynhyrchu yn dylanwadu arnynt. Mae’n cynnwys dolenni i fwy o wybodaeth ac adnoddau perthnasol, megis cyflwyniadau, ymchwil ac adroddiadau gwerthuso, fideos, briffiau a gwefannau defnyddiol.

Pecyn cymorth asesiad poblogaeth

Datblygodd yr Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol y Pecyn Cymorth Asesiad Poblogaeth hwn, ochr yn ochr â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill, i gefnogi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Nod y pecyn yw cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i asesu amryw boblogaethau a chyhoeddi'r canlyniadau.

Pecyn Cymorth Cynllunio Ardal (Adran 14a)​

Mae'r pecyn cymorth hwn ar gyfer cefnogi Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol i gwrdd ag anghenion Canllaw Ystadegol ar gyfer Cynlluniau Ardal o dan Adran 14A

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mai 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (43.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch