Jump to content
Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD)
Digwyddiad

Sesiwn gwybodaeth: cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD)

Dyddiad
7 Mai 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein (Zoom)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am gymwysterau CCPLD, y cynnwys a pha gymwysterau rydych chi eu hangen.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • ddysgu pam mae cymwysterau CCPLD yn bwysig
  • ddysgu am y cymwysterau CCPLD Lefel 2 Craidd, Lefel 2 Ymarfer a Lefel 3 Ymarfer, gan gynnwys cynnwys, darpariaeth ac asesiadau
  • ddarganfod gwybodaeth am ba gymwysterau rydych chi eu hangen er mwyn gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
  • gael ychydig o arweiniad ar y fframwaith cymwysterau.