Ar gyfer pwy mae’r sesiynau
- gweithwyr gofal cymdeithasol
- gweithwyr cymdeithasol
- rheolwyr tîm
- uwch reolwyr
- unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.
Cynnwys y sesiynau
Rydyn ni’n diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr, i sicrhau eu bod mor glir a hawdd i'w defnyddio â phosibl.
Mae'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn ein helpu i wella a diweddaru'r canllawiau ymarfer sy'n gysylltiedig â'r Codau.
Gan adeiladu ar adborth sydd eisoes wedi'i rannu, rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y canllawiau ymarfer newydd yn ystyrlon ac yn fuddiol ar gyfer ymarfer bob dydd. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n sicrhau eu bod:
- wedi eu hysgrifennu'n glir
- wedi eu strwythuro'n dda
- yn hawdd i’w llywio a'u diweddaru,
- yn hygyrch.
Gallwch chi ein helpu i wneud hyn drwy ymuno a'r digwyddiadau yma, sy'n cael eu cynnal gan IPC.
Yn ystod y sesiynau, cewch gyfle i helpu i lunio'r canllawiau ymarfer diwygiedig. Rydyn ni’n awyddus i wybod beth sy'n gweithio orau i chi, ac i wybod mwy am eich profiad o ddefnyddio’r canllawiau ymarfer presennol.
Os oes gennych chi gwestiynau am y digwyddiadau, cysylltwch â Lucy Asquith lasquith@brookes.ac.uk neu Steph Lyons slyons@brookes.ac.uk yn IPC.