Jump to content
Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 4 a 5 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
Digwyddiad

Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 4 a 5 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant

Dyddiad
22 Mai 2024 i 3 Rhagfyr 2024, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

I bwy mae'r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sydd am gefnogi eu staff blynyddoedd cynnar a gofal plant i fod yn arweinwyr neu reolwyr trwy dysgu yn y gweithle.

Mae’r sesiynau’n agored i:

  • arweinwyr
  • mentoriaid
  • dirprwyon
  • rheolwyr
  • cyflogwyr.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • esbonio pam mae’r cymwysterau’n bodoli
  • esbonio cynnwys y cymwysterau, a sut maen nhw’n cael eu darparu a’u hasesu, gan gynnwys:
    • Lefel 4 Paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli
    • Lefel 4 Ymarfer proffesiynol ac ymarfer rheoli
    • Lefel 5 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • esbonio’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Dyddiadau

Rydyn ni’n cynnal y seisynau sawl gwaith. Ond unwaith sydd rhaid i chi fynd.

  • 22 Mai, 10am i 11am
  • 11 Medi, 10am i 11am
  • 3 Rhagfyr, 10am i 11am.