Jump to content
Yr hyn y dylech chi ei wybod: cyflgowyr yn cefnogi menopos
Digwyddiad

Yr hyn y dylech chi ei wybod: cyflgowyr yn cefnogi menopos

Dyddiad
13 Hydref 2025 i 23 Hydref 2025, 1.15pm i 2.45pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod pam mae’r menopos yn fater yn y gweithlu a beth y gall cyflogwyr wneud i gefnogi eu staff.

Byddwn ni’n archwilio sut y gall newidiadau i’r gyfraith effeithio ar gyfrifoldebau yn y gweithle a sut y gall sefydliadau greu amgylcheddau mwy cynhwysol a chefnogol i bawb – waeth beth fo'u hoedran neu ryw.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn i gyflogwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • deall beth yw menopos a'r ystod o symptomau y gall pobl eu profi
  • darganfod pam mae menopos yn bwysig yn y gweithle a sut mae'n cysylltu â chydraddoldeb, lles, a chyfrifoldebau cyfreithiol
  • archwilio'r hyn y gall cyflogwyr ei wneud i gefnogi staff sy'n mynd trwy'r menopos
  • meddwl am sut mae'r menopos yn effeithio arnoch chi a'ch cydweithwyr, a pha newidiadau allai wneud gwahaniaeth
  • darganfod sut y gallwch chi a'ch tîm helpu i lunio diwylliant gweithle mwy cefnogol a chynhwysol
  • dysgu sut i baratoi ar gyfer newidiadau sydd ar ddod mewn cyfraith cyflogaeth a dangos arweinyddiaeth ar les gweithwyr.

Dyddiadau

Cliciwch y ddolen perthnasol ar gyfer y dyddiad rydych chi am fynychu. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu.