Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal ymunwch â ni ar ddiwrnod Shwmae Su’mae i glywed mwy am gyrsiau dysgu Cymraeg Camau, sydd ar gael am ddim.
Rydyn ni wedi creu’r cwrs Camau mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol.
Mae’n cynnig dysgu hyblyg, ar-lein drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau yr ydych chi eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl yr ydych yn eu cefnogi.