Jump to content
Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr
Digwyddiad

Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr

Dyddiad
14 Gorffennaf 2026, 9.30am i 3pm
Lleoliad
Yr Hafren, Y Drenewydd, Powys
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch a ni i glywed mwy am yr ystod o wasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae'r sesiwn yma ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn

Dewch i glywed am y gwasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i chi gan gynnwys:

  • ein ‘cynnig i gyflogwyr’ a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Y Codau Ymarfer Proffesiynol a chanllaw newydd.

Bydd cyfle hefyd i barhau i sgwrsio am y pynciau uchod ag arbenigwyr a staff eraill, i archwilio sut gallwch chi ddefnyddio’r cymorth a’r adnoddau yn eich sefydliad.

Bydd diodydd a chinio ar gael.